Newydd i Gredyd Cynhwysol

3. Faint fyddwch chi’n ei gael

Mae eich Credyd Cynhwysol yn un taliad sengl sy’n cynnwys symiau gwahanol yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Bydd y taliad yn cymryd i ystyriaeth:

  • eich enillion os ydych yn gweithio
  • enillion eich partner os ydynt yn gweithio
  • unrhyw incwm arall sy’n dod i’ch cartref

I gael amcangyfrif o’r hyn y gallech fod â hawl iddo pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau

Mae’r swm a gewch yn cael ei weithio allan bob mis, felly gall fod yn wahanol o un mis i’r llall os ydych chi’n ennill swm gwahanol, neu os bydd eich amgylchiadau’n newid.

Sut mae’ch taliad yn cael ei gyfrifo

Mae yna 3 cham i weithio allan eich taliad Credyd Cynhwysol. Mae mwy o fanylion am bob cam isod.

Graffeg i ddangos y 3 cam sylfaenol i gyfrifo taliad Credyd Cynhwysol

1. Cyfrifir uchafswm Credyd Cynhwysol eich cartref. Bydd hyn yn cynnwys un lwfans safonol ac unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol i chi a’ch cartref (er enghraifft, ar gyfer costau tai neu blant).

2. Yna efallai bydd arian yn cael ei dynnu i ffwrdd oherwydd eich enillion neu incwm arall (fel arian o gynilion), neu i dalu’n ôl unrhyw daliadau ymlaen llaw neu fenthyciadau rydych wedi’u cael neu oherwydd bod trefniadau wedi cael eu gwneud i arian fynd yn syth i’ch darparwr cyfleustodau. Os ydych wedi cael sancsiwn, bydd hwn hefyd yn lleihau eich taliad Credyd Cynhwysol.

3. Os yw’n berthnasol i chi, efallai y bydd y cap ar fudd-daliadau yn lleihau faint rydych chi’n ei gael.

Beth sy’n ffurfio eich taliad

Lwfans safonol

Mae rhan o’r taliad Credyd Cynhwysol yn swm safonol ar gyfer eich cartref. Gelwir hwn yn eich lwfans safonol. Bydd eich swm misol yn dibynnu os ydych yn sengl neu mewn cwpl, a’ch oedran.

Eich amgylchiadauLwfans misol safonol
Sengl ac o dan 25 oed
£265.31
Sengl a 25 oed neu drosodd
£334.91
Mewn cwpl ac mae’r ddau ohonoch o dan 25 oed
£416.45

Mewn cwpl ac rydych yn 25 oed neu drosodd
£525.72

Plant a gofal plant

Gall Credyd Cynhwysol roi cymorth i helpu gyda chostau magu plant. Dangosir y swm y gallech ei gael yma, ac mae mwy o fanylion yn yr adran ar gyfer plant a gofal plant

Swm plentyn

Os ydych yn gyfrifol am blentyn (neu blant) sydd fel arfer yn byw gyda chi, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y swm plentyn.

Nifer o blantSwm ychwanegol y mis
Ar gyfer eich plentyn cyntaf£282.50 (a aned cyn 6 Ebrill 2017)
£237.08 (a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017)
Ar gyfer eich ail blentyn£237.08 y plentyn

Swm plentyn anabl

Efallai y cewch arian ychwanegol os yw’ch plentyn dibynnol yn anabl. Telir yr Ychwanegiad Plant Anabl hwn naill ai ar gyfradd uwch neu gyfradd is.

I fod yn gymwys am y gyfradd is mae’n rhaid i’ch plentyn:

  • bod â hawl i Lwfans Byw i’r Anabl, neu
  • bod â hawl i Daliad Annibyniaeth Personol (ar gyfer plentyn dros 16 oed)

I fod yn gymwys am y gyfradd uwch mae’n rhaid i’ch plentyn fod:

  • â hawl i Lwfans Byw i’r Anabl (cyfradd uwch o’r elfen gofal), neu
  • â hawl i Daliad Annibyniaeth Personol (cyfradd uwch)(ar gyfer plentyn dros 16 oed), neu
  • wedi’i gofrestru’n ddall.

