Newydd i Gredyd Cynhwysol

12. Hunangyflogaeth

Os ydych yn hunangyflogedig bydd Credyd Cynhwysol yn darparu cymorth i’ch helpu i dyfu eich busnes.

I gael y cymorth yma byddwch angen i allu dangos:

  • mae hunangyflogaeth yw eich prif swydd neu’ch prif ffynhonnell incwm
  • rydych yn cael gwaith rheolaidd o hunangyflogaeth
  • mae eich gwaith wedi’i drefnu – mae hyn yn golygu bod gennych anfonebau a derbynebau, neu gyfrifon
  • rydych yn disgwyl gwneud elw

Os gallwch ddangos yr holl bethau hyn, fe’ch ystyrir yn ‘hunangyflogedig â thâl’. Os na allwch ddangos yr holl bethau hyn efallai y bydd yn rhaid i chi chwilio am waith arall os ydych am barhau i gael Credyd Cynhwysol.

Gwiriwch eich hawl i Gredyd Cynhwysol

Credyd Cynhwysol: Faint fyddwch chi’n ei gael

Os ydych yn hunangyflogedig â thâl wrth hawlio Credyd Cynhwysol ni fydd disgwyl i chi edrych, na bod ar gael, am waith arall. Bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio ar wneud eich busnes yn llwyddiant.

Fodd bynnag, cymerir yn ganiataol eich bod yn ennill yr un swm â rhywun fel chi sydd mewn gwaith â thâl. Dyma fel rheol fyddai’r hyn y byddai rhywun o’ch oedran yn ei ennill pe byddent yn gweithio ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am nifer yr oriau y mae disgwyl i chi weithio neu chwilio am waith. Yr enw ar y swm hwn yw’r Llawr Isafswm Incwm

Os oes cais gennych eisoes, bydd Credyd Cynhwysol yn cysylltu â chi am y newidiadau hyn cyn iddynt ddigwydd.

Os ydych yn ennill llai na’r Llawr Isafswm Incwm, ni fydd Credyd Cynhwysol yn gwneud i fyny am y gwahaniaeth. Efallai y bydd angen i chi chwilio am waith ychwanegol i ychwanegu at eich incwm.

Os ydych yn ennill mwy na’r Llawr Isafswm Incwm, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich enillion gwirioneddol.

Ni fydd y Llawr Isafswm Incwm yn cael ei gymhwyso am hyd at 12 mis ar ôl i chi ddechrau hunangyflogaeth. Gelwir hyn yn gyfnod dechrau busnes, ac yn ystod y cyfnod nid oes angen i chi edrych, neu fod ar gael, am waith arall. Ond bydd angen i chi ddangos eich bod yn cymryd camau i adeiladu eich busnes a chynyddu eich enillion pan fyddwch yn siarad â’ch Anogwr Gwaith.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw enillion o hunangyflogaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau bob mis.

Am fwy o wybodaeth gwelwch Credyd Cynhwysol i’r hunangyflogedig

Asedau busnes

Os ydych yn hunangyflogedig â thâl ni fydd eich asedau busnes yn cael eu hystyried wrth wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Ni fyddant ychwaith yn cael eu hystyried pan fyddwn yn gweithio allan faint o Gredyd Cynhwysol y mae gennych hawl iddo. Mae asedau busnes yn cynnwys pethau fel peiriannau, adeiladau ac arian parod a ddelir yn eich cyfrif busnes.

Enillion a cholledion dros ben

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn hawlio Credyd Cynhwysol, gellir ystyried enillion neu golledion o un mis wrth gyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol a dderbyniwch mewn mis diweddarach.

Os ydych yn ennill mwy na £2,500 dros y swm misol y gallwch ei ennill cyn na fyddwch yn derbyn unrhyw daliad Credyd Cynhwysol, dywedir bod gennych enillion dros ben. Swm yr enillion sy’n uwch na’r trothwy o £2,500 yw’r enillion dros ben a byddant yn cael eu hystyried yn y cyfnod asesu misol nesaf. Gall hyn leihau swm y Credyd Cynhwysol a dderbyniwch mewn misoedd diweddarach, neu efallai olygu na allwch gael unrhyw daliad Credyd Cynhwysol yn ystod y misoedd hynny

Os gwnewch golled mewn un mis, bydd y golled yn cael ei storio a’i hystyried mewn misoedd pan fyddwch yn gwneud elw. Os nad yw’r elw’n ddigon uchel i dalu am golled yn llawn, bydd y golled sy’n weddill yn cael ei dwyn ymlaen i’r mis nesaf pan fyddwch yn gwneud elw. Bydd colled yn peidio â chael ei hystyried unwaith y bydd eich holl golledion wedi’u cyfrif neu pan fydd eich busnes hunangyflogedig yn dod i ben.

Os ydych yn hunangyflogedig â thâl ac yn destun i’r Llawr Isafswm Incwm, bydd hynny’n dal i fod yn berthnasol hyd yn oed os gwnewch golled. Mewn misoedd pan fyddwch chi’n gwneud colled, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrif yn seiliedig ar eich Llawr Isafswm Incwm.


;