Eisoes wedi gwneud cais

1. Rheoli eich cais

Yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol bydd angen i chi wneud rhai pethau. Os gallwch baratoi am neu chwilio am waith, bydd hyn yn cynnwys mynychu apwyntiadau gyda’ch anogwr gwaith.

Gall y rhain ddigwydd dros y ffôn, galwad fideo neu wyneb yn wyneb mewn Canolfan Gwaith.

Sut bynnag mae eich apwyntiad i fod i gael ei gynnal, mae’n bwysig eich bod yn mynychu. Os gofynnir i chi fynd i apwyntiad ond nad ydych yn mynychu a does gennych ddim rheswm da pam, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu heffeithio. Os oes rheswm da pam na allwch fynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Nid yw gorchuddion wyneb bellach yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, fodd bynnag, mae canllawiau’r llywodraeth yn cynghori parhau i wisgo un i helpu i atal lledaeniad Coronafeirws.

Ni fydd DWP byth yn anfon neges destun nac e-bost yn gofyn am wybodaeth bersonol na manylion banc.

Nid oes angen i chi fynychu’r ganolfan gwaith oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny. Os ydych angen cysylltu â ni, y ffordd orau i wneud hyn yw ar-lein neu dros y ffôn. Os ydych angen mynd i ganolfan gwaith, maent ar agor a bydd un o’n cydweithwyr yn gallu eich helpu.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi ddweud am newidiadau yn eich amgylchiadau er mwy i chi barhau i gael y swm cywir bob mis. Efallai bydd eich cais yn cael ei stopio neu ei leihau os na fyddwch yn dweud am newid mewn amgylchiadau yn syth.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gofynnir i chi gwblhau gweithgareddau ychwanegol. Bydd angen gwneud y mwyafrif yn eich cyfrif ar-lein, ond i rai efallai bydd yn rhaid i chi siarad â’ch anogwr gwaith dros y ffôn.


;