1. Mae credydau treth yn dod i ben
Mae Credydau Treth yn dod i ben, a bydd angen i’r rhan fwyaf o bobl wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.
Cadwch lygad allan am lythyr o’r enw Hysbysiad Symud i Gredyd Cynhwysol o’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn esbonio beth fydd angen i chi ei wneud, ac erbyn pryd.
Os ydych yn hawlio credydau treth ac yn 65 oed neu’n hŷn, bydd DWP yn ysgrifennu atoch i ofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Ni fyddwch yn cael eich symud yn awtomatig, felly mae’n bwysig i weithredu’n gyflym a dilyn y cyfarwyddiadau yn y llythyr, neu bydd eich budd-daliadau’n dod i ben.
I barhau i dderbyn cymorth ariannol, bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr Hysbysiad Symud, hyd yn oed os ydych newydd adnewyddu eich cais credydau treth.
Mae yna ddigon o bethau gallwch ei wneud i baratoi. Darganfyddwch fwy am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu i newid.
Beth yw Credyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn system fudd-daliadau modern ar gyfer pobl mewn gwaith, sy’n chwilio am waith neu’n methu gweithio. Mae’n dod â chwe hen fudd-dal at ei gilydd ac yn helpu i sicrhau eich bod yn cael y cymorth ariannol y mae gennych hawl iddo mewn un lle.
Box out: Mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid credydau treth yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Am gyngor annibynnol, neu i ddarganfod pa gymorth ariannol arall gall fod ar gael i chi, gallwch siarad ag ymgynghorydd budd-daliadau. Ewch i Advice Local i ddod o hyd i fanylion ymgynghorydd diduedd, am ddim yn eich ardal.
Gyda Chredyd Cynhwysol, efallai byddwch hefyd yn gymwys i gael mwy o gymorth ariannol i helpu i dalu costau eraill fel tai, biliau penodol, a mwy. Gall hefyd helpu i dalu am gostau gofal plant a rhoi mynediad i anogwr gwaith i chi, a all rhoi arweiniad sydd wedi’i deilwra ar wella eich sgiliau a gwneud cynnydd yn y gwaith i’ch helpu i gefnogi eich teulu.
Mae’n addasu i’ch bywyd hefyd – er enghraifft, os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol ac yn cael eich hun allan o waith yn annisgwyl, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn addasu’n awtomatig i’ch cefnogi. Ac os ydych am gymryd mwy o waith, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol i’w wneud o werth yn ariannol.Dysgwch fwy am ffyrdd y gall Credyd Cynhwysol eich cefnogi yma.