Newydd i Gredyd Cynhwysol

11. Cyflyrau iechyd neu anableddau

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n eich atal rhag gweithio, neu’n cyfyngu ar faint o waith y gallwch ei wneud, gall Credyd Cynhwysol roi cymorth ariannol a chymorth sy’n gysylltiedig â gwaith i chi.

Asesiadau Gallu i Weithio

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, gofynnir i chi a oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio. Os oes gennych, gofynnir i chi lenwi ffurflen asesu a darparu tystiolaeth feddygol. Mae’n rhaid darparu tystiolaeth feddygol i gefnogi eich cais, gan amlaf Datganiad o Ffitrwydd i Weithio y cyfeirir ato fel arfer fel nodyn ffitrwydd.

Os bydd y cyflwr iechyd neu’r anabledd hwnnw’n parhau am bedair wythnos, cewch eich cyfeirio am Asesiad Gallu i Weithio (WCA). Diben yr asesiad hwn yw deall faint mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio. Cynhelir y WCA gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol cwbl gymwys sydd wedi’u contractio ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Lle bynnag y bo modd, bydd yr asesiadau hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth feddygol sydd ar gael i ni, ond, mewn rhai achosion, efallai y bydd angen trefnu apwyntiad gyda chi i gael cyfweliad manylach. Os ydych angen un, fe gewch lythyr gydag amser am apwyntiad. Gall apwyntiadau asesu ddigwydd wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy fideo. Bydd eich llythyr apwyntiad yn nodi sut y bydd yn digwydd.

Yn dilyn eich WCA, bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a gynhaliodd yr asesiad yn anfon adroddiad canlyniad gyda chyngor ac argymhellion at un o swyddogion gwneud penderfyniadau Credyd Cynhwysol. Bydd y swyddog gwneud penderfyniadau yn ystyried y cyngor ac argymhellion, ac, ynghyd ag unrhyw wybodaeth feddygol berthnasol arall sydd ar gael, yn penderfynu a ydych yn un o’r canlynol:

1. Mae gennych allu cyfyngedig i weithio

Mae hyn yn golygu, er efallai na fyddwch yn gallu chwilio am waith nawr, gallwch baratoi ar gyfer gwaith gyda’r nod o weithio rywbryd yn y dyfodol.

Bydd eich anogwr gwaith yn trafod eich sefyllfa ac yn cytuno ar y camau nesaf i’ch helpu i ddechrau paratoi ar gyfer gwaith. Er enghraifft, drwy ysgrifennu CV.

2. Mae gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae hyn yn golygu na ofynnir i chi chwilio am waith neu i baratoi am waith.

Efallai y cewch arian ychwanegol yn ogystal â’ch lwfans safonol.

3. Rydych yn ffit i weithio

Mae hyn yn golygu y bydd disgwyl i chi baratoi am waith, chwilio am waith a chymryd gwaith.

Byddwch yn cael y lwfans safonol o Gredyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

Budd-daliadau ychwanegol

Os penderfynir bod gennych naill ai allu cyfyngedig i weithio neu bod gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith, byddwch yn cael:

Yn ychwanegol ble y penderfynir bod gennych naill ai allu cyfyngedig i weithio a bod gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith, byddwch yn cael yr elfen gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith o Gredyd Cynhwysol – sydd ar hyn o bryd yn £390.06 y mis.

WAC adolygu

Os oes gan eich WCA ddyddiad adolygu, bydd angen i chi gael asesiad arall bryd hynny. Os yw’ch iechyd wedi newid ers eich WCA blaenorol, gallai hyn effeithio ar eich hawl i’r budd-daliadau ychwanegol a grybwyllwyd uchod.

Gwneud cais fel cwpl

Os ydych yn gwneud cais fel cwpl ac mae gan y ddau ohonoch allu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith, bydd eich taliad ar y cyd i’r cartref ond yn cynnwys un swm ychwanegol.

Os ydych yn gweithio

Os ydych yn gallu rheoli’ch cyflwr iechyd neu’ch anabledd fel eich bod yn gallu gweithio, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig oriau’r wythnos, efallai y bydd gennych hawl i’r budd-daliadau ychwanegol y cyfeirir atynt uchod. Mae hawl i’r budd-daliadau hynny yn dibynnu a ellir eich cyfeirio am WCA, ac, os gellir, ar y penderfyniad a wnaed ar eich gallu i weithio yn seiliedig ar ganlyniad yr WCA hwnnw.

Os ydych chi’n gweithio, gallwch ond cael eich cyfeirio am WCA lle mae’ch enillion yn is na swm penodol, neu’n hafal i’r swm penodedig hwnnw neu’n fwy na’r swm penodol hynny, a bod gennych hawl i un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Gweini (AA)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)

Mae’r swm penodol o enillion yn gyfatebol o 16 awr o waith yr wythnos wedi’i dalu ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu Cyflog Byw Cenedlaethol.

Os bydd eich cyflwr yn newid

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os:

  • yw eich cyflwr wedi gwella
  • yw eich cyflwr wedi gwaethygu, neu
  • mae gennych gyflwr iechyd newydd

Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ac yn datblygu cyflwr iechyd neu’n dod yn anabl, rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosib. Ni fydd angen i chi newid budd-daliadau. Byddwch yn aros ar Gredyd Cynhwysol a bydd eich Ymrwymiad Hawlydd yn cael ei adolygu i ystyried eich amgylchiadau newydd.

