Newydd i Gredyd Cynhwysol

6. Eich cyfrifoldebau

Mae Credyd Cynhwysol yn rhoi cymorth ariannol i chi. Yn gyfnewid, disgwylir i chi wneud rhai pethau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Newidiadau yn eich sefyllfa

Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw newidiadau yn eich sefyllfa, oherwydd gallai’r rhain olygu newidiadau i faint o Gredyd Cynhwysol a gewch neu’r hyn a ddisgwylir gennych.  Gall newidiadau fod yn bethau fel:

  • dod o hyd i neu orffen swydd
  • cael plentyn neu ofalu am blentyn
  • newid i’ch cyfeiriad
  • mynd yn sâl
  • newid yn eich cyflwr iechyd
  • newid i’ch manylion bancio
  • eich taliadau rhent yn mynd i fyny neu i lawr
  • partner yn ymuno neu’n gadael y cartref rydych chi’n ei rentu ac yn byw ynddo

Efallai y bydd newidiadau eraill nad ydynt wedi’u rhestru yma. Os oes unrhyw newidiadau yn eich sefyllfa, trafodwch nhw gyda’ch anogwr gwaith neu cysylltwch â Chredyd Cynhwysol i weld a fyddant yn effeithio ar eich taliadau neu’r hyn y disgwylir i chi ei wneud.

Gelwir y rhain yn aml yn newid mewn amgylchiadau. Am fwy o wybodaeth gweler Credyd Cynhwysol: Dweud am newid mewn amgylchiadau

Paratoi neu chwilio am waith

Yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol bydd angen i chi wneud rhai pethau. Bydd yr hyn y disgwylir i chi ei wneud yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Bydd yn ystyried pethau fel cyfrifoldebau gofalu, neu a ydych chi’n anabl neu â chyflwr iechyd.

Gyda Chredyd Cynhwysol, fel arfer fe gewch anogwr gwaith i’ch helpu os ydych chi’n paratoi ar gyfer gwaith, yn symud i mewn i waith neu’n edrych i gynyddu eich enillion. Efallai y byddant yn parhau i ddarparu cefnogaeth a chyngor pan fyddwch chi’n dechrau gweithio, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os gallwch baratoi am neu chwilio am waith, bydd hyn yn cynnwys mynychu apwyntiadau gyda’ch anogwr gwaith.

Gall y rhain ddigwydd dros y ffôn, galwad fideo neu wyneb yn wyneb mewn Canolfan Gwaith.

Sut bynnag mae eich apwyntiad i fod i gael ei gynnal, mae’n bwysig eich bod yn mynychu. Os gofynnir i chi fynd i apwyntiad ond nad ydych yn mynychu a does gennych ddim rheswm da pam, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu heffeithio.

Os oes rheswm da pam na allwch fynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Nid yw gorchuddion wyneb bellach yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, fodd bynnag, mae canllawiau’r llywodraeth yn cynghori parhau i wisgo un i helpu i atal lledaeniad Coronafeirws.

Nid oes angen i chi fynychu’r ganolfan gwaith oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny. Os ydych angen cysylltu â ni, y ffordd orau i wneud hyn yw ar-lein neu dros y ffôn.

Os ydych angen mynd i ganolfan gwaith, maent ar agor a bydd un o’n cydweithwyr yn gallu eich helpu.

Ni fydd DWP byth yn anfon neges destun nac e-bost yn gofyn am wybodaeth bersonol na manylion banc.

Eich Ymrwymiad Hawlydd

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr hyn a wnewch yn cael ei gytuno arno yn ystod sgwrs gyda’ch anogwr gwaith. Bydd yr hyn rydych chi a’ch anogwr yn ei gytuno yn cael ei ysgrifennu i lawr mewn Ymrwymiad Hawlydd. Bydd hyn yn nodi’r hyn rydych wedi cytuno i’w wneud i:

  • paratoi ar gyfer gwaith
  • chwilio am waith
  • cynyddu eich enillion os ydych eisoes yn gweithio

Bydd eich Ymrwymiad Hawlydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gall gael ei newid os bydd eich amgylchiadau’n newid. Bob tro mae’n newid bydd yn rhaid i chi dderbyn a llofnodi Ymrwymiad Hawlydd newydd.