Gallwch barhau i gael ychwanegiad plentyn anabl ar gyfer trydydd blentyn neu blentyn dilynol, hyd yn oed os na fyddwch yn cael y swm plentyn sylfaenol.

CyfraddSwm ychwanegol y mis
Cyfradd is£128.89 y plentyn
Cyfradd uwch£402.41 y plentyn

Costau gofal plant

Os ydych yn rhiant sy’n gweithio, gall Credyd Cynhwysol eich helpu gyda chostau gofal plant, pa bynnag faint o oriau rydych yn eu gweithio.

Nifer o blantUchafswm misol
Ar gyfer un plentyn£646.35
Ar gyfer 2 neu fwy o blant£1108.04

Swm gofalwr

Gallwch gael swm ychwanegol os ydych yn gofalu am berson sy’n ddifrifol anabl am o leiaf 35 awr yr wythnos. Nid oes angen i chi fod yn cael Lwfans Gofalwr. Os gwnewch gais ar y cyd, gall y ddau ohonoch gael swm gofalwr cyn belled nad ydych yn gofalu am yr un person sy’n ddifrifol anabl.

Os ydych chi neu’ch partner yn cael Lwfans Gofalwr, bydd swm gofalwr eich Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng o £1 am bob £1 a gewch gan Lwfans Gofalwr.

Os oes gennych hawl i’r swm gofalwr a’r swm ‘gallu cyfyngedig i weithio’ neu ‘gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’ (gweler isod am fwy o wybodaeth), ni fyddwch yn cael y ddau. Yn lle hynny byddwch yn cael y swm mwyaf.

Eich amgylchiadauSwm ychwanegol misol
Os ydych yn gofalu am berson anabl£163.73

Swm gallu cyfyngedig i weithio

Os oes gennych gyflwr sy’n golygu nad ydych yn gallu chwilio am waith nawr, ond rydych yn gallu paratoi at waith gyda’r bwriad o weithio rhyw dro yn y dyfodol, ni fyddwch yn gallu cael unrhyw symiau ychwanegol o Gredyd Cynhwysol oherwydd salwch neu anabledd. Fodd bynnag, efallai y gallwch gael swm ychwanegol os:

  • rydych wedi cael eich asesu’n flaenorol fel bod gennych allu cyfyngedig i weithio, a
  • roeddech yn derbyn budd-dal oherwydd y cyflwr hwnnw cyn 3 Ebrill 2017, a
  • mae’r cyflwr dal gennych.
Eich amgylchiadauSwm ychwanegol misol
Os cawsoch eich asesu fel bod gennych Allu Cyfyngedig i Weithio, roeddech yn derbyn budd-dal oherwydd y cyflwr hwnnw cyn 3 Ebrill 2017, ac mae'r cyflwr dal gennych£128.89

Swm gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

Gallwch gael swm ychwanegol os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i wneud gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith. Asesir hyn trwy Asesiad Gallu i Weithio

Os ydych yn gwneud cais ar y cyd ac mae gan y ddau ohonoch hawl i’r ychwanegiad hwn, bydd eich taliad ond yn cynnwys un swm.

Efallai byddwch angen disgwyl am 3 mis i’ch swm gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith gael ei ychwanegu i’ch taliad Credyd Cynhwysol. Mae yna amgylchiadau lle gellir ei ychwanegu ar unwaith, fel os oedd gennych hawl i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn syth cyn eich cais Credyd Cynhwysol.

Eich amgylchiadauSwm ychwanegol misol
Os ydych wedi cael eich asesu fel bod gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith£343.63

Os oes gennych salwch terfynol, efallai y gallech gael arian ychwanegol gan Gredyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am sut y gall Credyd Cynhwysol helpu pobl sydd â chyflyrau iechyd ac anableddau

Costau tai

Os ydych chi a/neu’ch partner yn gyfrifol am dalu rhent (gan gynnwys rhai taliadau gwasanaeth) ar gyfer y cartref rydych chi’n byw ynddo, neu os oes gennych forgais, gall Credyd Cynhwysol roi cymorth tuag at y gost.

