Newydd i Gredyd Cynhwysol

7. Credyd Cynhwysol a gwaith

Efallai y byddwch yn dal i allu cael taliadau Credyd Cynhwysol pan fyddwch chi’n dechrau gweithio neu’n cynyddu eich enillion. Byddwch yn dal i gael Credyd Cynhywsol nes bydd eich enillion yn ddigonedd uchel, ac ar yr amser hynny bydd eich taliadau yn stopio. Bydd y swm hwnnw yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os bydd eich swydd yn dod i ben ac rydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf yn cael ei dalu fel arfer.

Os ydych yn hunangyflogedig bydd eich enillion o hunangyflogaeth yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Dylech ddarllen mwy am hunangyflogaeth a gwneud cais am Gredyd Cynhywsol isod.

Sut mae enillion yn effeithio eich taliadau

Bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn addasu’n awtomatig os bydd eich enillion yn newid. Does dim ots faint o oriau rydych chi’n eu gweithio, yr enillion rydych yn eu derbyn sy’n cyfrif.

Os yw eich amgylchiadau’n golygu nad oes gennych Lwfans Gwaith, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau o 55c am bob £1 rydych yn ei ennill.

Mewn geiriau eraill, byddwch yn cael 45c ychwanegol am bob £1 y byddwch yn ei ennill (hyd at derfyn penodol yn dibynnu ar eich amgylchiadau), a bydd cyfanswm eich incwm o’ch enillion a Chredyd Cynhwysol yn fwy na byddech wedi cael o Gredyd Cynhwysol yn unig.

Lwfans Gwaith

Os ydych chi a/neu’ch partner mewn gwaith â thâl efallai byddwch yn gallu cael rhai enillion cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol ddechrau cael ei effeithio. Gelwir hyn yn Lwfans Gwaith.

Bydd Lwfans Gwaith ond yn berthnasol i chi os:

  • mae gennych gyfrifoldeb dros un neu fwy o blant (neu bobl ifanc cymwys), neu
  • mae gennych chi a’ch partner allu cyfyngedig i weithio (cyflwr iechyd neu anabledd)

Os na fydd yr un o’r amgylchiadau hyn yn berthnasol i chi, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu heffeithio cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ennill arian o waith a thâl.

Mae yna 2 gyfradd o Lwfans Gwaith. Mae pa un a gewch yn dibynnu ar os ydych yn cael help gyda chostau tai, naill a’i fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol neu drwy Fudd-dal Tai:

  • Os ydych yn cael arian i helpu gyda chostau tai bydd eich Lwfans Gwaith yn £379 y mis
  • Os nad ydych yn cael arian i helpu gyda chostau tai bydd eich Lwfans Gwaith yn £631 y mis

Darllenwch fwy am Lwfans Gwaith Credyd Cynhwysol

Os ydych yn ennill mwy na’ch Lwfans Gwaith

Os ydych yn ennill mwy na’ch Lwfans Gwaith, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau. Am bob £1 rydych yn ei ennill dros eich Lwfans Gwaith, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau gan 55c. Mewn geiriau eraill, mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu cadw 45c o’ch taliad Credyd Cynhwysol am bob £1 y byddwch yn ei ennill (hyd at derfyn penodol), a bydd cyfanswm eich incwm o’ch enillion a Chredyd Cynhwysol yn fwy na byddech wedi cael o Gredyd Cynhwysol yn unig.

Os yw eich amgylchiadau’n golygu nad oes gennych Lwfans Gwaith, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau o 55c am bob £1 rydych yn ei ennill.

Os ydych yn rhan o gwpl ac yn cael taliad Credyd Cynhwysol ar y cyd, bydd enillion y ddau ohonoch yn cael eu defnyddio i gyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.

Pa mor aml ydych chi’n cael eich talu

Mae taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu gwneud bob mis calendr, ond os ydych yn gweithio efallai bydd eich enillion yn cael eu talu’n wahanol. Mewn rhai misoedd gallai hyn effeithio faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.

Os ydych yn cael eich talu bob 1, 2 neu 4 wythnos

Os yw eich enillion yn cael eu talu bob wythnos, bob 2 wythnos neu bob 4 wythnos, bydd hyn yn golygu bob hyn a hyn byddwch yn cael mwy o daliadau o waith na sy’n arferol mewn mis calendr.

Er enghraifft, os ydych yn cael eich talu bob 2 wythnos, byddwch fel arfer yn cael 2 daliad o enillion mewn mis. Ond oherwydd bod misoedd calendr rhan amlaf yn fwy na 4 wythnos, weithiau byddwch yn cael 3 taliad o enillion mewn un mis.