Am fwy o wybodaeth am Asesiadau Gallu i Weithio a sut mae Credyd Cynhwysol yn cefnogi pobl sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd, gweler Cyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol.

Mynediad at Waith

Mae Mynediad at Waith (ATW) yn grant sy’n gallu rhoi cymorth i bobl anabl i ddechrau neu aros mewn gwaith. Mae’r grant yn darparu cymorth ymarferol ac ariannol os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi wneud eich gwaith.

Gall grant Mynediad at Waith dalu am gymorth ymarferol i’ch helpu i:

  • dechrau gweithio
  • aros yn y gwaith
  • symud i hunangyflogaeth neu gychwyn busnes

Bydd faint fyddwch yn ei gael yn dibynu ar eich amgylchiadau. Nid oes rhaid talu’r arian yn ôl ac ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Efallai y gallwch gael help gyda gweithio gartref, yn eich gweithle arferol, neu gyfuniad o’r ddau.

Os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel oherwydd eich anabledd, a bod eich meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cefnogi hyn, efallai y bydd cyllid ar gael ar gyfer costau teithio ychwanegol.

Symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth(ESA)

Os ydych yn symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) i Gredyd Cynhwysol ac eisoes wedi cael eich asesu fel bod â gallu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith, ac nid oes toriad yn eich cais, efallai y bydd UC yn gallu defnyddio penderfyniad canlyniad y WCA ESA.

Mae hyn yn golygu os oeddech wedi cael yr elfen gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith o fewn ESA, ac nid oes toriad yn eich cais, byddwch yn derbyn y taliad gallu cyfyngedig i weithio o fewn Credyd Cynhwysol.

Os oeddech yn cael yr elfen cymorth o fewn ESA, ac nid oes toriad yn eich cais, byddwch yn derbyn y taliad gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith o fewn Credyd Cynhwysol.

Gallwch gael ESA dull newydd ar yr un pryd a Chredyd Cynhwysol. Am bob £1 a gewch gan ESA dull newydd, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng o £1.

Os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol tra’n apelio yn erbyn penderfyniad Asesiad Gallu i Weithio sy’n berthnasol i gais ESA blaenorol, ni fyddwch yn gallu dychwelyd i ESA, hyd yn oed os yw eich apel yn llwyddiannus. Byddwch yn aros ar Gredyd Cynhwysol a bydd unrhyw newidiadau perthnasol yn cael eu gwneud i’ch taliadau Credyd Cynhwysol. Bydd unrhyw ôl-daliadau o ESA Dull Newydd y gallech fod â hawl iddynt yn cael eu talu fel lwmp swm.

Premiwm anabledd difrifol

Os oedd gennych hawl i’r premiwm anabledd difrifol SDP yn y mis cyn i chi wneud eich cais Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch dderbyn swm diogelu trosiannol sy’n gysylltiedig â SDP fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Os oes gennych hawl i’r swm diogelwch trosiannol hwn, byddwch yn ei gael yn awtomatig fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol. Dywedir wrthych am hyn drwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Bydd yn cael ei ddangos ar eich datganiad fel ‘diogelwch trosiannol’.

Os ydych wedi gwahanu yn ddiweddar o’ch partner oedd yn derbyn SDP, mae angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwsysol o fewn un mis o wahanu os ydych am dderbyn y swm diogelwch trosiannol. Bydd angen i chi ddweud wrth y DWP bod gan eich cyn bartner hawl i SDP fel eu bod yn gwybod i ystyried chi am y swm diogelwch trosiannol sy’n berthasol i SDP.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os byddwch yn dechrau gweithio neu’n dechrau ennill mwy, mae’n bosibl y bydd eich swm diogelwch trosiannol yn cael ei effeithio yn yr un modd â gweddill eich taliad Credyd Cynhwysol. Am bob £1 rydych yn ei ennill dros y lwfans gwaith, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng 63 ceiniog.

Os oes gennych newid mewn amgylchiadau a fyddai’n cynyddu’r Credyd Cynhwysol a gewch, bydd eich swm diogelwch trosiannol yn cael ei leihau yr un faint. Felly bydd cyfanswm eich taliad Credyd Cynhwysol yn aros yr un fath oni bai bod y cynnydd yn fwy na’ch swm diogelwch trosiannol, ac ar yr adeg honno bydd eich Credyd Cynhwysol yn cynyddu.

Os ydych chi’n agosáu at ddiwedd oes

Efallai y cewch arian ychwanegol gan Gredyd Cynhwysol os ydych yn agosáu at ddiwedd oes ac wedi cael gwybod bod gennych 12 mis neu lai i fyw.

Os ydych yn gwneud cais newydd gallwch roi gwybod i ni wrth i chi wneud cais.

Os ydych eisoes wedi hawlio Credyd Cynhwysol ac yn cael gwybod bod gennych 12 mis neu lai i fyw, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod am hyn fel newid mewn amgylchiadau. Gellir gwneud hyn trwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Gallwch hefyd gael rhywun arall i roi gwybod am y newid i chi.

Darganfyddwch fwy am fudd-daliadau os ydych chi’n agosáu at ddiwedd oes.


;