Os ydych yn cael help tuag at gostau tai bydd yn cael ei dalu fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn talu’ch rhent a’ch costau tai eraill yn llawn i’ch landlord.

Os ydych yn cael trafferth i reoli eich arian, neu os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch ofyn i gael eich costau tai wedi’u talu yn syth i’ch landlord. Siaradwch â’ch anogwr gwaith, defnyddiwch eich dyddlyfr neu ffoniwch y llinell gymorth am fwy o wybodaeth.

Darganfyddwch fwy am sut y gall Credyd Cynhwysol helpu gyda chostau tai

Enillion ac incwm arall

Bydd arian arall sy’n dod i mewn i’ch cartref yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth weithio allan eich taliad Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys eich enillion, unrhyw gyfalaf sydd gennych ac unrhyw ffynonellau incwm eraill (fel gan bensiwn ymddeol).

Enillion

Efallai y byddwch yn dal i allu cael taliadau Credyd Cynhwysol pan fyddwch chi’n dechrau gweithio neu’n cynyddu eich enillion. Bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn addasu’n awtomatig os bydd eich enillion yn newid, gan olygu y bydd gennych yr hyblygrwydd i gymryd gwaith rhan amser neu byrdymor.

Fel mae eich enillion yn cynyddu bydd swm eich Credyd Cynhwysol yn mynd i lawr, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Am fwy o wybodaeth gweler Credyd Cynhwysol a gwaith

Os ydych chi’n rhan o gwpl ac yn cael dyfarniad ar y cyd, yna bydd enillion y ddau ohonoch yn cael eu defnyddio i gyfrifo eich taliad Credyd Cynhwysol.

Cyfalaf

Mae cyfalaf yn golygu rhywbeth allai fod yn ffynonell o incwm. Mae hyn yn cynnwys:

  • cynilion, fel y rhai sydd mewn banc neu gymdeithas adeiladu
  • buddsoddiadau fel Bondiau neu ISA
  • eiddo y gallech fod yn berchen arno neu’n rhannol berchen arno (heblaw’r tŷ rydych yn byw ynddo)

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd angen i chi ddatgan eich holl gyfalaf. Os yw eich cyfalaf werth mwy na £16,000 ni fydd gennych hawl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Os ydych mewn cwpl ond yn gorfod gwneud cais fel person sengl, bydd cyfalaf/cynilion eich partner yn dal i gael ei ystyried.

Dyma sut mae faint o gyfalaf sydd gennych yn effeithio ar eich cais am Gredyd Cynhwysol:

Graffeg i ddangos sut mae faint o gyfalaf sydd gennych yn effeithio eich cais Credyd Cynhwysol

  • Mae unrhyw gyfalaf/cynilion sydd gennych o dan £6,000 yn cael eu hanwybyddu.
  • Mae unrhyw gyfalaf/cynilion sydd gennych werth rhwng £6,000 a £16,000 yn cael ei drin fel petai’n rhoi incwm misol i chi o £4.35 ar gyfer pob £250, neu ran o £250, pa un a yw’n gwneud neu beidio. Felly os oes gennych £6,300 mewn cyfrif cynilo, bydd £6,000 ohono yn cael ei anwybyddu a bydd y £300 arall yn cael ei drin fel petai’n rhoi incwm misol i chi o £8.70.
  • Os oes gennych gyfalaf/cynilion werth mwy na £16,000 ni fydd gennych hawl i gael Credyd Cynhwysol. Mae hyn yr un peth os ydych yn hawlydd sengl neu’n gwneud cais fel cwpl.

Arian arall sy’n dod i mewn i’ch cartref

Mae hyn yn golygu unrhyw arian arall rydych efallai yn ei gael, er enghraifft, o bensiwn neu fudd-daliadau eraill.