Gallwch ofyn i newid eich Ymrwymiad Hawlydd, ond bydd angen i bob newid gael ei gytuno gyda’ch anogwr gwaith. Os ydych yn credu bod pethau y dylid eu cymryd i ystyriaeth, dylech siarad â’ch anogwr gwaith am y rhain fel eu bod yn gallu deall eich sefyllfa’n llwyr. Gweler enghreifftiau o amgylchiadau a allai effeithio eich Ymrwymiad Hawlydd.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl, bydd yn rhaid i’r ddau ohonoch dderbyn Ymrwymiad Hawlydd unigol.

Am fwy o wybodaeth gweler Credyd Cynhwysol a’ch Ymrwymiad Hawlydd

Beth fydd disgwyl i chi ei wneud

Os ydych yn gallu gweithio ac ar gael i weithio bydd angen i chi wneud popeth rhesymol y gallwch i roi’r cyfle gorau i chi ddod o hyd i waith. Disgwylir i baratoi ar gyfer a chael swydd fod eich ffocws llawn amser.

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd (yn cynnwys cyflyrau iechyd meddwl) sy’n cyfyngu ar eich gallu i weithio, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda chi i’ch cefnogi orau yn ystod y cyfnod hwn. Efallai y gofynnir i chi wneud gweithgareddau chwilio am waith neu baratoi am waith sy’n rhesymol ar gyfer eich cyflwr a sefyllfa. Nid oes angen eich bod wedi cael eich asesu fel bod gennych allu cyfyngedig i weithio er mwyn i’ch cyflwr iechyd neu anabledd gael ei gymryd i ystyriaeth. Mae pob un o’r gofynion yn cael eu cytuno arnynt gyda’ch anogwr gwaith ac ni ofynnir i chi wneud rhywbeth sydd ddim o fewn eich gallu.

Os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn gwella neu’n gwaethygu, bydd yr hyn a ofynnir i chi yn newid i gyd fynd a’ch sefyllfa newydd.

Os oes gennych Nodyn Ffitrwydd cyfredol gan eich Meddyg Teulu yna ni ofynnir i chi gymryd gwaith neu i fod ar gael i weithio.

Gall amgylchiadau eraill hefyd gael effaith ar yr hyn y gofynnir i chi ei wneud. Dylech siarad â’ch anogwr gwaith am unrhyw beth a allai eich atal rhag gallu canolbwyntio’n llawn ar ddod o hyd i waith neu baratoi ar gyfer gwaith. Gallai hyn gynnwys:

  • Cyfrifoldebau gofal plant. Gweler yr adran gofal plant i ddarganfod sut mae oedran eich plentyn ieuengaf yn effeithio beth fydd disgwyl i chi ei wneud.
  • Trais domestig. Os ydych wedi dioddef cam-drin domestig, gall y ganolfan gwaith gael gwared dros dro ar yr angen i chi chwilio am waith fel y gallwch ganolbwyntio ar eich anghenion uniongyrchol. Darllenwch fwy am y gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr trais domestig
  • Digartrefedd. Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, gellir oedi’r angen i chi chwilio am neu baratoi ar gyfer gwaith er mwyn i chi allu canolbwyntio ar ddod o hyd i rywle i fyw.
  • Profedigaeth. Os ydych wedi dioddef profedigaeth dylech roi gwybod i’ch anogwr gwaith fel y gallwch drafod sut y gallai effeithio ar yr hyn y mae disgwyl i chi ei wneud.
  • Cyfrifoldebau gofalu. Os ydych yn gyfrifol am ofalu am rywun arall, fel perthynas anabl, gellir ystyried hyn wrth drafod yr hyn y bydd disgwyl i chi ei wneud.
  • Camddefnyddio cyffuriau neu alcohol. Os ydych mewn triniaeth strwythuredig ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau a/neu alcohol efallai na fydd yn ofynnol i chi edrych neu fod ar gael i weithio am hyd at 6 mis.
  • Gadael gofal. Mae cynnig gadael gofal yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnwys astudio ar gyfer addysg lefel uwchradd hyd at 22 oed, ac yn ystod yr amser hwnnw efallai na fydd gofyn i chi edrych am neu fod ar gael i weithio.

