Gwneud cais

2. Sut i wneud cais

Sefydlu cyfrif ar-lein

Byddwch angen creu cyfrif ar-lein cyn y gallwch wneud cais. Bydd y fideo byr hwn yn dangos yr hyn y mae angen i chi ei wneud i sefydlu cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Cyn i chi ddechrau byddwch angen:

  • eich cyfeiriad e-bost
  • eich rhif ffôn

Pan fyddwch yn sefydlu cyfrif ar-lein, byddwch angen creu enw defnyddiwr a chyfrinair. Cofiwch gadw eich enw defnyddiwr, cyfrinair a’ch data personol yn ddiogel a pheidiwch â’u rhannu gyda neb. Gallai rhannu’r wybodaeth yma eich rhoi mewn perygl o dwyll hunaniaeth.

Byddwch hefyd angen dewis dau gwestiwn diogelwch. Rydym yn defnyddio hyn i gadarnhau mai chi sydd yna pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif neu yn ein ffonio. Unwaith mae wedi’i osod, ni fyddwch yn gallu newid eich cwestiynau diogelwch neu atebion.

Byddwn hefyd yn anfon cod i’ch cyfeiriad e-bost i gadarnhau ei fod yn gywir. Ni ddylech ddefnyddio cyfeiriad e-bost dros dro oherwydd gall hyn greu problemau wrth ddefnyddio eich cyfrif.

Os byddwch yn darparu rhif ffôn symudol byddwn yn anfon neges testun i gadarnhau mai chi sydd yna. Gallwch dal i greu cyfrif heb rif ffôn symudol.

Os oes gennych bartner, bydd angen i’r ddau ohonoch greu eich cyfrif eich hun. Darganfyddwch fwy am wneud cais fel cwpl.

Pan fyddwch wedi sefydlu eich cyfrif gallwch ddechrau eich cais am Gredyd Cynhwysol.

Gwneud cais ar-lein

Bydd y fideo hon yn dangos i chi sut i wneud cais ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif Credyd Cynhwysol. Mae cwblhau cais ar-lein yn cymryd tua 20 munud i berson sengl.

Byddwch yn cwblhau eich cais drwy ateb y cwestiynau yn y rhestr o bethau i’w gwneud yn eich cyfrif.

Bydd gennych 30 diwrnod o pan rydych yn creu eich cyfrif i anfon eich cais, ond rydym yn eich cynghori i wneud cyn gynted â phosibl. Os na fyddwch yn anfon eich cais o fewn 30 diwrnod bydd angen i chi greu cyfrif ar-lein eto.

Bydd eich cais ond yn cael ei hanfon yn swyddogol unwaith y byddwch yn cadarnhau bod yr atebion rydych wedi’u darparu yn gywir ac yn pwyso’r botwm anfon.

Gweler y rhestr o wybodaeth y gallech fod ei angen pan wnewch gais.

Gwneud cais os ydych mewn cwpl

Os ydych yn gwneud cais fel cwpl, bydd y ddau ohonoch yn gwneud eich cais eich hun, a bydd y rhain yn cael eu cysylltu â’u gilydd ar y diwedd er mwyn gwneud cais ar y cyd. Bydd y system yn dangos i chi sut i wneud hyn – gwyliwch y fideo hon i ddarganfod sut mae’n gweithio.

Mae cwblhau cais ar-lein yn cymryd tua awr os ydych chi’n gwneud cais fel cwpl..

Cadarnhau pwy ydych chi

Unwaith i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth fel bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwybod mai chi ydyw, ac nid rhywun arall sy’n esgus i fod yn chi.

Bydd angen i chi gadarnhau pwy ydych chi cyn y gallwch gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. 

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu cadarnhau pwy ydynt ar-lein. Dyma’r ffordd fwyaf syml a ddiogel i’w gwneud. Byddwch yn cael yr opsiwn o wneud hyn yn eich rhestr ‘Pethau i’w gwneud’ ar ôl i chi gyflwyno eich cais Credyd Cynhwysol.

Porth y Llywodraeth yw’r gwasanaeth a ddefnyddir ar gyfer cadarnhau pwy ydych chi ar-lein.  Bydd y system yn gofyn i chi pa ddogfennau o’r canlynol sydd gennych:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Eich slip cyflog diweddaraf
  • Pasbort dilys y DU
  • Eich P60 diwethaf
  • Pasbort dilys o wlad arall
  • Trwydded yrru ddilys â’ch llun arni
  • Gwybodaeth am eich credydau treth

Yna byddwch yn cael eich cyfeirio i Borth y Llywodraeth. 

Gyda Phorth y Llywodraeth gallwch brofi eich hunaniaeth yn ddiogel trwy ddarparu gwybodaeth sydd dim ond yn hysbys i chi er enghraifft eich pasbort neu slipiau cyflog. Gallwch ddefnyddio Porth y Llywodraeth os nad oes gennych unrhyw rai o’r dogfennau a restrir uchod.

Os ydych yn gwsmer newydd ac yn cael problem gyda chadarnhau pwy ydych ar-lein peidiwch â phoeni – mae eich cais wedi cael ei anfon. Bydd eich canolfan gwaith yn gwybod eich bod wedi gwneud cais ar-lein, byddant yn eich ffonio os oes angen iddynt gadarnhau unrhyw wybodaeth gyda chi er mwyn symud eich cais ymlaen. Os nad ydych wedi gallu dilysu pwy ydych chi ar-lein bydd y ganolfan gwaith yn ffonio i drefnu apwyntiad i ddilysu pwy ydych chi.

Mae ein systemau ffôn yn golygu gall galwadau gennym ddangos fel rhif 0800 neu rif anhysbys. Os ydych yn cael galwad gan rif anhysbys yn dilyn ein neges yn eich cyfrif, atebwch y ffôn, gan ei fod yn debygol mai DWP ydyw. Byddwn wrth gwrs yn sicrhau eich bod yn gwybod bod y galwad yn un dilys.

Noder, mae yna sgamiau’n sy’n targedu pobl, felly peidiwch â rhannu gwybodaeth os nad ydych yn siŵr bod yr alwad gan DWP. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch i’r galwr bostio ffurf benodol o eiriau yn eich dyddlyfr fel y gallwch fod yn sicr mai ni ydyw.

Yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol bydd angen i chi wneud rhai pethau. Os gallwch baratoi am neu chwilio am waith, bydd hyn yn cynnwys mynychu apwyntiadau gyda’ch anogwr gwaith.

Ar hyn o bryd gallai’r rhain fod dros y ffôn neu’n ddiogel yn ein Canolfannau Gwaith ac rydym yn dechrau cynnig galwadau fideo hefyd.

Sut bynnag mae eich apwyntiad i fod i gael ei gynnal, mae’n bwysig eich bod yn mynychu. Os gofynnir i chi fynd i apwyntiad ond nad ydych yn mynychu a does gennych ddim rheswm da pam, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu heffeithio.

Os oes rheswm da pam na allwch fynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Nid yw gorchuddion wyneb bellach yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, fodd bynnag, mae canllawiau’r llywodraeth yn cynghori parhau i wisgo un i helpu i atal lledaeniad Coronafeirws.

Nid oes angen i chi fynychu’r ganolfan gwaith oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny. Os ydych angen cysylltu â ni, y ffordd orau i wneud hyn yw ar-lein neu dros y ffôn. Os ydych angen mynd i ganolfan gwaith, maent ar agor a bydd un o’n cydweithwyr yn gallu eich helpu.


;