Yn y misoedd hyn bydd eich enillion yn uwch nag arfer a bydd hyn yn golygu y byddech yn cael llai o daliad Credyd Cynhwysol. Bydd angen i chi sicrhau eich bod wedi rheoli eich arian i allu ymdopi â’r taliad llai yma. Gallai fod bod y taliad ychwanegol yn golygu eich bod yn ennill digon yn y mis hwnnw i beidio cael taliad o Gredyd Cynhwysol o gwbl.

Os yw taliad llai yn golygu eich bod yn cael trafferth i dalu eich biliau a threuliau’r cartref, siaradwch â’ch anogwr gwaith neu ffoniwch y llinell gymorth i siarad am yr help a allai fod ar gael.

Os ydych yn cael eich talu’n fisol

Os telir eich enillion yn fisol, efallai y bydd adegau pan fyddwch yn cael 2 set o gyflog yn ystod un cyfnod asesu. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn cael eich talu ar ddiwrnod gwaith olaf y mis, neu oherwydd bod eich diwrnod tâl arferol yn disgyn ar benwythnos neu ŵyl banc ac felly’n cael ei ddwyn ymlaen. Os yw hyn yn effeithio arnoch chi, efallai y bydd modd symud un o’ch taliadau i gyfnod asesu gwahanol.

Os cewch 2 daliad gan eich cyflogwr yn ystod un cyfnod asesu, bydd hyn yn golygu eich bod yn cael taliad Credyd Cynhwysol llai. Os bydd hyn yn digwydd dylech gysylltu â’ch anogwr gwaith cyn gynted â phosibl trwy’ch cyfrif ar-lein i ofyn iddynt symud un o’ch taliadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eich taliadau Credyd Cynhwysol yn fwy cyson. Nodwch fod hyn yn berthnasol dim ond os yw’ch cyflogwr yn eich talu fesul mis calendr. Er enghraifft, ni fyddwch yn gallu symud eich taliad os cewch eich talu bob 4 wythnos.

Am fwy o fanylion am hyn a phatrymau talu eraill gweler patrymau enillion gwahanol a’ch taliadau

Cau eich cais oherwydd enillion

Os yw’ch enillion yn ddigon uchel i beidio cael taliad Credyd Cynhwysol mewn mis, bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn cael ei gau.

Os yw’ch Credyd Cynhwysol wedi dod i ben am reswm arall yn ystod y 6 mis ers i’r taliad diwethaf stopio, bydd angen i chi wneud cais arall am Gredyd Cynhwysol trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein a chadarnhau bod y manylion a roddwyd gennych o’r blaen yn dal yn gywir.

Yn y ddau achos uchod byddwch yn dal i gadw’ch dyddiadau talu gwreiddiol.

Os yw’n fwy na 6 mis ers eich taliad Credyd Cynhwysol diwethaf, bydd angen i chi wneud cais cwbl newydd.

Os yw’ch taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys swm ar gyfer tai a delir yn syth i’ch landlord, mae’n bosibl na fyddwch yn derbyn unrhyw arian o Gredyd Cynhwysol ond bod eich landlord yn parhau i dderbyn arian tuag at eich rhent. Yn yr amgylchiadau hyn mae eich cais Credyd Cynhwysol yn parhau ar agor.

Mewn achosion fel hyn, os yw cyfanswm eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng i lai na’ch costau tai, bydd angen i chi wneud i fynnu’r gwahaniaeth eich hun. Dim ond pan na fydd taliad i chi na’ch landlord y bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn cael ei gau.

Enillion dros ben

Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol, gall eich enillion o’r misoedd blaenorol effeithio ar faint rydych chi’n ei gael.

Os ydych chi’n ennill mwy na £2,500 dros y swm y gallwch chi ei ennill cyn na fyddwch chi’n derbyn unrhyw daliad Credyd Cynhwysol, dywedir bod gennych chi enillion dros ben. Bydd yr enillion dros ben hyn yn cael eu hystyried yn y cyfnod asesu misol nesaf. Gall hyn leihau swm y Credyd Cynhwysol a dderbyniwch, neu efallai olygu na chewch unrhyw daliad Credyd Cynhwysol y mis hwnnw.

Bydd enillion dros ben yn peidio â chael eu hystyried ar ôl i chi ddechrau derbyn taliadau Credyd Cynhwysol eto, neu 6 mis ar ôl i’r ennillion dros ben gwreiddiol gael ei greu – pa un bynnag sydd gyntaf.

Os ydych chi’n rhan o gwpl sydd ag enillion dros ben a’ch bod chi’n gwahanu, bydd yr enillion dros ben yn cael eu rhannu’n gyfartal rhwng y ddau ohonoch. Fel rheol, bydd eich hanner yn cael ei ystyried os gwnewch hawliad Credyd Cynhwysol unigol.


;