Darganfyddwch fwy am sut gallai eich sefyllfa effeithio beth mae disgwyl i chi ei wneud yn gyfnewid am Gredyd Cynhwysol.

Os nad oes angen i chi wneud gweithgareddau chwilio am waith neu sy’n gysylltiedig â gwaith byddwch yn parhau i gael eich cefnogi tra rydych yn parhau ar Gredyd Cynhwysol.

Cyfrifoldebau gofal plant

Os mai chi yw’r prif ofalwr dros blentyn, bydd yr hyn a ddisgwylir gennych yn seiliedig ar oedran y plentyn ieuengaf yn eich cartref.

Mae’r tabl hwn yn dangos beth fydd disgwyl i chi ei wneud yn gyfnewid am Gredyd Cynhwysol, yn dibynnu ar oed eich plentyn ieuengaf. Efallai bydd amgylchiadau eraill hefyd yn effeithio beth ofynnir i chi ei wneud.

Oed eich plentyn ieuengafEich cyfrifoldebau
O dan 1 oedNid oes angen i chi chwilio am waith er mwyn cael Credyd Cynhwysol.
1 oedOs nad ydych eisoes yn gweithio, nid oes angen i chi chwilio am waith er mwyn cael Credyd Cynhwysol. Gofynnir i chi fynd i gyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith gyda'ch anogwr gwaith i drafod cynlluniau ar gyfer symud i mewn i waith yn y dyfodol a bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau.
2 oedDisgwylir i chi gymryd camau gweithredol i baratoi ar gyfer gwaith. Bydd hyn yn cynnwys cael cyfweliadau rheolaidd sy'n canolbwyntio ar waith gyda'ch anogwr gwaith, cytuno ar raglen o weithgareddau wedi'u teilwra i'ch amgylchiadau unigol a allai gynnwys rhai gweithgareddau hyfforddi a pharatoi at waith (er enghraifft, ysgrifennu'ch CV).
3 neu 4 oedDisgwylir i chi weithio uchafswm o 16 awr yr wythnos, neu dreulio 16 awr yr wythnos yn chwilio am waith. Gallai hyn gynnwys rhywfaint o hyfforddiant a chyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith.
Rhwng 5 a 12 oedDisgwylir i chi weithio uchafswm o 25 awr yr wythnos, neu dreulio 25 awr yr wythnos yn chwilio am waith. Gallai hyn gynnwys rhywfaint o hyfforddiant a chyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith.
13 oed a throsoddDisgwylir i chi weithio uchafswm o 35 awr yr wythnos, neu dreulio 35 awr yr wythnos yn chwilio am waith. Gallai hyn gynnwys rhywfaint o hyfforddiant a chyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith.

Dylech ddweud wrth eich anogwr gwaith cyn gynted â’ch bod yn derbyn cynnig swydd oherwydd gallwch wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant am o leiaf mis cyn i chi ddechrau gweithio.

Mae rhieni sy’n gweithio sydd ar Gredyd Cynhwysol nawr yn gallu derbyn gymorth ariannol pellach gyda’u costau gofal plant. Gallai hyn fod hyd at £951 ar gyfer 1 plentyn neu hyd at £1,630 ar gyfer 2 neu fwy o blant. Mae rhieni cymwys sy’n hawlio Credyd Cynhwysol hefyd yn gallu cael help gyda’u gofal plant ymlaen llaw fel y gallant dalu eu set nesaf o gostau yn haws. Dylai rhieni sy’n symud i waith neu gynyddu eu horiau gwaith siarad â’u hanogwr gwaith Credyd Cynhwysol a all ddarparu mwy o wybodaeth.

Am fwy o wybodaeth gweler Credyd Cynhwysol: gwybodaeth bellach i deuluoedd

Os na fyddwch yn gwneud beth rydych wedi’i gytuno iddo

Os nad ydych yn cwrdd â’ch cyfrifoldebau neu’n gwneud yr hyn rydych chi wedi’i gytuno yn eich Ymrwymiad Hawlydd, gallai eich taliadau Credyd Cynhwysol gael eu stopio neu eu lleihau. Gelwir hyn yn sancsiwn


;