Polisi preifatrwydd


Polisi preifatrwydd

Rydym yn casglu rhywfaint o wybodaeth neu ddata amdanoch pan fyddwch yn ddefnyddio understandinguniversalcredit.gov.uk

Mae hwn yn cynnwys:

  • eich cyfeiriad IP
  • manylion o ba borwr gwe rydych wedi’i ddefnyddio
  • gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio’r wefan, defnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau

Mae hyn yn ein helpu i wella’r wefan trwy fonitro sut rydych yn ei ddefnyddio. Ni allwn eich adnabod yn bersonol drwy ddefnyddio’ch data.

Lle mae eich data yn cael ei gadw

Rydym yn cadw eich data ar ein serfiwr diogel yn y DU. Efallai y bydd ein cyflenwyr hefyd yn ei gadw y tu allan i’r DU.

Drwy gyflwyno’ch data, rydych yn cytuno i hyn.

Cadw’ch data yn ddiogel

Yn gyffredinol, nid yw anfon gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel, ac ni allwn warantu diogelwch eich data.

Mae unrhyw ddata rydych yn ei drosglwyddo ar eich risg eich hun.

Mae gennym weithdrefnau a nodweddion diogelwch ar waith i geisio cadw’ch data yn ddiogel ar ôl i ni ei dderbyn.

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw sefydliadau eraill ar gyfer marchnata, ymchwil y farchnad neu ddibenion masnachol, ac nid ydym yn trosglwyddo’ch manylion i wefannau eraill.

Datgelu eich gwybodaeth

Efallai y byddwn yn trosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol os oes gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gydag adrannau eraill y llywodraeth am resymau cyfreithiol.

Eich hawliau

Gallwch ddarganfod pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, a gofyn i ni beidio â defnyddio unrhyw wybodaeth a gasglwn.

Dolenni i wefannau eraill

Mae understandinguniversalcredit.gov.uk yn cynnwys dolenni i ac o wefannau eraill.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r wefan hon yn unig, ac nid yw’n cynnwys safleoedd eraill rydym yn cysylltu â hwy.

Dilyn dolen i wefan arall

Os ydych yn mynd i wefan arall o’r un yma, darllenwch y polisi preifatrwydd ar y wefan honno i ddarganfod beth y mae’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth.

Dilyn dolen i understandinguniversalcredit.gov.uk o wefan arall

Os ydych chi’n dod i understandinguniversalcredit.gov.uk o wefan arall, efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch chi o’r wefan arall. Dylech ddarllen polisi preifatrwydd y wefan y daethoch ohoni i gael gwybod mwy am hyn.

;