Newydd i Gredyd Cynhwysol

5. Help gyda rheoli eich arian

Taliadau ymlaen llaw

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ond yn methu ag ymdopi tan eich taliad cyntaf, efallai y gallwch gael taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol.

Bydd y swm y gallwch ofyn amdano yn dibynnu ar amcangyfrif eich taliad Credyd Cynhwysol misol cyntaf.

Bydd angen i gost eich taliad ymlaen llaw gael ei lledaenu ar draws eich taliadau Credyd Cynhwysol misol. Mae hyn yn golygu y gallech dderbyn 25 o daliadau mewn 24 mis neu 13 o daliadau mewn 12 mis yn dibynnu ar pryd y gwnaethoch gais. Gallwch ddewis sawl mis i ledaenu cost eich taliad ymlaen llaw cyn belled â bod hyn o fewn y terfynau isod:

  • 24 mis os rydych yn gwneud cais ar neu ar ôl 12 Ebrill 2021
  • 12 mis os wnaethoch wneud cais cyn 12 Ebrill 2021

I wneud cais am daliad ymlaen llaw byddwch angen:

  • gadael i’r Adran Gwaith a Phensiynau wybod pam eich bod angen y taliad ymlaen llaw
  • darparu eich manylion banc fel bod yr arian yn gallu cael ei dalu os cytunir ar daliad ymlaen llaw
  • cytuno i dalu cost y taliad ymlaen llaw a lledaenu’r gost dros gyfnod penodol drwy daliadau Credyd Cynhwysol misol is

Fel arfer dywedir wrthych os gallwch gael taliad ymlaen llaw ar yr un diwrnod ag rydych yn gwneud cais amdano.

Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw yn eich cyfrif ar-lein. Os ydych yn methu gwneud cais ar-lein dylech gysylltu â’ch anogwr gwaith drwy eich dyddlyfr os yn bosibl, ond os na allwch, gallwch ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Dim ond i hawlwyr Credyd Cynhwysol cymwys newydd sy’n gallu dangos bod angen cymorth ariannol ychwanegol arnynt yn ystod y mis cyn eu diwrnod talu Credyd Cynhwysol cyntaf y mae taliadau ymlaen llaw ar geisiadau newydd ar gael. Cytunir ar y swm a gewch a sut y byddwch yn lledaenu cost y taliad ymlaen llaw gyda’ch Rheolwr Achos Credyd Cynhwysol. Rhaid i’ch hunaniaeth gael ei ddilysu naill ai ar-lein neu dros y ffôn gan rywun o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Wrth wneud cais am daliad ymlaen llaw, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais am swm y Credyd Cynhwysol rydych ei angen.

Efallai y byddwch yn gallu cael taliad ymlaen llaw oherwydd newid mewn amgylchiadau. Dyma pryd mae gennych hawl i daliad Credyd Cynhwysol uwch, ond nid ydych wedi derbyn y swm ychwanegol hwnnw eto. Os yw eich sefyllfa wedi newidfel genedigaeth plentyngallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw drwy ffonio’r llinell gymorth. Fel arfer, bydd angen talu cost y math hwndaliadau ymlaen llaw o fewn 6 mis

Os ydych yn profi anawsterau ariannol difrifol, efallai y gallech ehangu y cyfnod o amser i gwmpasu eich taliad ymlaen llaw fel ei fod yn cynnwys oedi am hyd at 3 mis ar gyfer taliad ymlaen llaw cais newydd, neu i fyny at un mis ar gyfer taliad ymlaen llaw newid mewn amgylchiadau. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol mae hyn ar gael. Os ydych yn meddwl eich bod angen edrych i mewn i‘r opsiwn hwn gysylltu â’ch anogwr gwaith drwy ddefnyddio eich cyfrif ar-lein. Os nad ydych yn gallu cael mynediad i’ch cyfrif ar-lein, gallwch ffonio’r llinell gymorth.

Darllenwch fwy am gael taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol.

Peidiwch byth â rhoi gwybodaeth bersonol neu ariannol. Ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau byth yn dod atoch yn y stryd na gofyn am eich manylion personol dros gyfryngau cymdeithasol. Gwrandewch ar eich greddf – os yw rhywbeth yn teimlo’n anghywir, yna mae’n iawn ei gwestiynu fel arfer. Os bydd rhywun yn cynnig benthyciad cost isel i chi gan y llywodraeth efallai y byddant yn ceisio dwyn eich hunaniaeth. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich targedu gan dwyllwyr, cysylltwch â Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ar-lein yn www.actionfraud.police.uk

Taliadau dilyniant

O 22 Gorffennaf 2020, os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm, neu bod newid yn eich amgylchiadau yn golygu bod angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny, efallai y byddwch yn gymwys i gael hyd at gwerth 2 wythnos  ychwanegol o’r taliadau hynny. 

Rheoli eich arian

Telir Credyd Cynhwysol fel un taliad misol sengl. Fel rheol, bydd yn rhaid i chi dalu’ch rhent a’ch biliau am y mis gan ddefnyddio’r arian hwn.

Efallai eich bod wedi arfer rheoli eich arian yn fisol, ond os nad ydych byddwch angen gwneud yn siŵr y gallwch dalu eich holl filiau o’r taliad sengl hwn. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd hyn yn cynnwys talu eich rhent a chostau tai eraill eich hun.

Cymorth cyllidebu

Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael i’ch helpu i gyllidebu. Gallwch siarad â’ch anogwr gwaith am y math o help y gallech fod ei angen. Gallai opsiynau gynnwys gwasanaeth ar-lein, sesiynau cyngor dros y ffôn, neu gefnogaeth wyneb yn wyneb.

Os ydych chi eisiau rhywfaint o help gyda rheoli’ch arian, gallwch ddefnyddio’r Rheolwr Arian. Teclyn digidol yw hwn a grëwyd gan HelpwrArian, sy’n cynnig cyngor personol ar reoli arian.

Gweler Credyd Cynhwysol: help gyda rheoli eich arian am fwy o gyngor a gwybodaeth.

Trefniadau Talu Amgen

Os ydych yn cael trafferth i reoli’ch arian tra’ch bod ar Gredyd Cynhwysol, efallai y gallwch ddefnyddio Trefniadau Talu Amgen. Mae’r rhain yn newidiadau i’r ffordd y telir Credyd Cynhwysol a all eich helpu i dalu’ch biliau a’ch costau byw.

Graffeg i ddangos y 3 math gwahanol o Drefniadau Talu Amgen

Gall Trefniadau Talu Amgen fod yn un neu fwy o:

  • costau Tai Credyd Cynhwysol yn cael eu talu’n syth i’ch landlord
  • taliadau mwy aml, fel dwywaith y mis
  • taliadau’n cael eu rhannu a’u talu i 2 gyfrif banc yn lle un

Mae Trefniadau Talu Amgen yn parhau i gael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn darparu’r cymorth cywir. Pan gytunir ar un, efallai y gofynnir i chi hefyd i gymryd camau i’ch helpu i reoli eich arian, fel cael cyngor cyllidebu, a byddwch yn cytuno ar ddyddiad adolygu. Pwrpas yr adolygiad hwnnw yw penderfynu os mai Trefniadau Talu Amgen yw’r dewis gorau i chi o hyd.

Gallwch ofyn am Drefniadau Talu Amgen unrhyw bryd o’ch cyfweliad cais newydd ymlaen, er gellir ond rhoi un mewn lle yn dilyn diwedd eich cyfnod asesu cyntaf. Siaradwch â’ch anogwr gwaith neu cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau am ragor o wybodaeth.


;