Eisoes wedi gwneud cais

7. Cam-drin domestig

Os ydych yn dioddef trais domestig ac angen mynychu canolfan Gwaith, maent ar agor a bydd un o’n cydweithwyr yn gallu eich helpu.

Mae ein canolfannau gwaith yn lle diogel a bydd DWP yn parhau i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig. Mae hyn yn cynnwys eich helpu i gael gafael ar lety dros dro ac eich rhoi mewn cysylltiad ag arbenigwyr lleol a rhwydweithiau cymorth.

Gallwn hefyd eich cefnogi drwy eich helpu i agor cais Credyd Cynhwysol newydd, a gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw yn ôl yr angen, a all ddarparu mynediad cyflymach at arian. O’r eiliad hon ni fydd gan eich cyn-bartner fynediad at unrhyw wybodaeth am eich cais newydd. 

Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â sefydliadau a gwasanaethau mewn cymunedau lleol i sicrhau bod cwsmeriaid bregus yn cael eu cefnogi. Rydym yma i helpu.

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef o gam-drin domestig, mae ymateb gan yr heddlu a chymorth yn parhau i fod ar gael.

Darganfyddwch sut i gael help os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig.

Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.

Os byddwch angen chwilio am gymorth, cyngor neu siarad â rhywun am gam-drin mewn perthynas, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol Am Ddim ar gyfer Cam-drin Domestig  (yn Lloegr) ar 0808 2000 247.

Mae rhagor o wybodaeth am yr help a’r gefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig os ydych yn byw yn:

Darganfyddwch fwy am yr help ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i bobl sy’n dioddef trais a cham-drin domestig

Cymorth sydd ar gael os ydych yn ddioddefwr cam-drin domestig

Mae ystod o wasanaethau cymorth ar gael i chi a’ch teulu trwy’ch anogwr gwaith, os ydych yn dioddef cam-drin domestig:

  • Gall y ganolfan gwaith gael gwared dros dro ar yr angen i chi chwilio am waith fel y gallwch ganolbwyntio ar eich anghenion uniongyrchol. Darganfyddwch fwy am yr oedi mewn gofynion sy’n gysylltiedig a gwaith i ddioddefwyr trais domestig.
  • Mae ystafelloedd preifat ar gael yn y mwyafrif o ganolfannau gwaith fel y gallwch drafod materion sensitif gyda’ch anogwr gwaith yn breifat.
  • Os bydd yn rhaid i chi aros mewn llety amgen dros dro ond eich bod yn bwriadu dychwelyd i’ch cyn gartref, efallai y gallwch gael yr elfen dai o Gredyd Cynhwysol ar gyfer eich cyn gartref parhaol a’r llety amgen dros dro.
  • Os ydych wedi gadael perthynas dreisgar, gall eich anogwr gwaith eich helpu i agor cais newydd fel hawlydd sengl. O’r eiliad hon ni fydd gan eich cyn-bartner fynediad at unrhyw wybodaeth am eich cais newydd. Gallwch hefyd gael taliad ymlaen llaw gyflym o hyd at 100% o’ch hawl fisol Credyd Cynhwysol disgwyliedig. Byddwch yn cael penderfyniad ar yr un diwrnod.
  • Mae gan bob canolfan gwaith gysylltiadau â rhwydwaith o elusennau a sefydliadau lleol a chenedlaethol, y gall eich anogwr gwaith eich cyfeirio atynt i sicrhau eich bod yn cael yr help arbenigol rydych ei angen. 
  • Gall y ganolfan gwaith gysylltu â chysylltiadau awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol i’ch cefnogi i ddod o hyd i rywle i fyw cyn gynted â phosibl os ydych wedi gorfod gadael eich cartref oherwydd perthynas dreisgar. 

Gwyliwch y fideo hwn am gymorth y ganolfan gwaith i ddioddefwyr cam-drin domestig:

Os credwch fod angen help arnoch neu angen siarad â rhywun am gam-drin mewn perthynas, gallwch gysylltu â’r Llinell Rhadffôn Cymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig, a redir gan Refuge, ar 0808 2000 247.

Darganfyddwch fwy am y Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig a gwaith Cymorth i Ferched Cymru.


;