A allai Credyd Cynhwysol eich helpu chi?
Mae Credyd Cynhwysol yma i’ch helpu yn ôl i’r gwaith:
- Cymorth ariannol sy’n ystyried eich amgylchiadau
- Anogwr gwaith i ddangos i chi ble mae’r swyddi a sut i’w cael
- Help gyda’ch CV, ceisiadau a chyfweliadau
- Yn cynnig mwy o gyfleoedd gwaith rhan-amser a dros dro i’ch helpu chi i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflymach
Ar ôl i chi ddechrau gweithio, gallai barhau i’ch cefnogi:
- Ychwanegu at eich cyflog os ydych ar incwm isel
- Helpu gyda chostau gofal plant
- Taliadau sy’n addasu’n awtomatig i’ch helpu i fod yn well eich byd mewn gwaith
- Hawdd dechrau eto os mae’ch swydd yn fyrdymor yn unig.
Darganfyddwch a allwch gael Credyd Cynhwysol
Gall Credyd Cynhwysol hefyd eich cefnogi os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n eich atal rhag gweithio, neu’n cyfyngu ar faint o waith y gallwch ei wneud. Dysgwch fwy am sut mae Credyd Cynhwysol yn helpu os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd.