Sut mae Credyd Cynhwysol yn eich helpu i ddweud ie

 

Mae Credyd Cynhwysol yn ei wneud yn haws i fanteisio ar gyfleoedd gwaith, felly gallwch ddweud ie pan rydych yn cael cynnig swydd newydd.

Ychwanegu at eich cyflog

Mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i’r hen system oherwydd efallai y gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol hyd yn oed pan fyddwch chi’n dechrau gweithio. Bydd cyfanswm eich incwm o enillion a Chredyd Cynhwysol gyda’i gilydd bob amser yn fwy nag y byddwch wedi’i gael gan Gredyd Cynhwysol yn unig. Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng 55c am bob £1 rydych yn ei ennill. Hynny yw, cewch 45c ychwanegol gan Gredyd Cynhwysol am bob £1 rydych yn ei ennill trwy waith, hyd at derfyn sy’n dibynnu ar eich amgylchiadau.

Ac os ydych chi’n gyfrifol am blant, a/neu wedi cael eich asesu gyda gallu cyfyngedig i weithio, gallwch ennill swm penodol cyn bod eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu heffeithio. Mae hyn i gyd yn golygu y gallwch gymryd unrhyw swydd, gan gynnwys gwaith rhan-amser, hyd yn oed os mai dim ond ychydig oriau’r wythnos ydyw. Gallwch hefyd gymryd gwaith gydag oriau amrywiol, gan wybod y bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cynyddu eto os yw’ch enillion yn is na’r arfer. Mae Credyd Cynhwysol yn helpu i sicrhau y bydd unrhyw swydd yn werth chweil, a gallai fod yn gam pwysig i fwy o oriau neu swydd arall. Darganfyddwch fwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol a gwaith.

 

Cefnogaeth hyblyg pan fyddwch yn gweithio

Cymryd gwaith dros dro

Gyda Chredyd Cynhwysol gallwch gymryd swyddi byrdymor heb orfod poeni am yr hyn y bydd yn ei olygu i’ch budd-daliadau.

Hyd yn oed os yw’ch enillion yn golygu nad ydych chi’n cael unrhyw daliadau Credyd Cynhwysol, os yw’ch swydd yn dod i ben o fewn 6 mis, mae’n gyflym ac yn hawdd ailddechrau eich cais Credyd Cynhwysol. Bydd gennych yr un dyddiad talu ag yr oedd gennych o’r blaen, felly mae llawer llai o drafferth wrth symud i mewn ac allan o waith dros dro.

Mae hyn yn golygu y gallwch gofrestru am waith i asiantaeth neu waith dros dro, a allai arwain at gyfleoedd mwy parhaol.

Help gyda chostau gofal plant

Os ydych yn gweithio, gallai Credyd Cynhwysol dalu tuag at eich costau gofal plant.

Cyn belled â’ch bod yn defnyddio darparwr gofal plant cofrestredig, gallwch gael yn ôl hyd at 85% o’ch costau gofal plant a dalwyd. Gallwch hyd yn oed gael yr help hwn am fis cyn i chi ddechrau gwaith ac am fis ar ôl iddo ddod i ben, felly ni fydd bwlch byr rhwng swyddi yn golygu bod angen i chi atal eich gofal plant.

Ac mae hynny’n caniatáu i chi fod yn llawer mwy hyblyg yn y swyddi a’r oriau rydych chi’n gwneud cais amdanynt.

Darllenwch fwy am Gredyd Cynhwysol a gofal plant.

Hunangyflogaeth

Efallai mai eich opsiwn gorau yw rhedeg eich busnes eich hun, a gallai Credyd Cynhwysol eich cefnogi’n ariannol fel y gallwch ganolbwyntio ar ei wneud yn llwyddiant.

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, neu os byddwch yn dechrau eich busnes eich hun tra’ch bod chi ar Gredyd Cynhwysol, efallai y gallwch gael cefnogaeth ychwanegol. Gallai hyn olygu bod gennych hyd at 12 mis i ganolbwyntio ar eich busnes heb orfod chwilio am waith arall.

Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol a hunangyflogaeth a darganfyddwch sut y gallai Lwfans Menter Newydd helpu’ch busnes i ddechrau.

;