Gwneud cais

1. Cyn i chi wneud cais

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud eu cais Credyd Cynhwysol ar-lein. Mae help ar gael yn y ffurflen gais ar-lein i bobl sydd angen cymorth ychwanegol.

Help gyda’ch cais

Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, gofynnwch yn syth- y cynharaf y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, y cynharaf y byddwch yn cael eich taliad cyntaf.

Mae yna 2 ffordd i gael help gyda’ch cais Credyd Cynhwysol:

Help i Hawlio

Gall Help i Hawlio eich cefnogi yn y camau cynnar o’ch cais Credyd Cynhwysol, o’r cais ar-lein, hyd at gefnogaeth gyda’ch cais cyn eich taliad llawn cyntaf.

Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim, annibynnol, cyfrinachol a diduedd a ddarperir gan gynghorwyr hyfforddedig Cyngor ar Bopeth. Gallant helpu gyda phethau fel sut i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich cais neu sut i baratoi ar gyfer eich apwyntiad cyntaf.

Help i Hawlio:

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Cysylltwch â’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol os:

  • ni allwch ddefnyddio gwasanaethau digidol o gwbl, gallai hyn fod oherwydd anabledd neu’ch amgylchiadau
  • mae gennych gwestiwn am eich cais ac ni allwch gael mynediad i’ch cais ar-lein

Dylech wneud cais ar-lein am Gredyd Cynhwysol. Nid oes angen i chi ffonio DWP i drefnu apwyntiad ac ni ddylech fynychu’r ganolfan byd gwaith oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny. Fodd bynnag, bydd staff y ganolfan byd gwaith yn dal i gwrdd â chwsmeriaid sy’n agored i niwed gan gynnwys y rhai sy’n ffoi rhag cam-drin domestig.

Nid oes angen ffonio DWP wrth i ni brosesu eich cais. Os gwnaed eich cais ar-lein, byddwn yn eich ffonio os bydd angen i chi ddarparu unrhyw wybodaeth bellach

Byddwn yn ymwybodol eich bod wedi gwneud cais a byddwn yn cysylltu â chi os byddwn angen mwy o wybodaeth gennych er mwyn prosesu unrhyw daliad sy’n ddyledus i chi. Byddwn yn rhoi nodyn yn eich cyfrif ar-lein a dilyn hwn gyda galwad ffôn – gall hyn ymddangos fel rhif preifat. Gwiriwch eich cyfrif ar-lein a chadwch lygad am alwadau wrthym.

Os ydych chi wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ddiweddar, bydd eich cais yn dechrau o’r diwrnod rydych yn cyflwyno’ch cais ar-lein. Nid yw’r dyddiad hwn yn ddibynnol ar eich hunaniaeth yn cael ei gwirio ar-lein neu’n cael ei chysylltu â dyddiad o unrhyw gyswllt pellach. Fodd bynnag, bydd angen i’ch hunaniaeth gael ei gwirio cyn y gallwch dderbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd angen i chi gymryd rhan mewn cyfweliad ffôn gydag anogwr gwaith. Byddwn yn cysylltu â chi os mai hwn yw’r achos- nid oes angen i chi ein ffonio.

Os na allwch fynychu’ch cyfweliad ffôn, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein fel y gellir ei aildrefnu. Os ydym yn gofyn i chi fynychu cyfweliad ffôn, ni fydd eich cais Credyd Cynhwysol yn gallu mynd yn ei flaen nes bydd y cyfweliad hwnnw wedi digwydd.

Os na allwch ddefnyddio gwasanaethau digidol o gwbl, gellir gwneud ceisiadau Credyd Cynhwysol dros y ffôn o hyd.

Ni fydd DWP byth yn anfon neges destun nac e-bost yn gofyn am wybodaeth bersonol na manylion banc. Sylwch, mae yna sgamiau’n ysglyfaethu ar bobl, felly peidiwch â rhannu gwybodaeth os nad ydych yn siŵr bod yr alwad gan DWP. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch i’r galwr bostio geiriau penodol yn eich dyddlyfr fel y gallwch fod yn sicr mai ni ydyw.

Beth fydd ei angen arnoch chi

Mae’n syniad da i gael y wybodaeth ganlynol gyda chi pan fyddwch yn gwneud eich cais. Dylech sicrhau ei fod yn gyfredol cyn i chi ddechrau.

Efallai na fydd angen rhywfaint o’r wybodaeth hon i ddechrau eich cais, ond bydd angen i chi ei darparu cyn y gallwch dderbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Os na allwch ddarparu’r wybodaeth hon, efallai fydd yn golygu bod eich taliad cyntaf yn cael ei oedi.

Gofynnir i chi am:

  • eich cyfeiriad e-bost
  • eich rhif ffôn
  • eich cod post
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • prawf o’ch cenedligrwydd
  • eich manylion tai
  • manylion am bobl sy’n byw gyda chi – fel eich partner, plant rydych chi’n gyfrifol amdanynt, neu letywyr
  • Cyfeirnodau Budd-dal Plant, os ydych chi’n derbyn Budd-dal Plant
  • manylion cyflogwr, os ydych chi neu’ch partner yn gweithio
  • manylion am unrhyw enillion neu incwm arall sydd gennych chi neu’ch partner
  • manylion am unrhyw gynilion, buddsoddiadau neu gyfalaf arall sydd gennych chi neu’ch partner
  • manylion am unrhyw fudd-daliadau eraill a dderbyniwch
  • gwybodaeth am eich iechyd
  • manylion y cyfrif y bydd eich taliadau yn mynd mewn iddo, fel cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif undeb credyd. Bydd angen i hwn fod yn gyfrif cyfredol, nid cyfrif cynilo, a dylai fod yn eich enw chi. Os nad oes gennych un, gall gwefan HelpwrArian eich helpu i ddewis y cyfrif sy’n iawn i chi.

Os ydych yn derbyn credydau treth gan Gyllid a Thollau EF ar hyn o bryd, rhaid bod yn ymwybodol os byddwch yn cyflwyno cais am Gredyd Cynhwysol bydd eich dyfarniad credyd treth yn dod i ben yn syth. Os bydd eich dyfarniad credyd treth yn dod i ben ni ellir ei ail-agor ac ni fydd yn bosibl gwneud cais credyd treth newydd yn y dyfodol, hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. 

Bydd y fideo hwn yn egluro’r hyn sydd angen i chi ei wneud i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, gan gynnwys gwirio’ch cymhwysedd, sefydlu cyfrif a gwneud cais ar-lein. Mae yna fwy o fideos ar y dudalen Sut i wneud cais sy’n eich tywys trwy rannau o’r cais ar-lein yn fwy manwl.


;