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, mae angen i chi ddweud wrthym am eich incwm o ffynonellau eraill oherwydd gallai hyn effeithio’r swm o Gredyd Cynhwysol a gewch. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Incwm pensiwn ymddeol
  • Taliadau cynhaliaeth
  • Incwm myfyriwr
  • Unrhyw incwm arall sy’n drethadwy

Gallech fod yn cael budd-daliadau eraill a hefyd cael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd. Am bob £1 a gewch ganddynt, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng gan £1. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd
  • Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd

Wrth weithio allan eich Credyd Cynhwysol, mae yna rai budd-daliadau eraill nad ydynt yn cael eu hystyried. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Budd-dal Plant
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • pensiynau rhyfel

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Credyd Cynhwysol: Beth fyddwch yn ei gael

Didyniadau

Gallai arian gael ei dynnu allan o’ch taliad:

  • i dalu’n ôl unryw daliadau ymlaen llaw neu fenthyciadau rydych wedi’u cymryd
  • i dalu’n ôl unryw ddyled neu ordaliad ar fudd-daliadau eraill
  • i dalu biliau cyfleustodau yn uniongyrchol i’ch darparwr
  • ar gyfer taliadau cynnal plant

Y swm mwyaf o arian y gellir fel arfer ei dynnu allan o’ch taliad am y rhesymau hyn yw 25% o’ch lwfans safonol.

Gallai eich taliad hefyd gael ei leihau os ydych wedi cael sancsiwn. Gall hyn fod hyd at 100% o’ch lwfans safonol os ydych yn hawlio ar eich pen eich hun, neu hyd at 50% o’r lwfans safonol ar gyfer pob aelod o gwpl.

Os oeddech yn arfer hawlio credydau treth ac wedi cael gordaliad, bydd y ddyled hon yn trosglwyddo drosodd i Gredyd Cynhwysol. Bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau tan bydd y gordaliad wedi cael ei dalu’n ôl.

Darllenwch fwy am ddyledion a didyniadau y gellir eu cymryd o daliadau Credyd Cynhwysol.

Y cap ar fudd-daliadau

Mae yna derfyn ar gyfanswm y budd-dal y gall y rhan fwyaf o bobl 16 i 64 oed ei gael. Gelwir hwn y cap ar fudd-daliadau, ac mae ei swm yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych yn byw y tu allan i Lundain Fwyaf:

Eich amgylchiadauY cap ar fudd-daliadau
Sengl ac nid oes gennych blant, neu nid yw eich plant yn byw gyda chi£257.69 yr wythnos (£13,400 y flwyddyn)
Sengl ac mae eich plant yn byw gyda chi£384.62 yr wythnos (£20,000 y flwyddyn)
Mewn cwpwl, os oes gennych blant neu beidio£384.62 yr wythnos (£20,000 y flwyddyn)

Os ydych yn byw yn Llundain Fwyaf:

Eich amgylchiadauY cap ar fudd-daliadau
Sengl ac nid oes gennych blant, neu nid yw eich plant yn byw gyda chi£296.35 yr wythnos (£15,410 y flwyddyn)
Sengl ac mae eich plant yn byw gyda chi£442.31 yr wythnos (£23,000 y flwyddyn)
Mewn cwpwl, os oes gennych blant neu beidio£442.31 yr wythnos (£23,000 y flwyddyn)

Nid yw’r gost o lety â chymorth neu gysgodol yn cael ei gyfrif wrth weithio allan cyfanswm y budd-dal rydych yn ei gael.

Os ydych eisoes yn hawlio budd-daliadau ac yn debygol o gael eich effeithio gan y rheolau cap ar fudd-daliadau byddwch yn gweld hwn ar eich datganiad misol. Os ydych angen help ychwanegol i gwrdd â chostau rhentu tai, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol i wneud cais am Daliad Tai Dewisol

Ni fydd y cap ar fudd-daliadau yn berthnasol i rai pobl. Er enghraifft, ni fydd yn berthnasol am 9 mis ble mae cartrefi wedi derbyn enillion sydd o leiaf yn £569 y mis yn mhob un o’r 12 mis blaenorol (£604 am unrhyw fis ar ôl Mawrth 2020). Felly mae’n bwysig eich bod yn llenwi’ch enillion yn y gorffennol yn ystod eich cais Credyd Cynhwysol, fel y gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ddweud a yw’r rheol hon yn berthnasol i chi.

Darganfyddwch fwy am y cap ar fudd-daliadau


;