Cymorth ariannol
Mae’r gefnogaeth ariannol a gewch trwy Gredyd Cynhwysol yn cymryd i ystyriaeth eich amgylchiadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eich biliau cartref hanfodol yn cael eu talu, fel y gallwch ganolbwyntio ar ddod o hyd i waith. Gyda Chredyd Cynhwysol, fe allwch gael symiau ychwanegol os ydych:
Darllenwch fwy am daliadau Credyd Cynhwysol
Os ydych yn newydd i chwilio am waith neu wedi cael trafferth i ddod o hyd i waith, efallai y bydd angen rhywfaint o arweiniad arnoch i’ch helpu i ddod o hyd i swyddi gwag a gwneud cais amdanynt. Dyna ble mae’ch anogwr gwaith yn gallu helpu.
Bydd eich anogwr gwaith Credyd Cynhwysol yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda chi fel y gallant ddod i’ch adnabod. Bydd hyn yn ei helpu i ddeall eich amgylchiadau unigryw, fel y gallant ddweud pa fathau o gefnogaeth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’ch chwiliad gwaith.
Gall eich anogwr gwaith eich helpu i ddod o hyd i’ch ffordd o amgylch marchnad swyddi heddiw. Maent yn gwybod pa sectorau sydd fwyaf tebygol o gael cyfleoedd yn eich ardal, a gallent helpu i nodi sut y gallai eich sgiliau a’ch profiad apelio at gyflogwyr.
Os ydych yn chwilio am swydd wahanol neu os ydych am ddechrau mewn diwydiant newydd gallant eich cyfeirio at hyfforddiant a allai helpu tuag at eich swydd. Gallai ei wybodaeth a’i gysylltiadau â chyflogwyr lleol hefyd eich helpu i gael mynediad at brofiad gwaith gwerthfawr. A gallant eich cyfeirio at gymorth arbenigol gan sefydliadau eraill os mai dyna’r gefnogaeth iawn i chi.
Os ydych yn gallu paratoi neu chwilio am waith, byddwch yn cytuno ar ymrwymiad hawlydd gyda’ch anogwr gwaith sy’n nodi’r hyn y byddwch yn ei wneud i gael Credyd Cynhwysol. Bydd hyn yn adlewyrchu’ch amgylchiadau personol, a bydd yn cael ei gofnodi yn eich cyfrif ar-lein. Gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfrif hwnnw i gysylltu â’ch anogwr gwaith ar unrhyw adeg.
Wrth ymgeisio am swyddi, gall eich anogwr gwaith roi’r cyfle gorau posibl i chi lwyddo. Gall ei gefnogaeth gynnwys:
Darganfyddwch fwy am sut y gall eich anogwr gwaith Credyd Cynhwysol eich helpu i ddod o hyd i waith.
Ewch i wefan JobHelp i gael cyngor arbenigol ar ymgeisio am swyddi, ac awgrymiadau ar sut i fynd â’ch sgiliau i swydd newydd sbon.
Mae’r Cynllun Cymorth Dod o Hyd i Swydd (JFS) ar gyfer pobl sydd wedi bod yn ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau sydd yn cymryd lle incwm am lai na 13 wythnos. Mae’n cynnig cefnogaeth ar-lein un i un wedi’i theilwra i’ch helpu i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i ddod o hyd i waith newydd a’i gadw. Mae cynllun Cymorth a Dargedir at Gael Swydd (JETS) yn rhaglen a gynlluniwyd ar gyfer pobl sydd wedi bod allan o waith ac sy’n hawlio Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd am o leiaf 13 wythnos. Mae’n darparu cymorth ychwanegol wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddychwelyd i waith cyn gynted â phosibl. Mae Cynllun Kickstart yn swydd â thal gyda chyflogwr lleol am 6 mis. Mae swyddi o Gynllun Kickstart ar gael i bobl ifanc 16-24 oed sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ac mewn perygl o ddiweithdra hirdymor.
;