1. Sut i ddefnyddio’r adran hon
Mae’r adran hon ar gyfer sefydliadau ac unigolion a allai helpu rhywun:
- deall os dylent wneud cais am Gredyd Cynhwysol
- gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
- rheoli eu cais unwaith maent ar Gredyd Cynhwysol
Defnyddiwch y dolenni sydd ar frig y dudalen hon am drosolwg o’r prif bethau rydych angen eu gwybod am Gredyd Cynhwysol.
Os hoffech fwy o fanylion, mae’r darganfyddwr arweiniad i Gredyd Cynhwysol yn darparu dolenni i’r holl wybodaeth swyddogol sydd ar gael i landlordiaid, hawlwyr ac unrhyw un sy’n rhoi cymorth iddynt.
Mae hefyd canllaw i randdeiliaid a phartneriaid, sydd ar gyfer sefydliadau a allai gefnogi pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol. Mae’n cynnwys dolenni i ganllawiau, offer a deunyddiau cyfeirio a fydd yn helpu eich staff a chwsmeriaid i ddeall Credyd Cynhwysol.
A dylai landlordiaid a chymdeithasau tai weld y canllaw i landlordiaid
Am fwy o fanylion am y rhannau penodol o Gredyd Cynhwysol, neu i ddarganfod sut mae’n gweithio o ochr yr hawlydd, ewch i’r adrannau perthnasol drwy weddill y safle hwn. Mae Newydd i Gredyd Cynhwysol yn le da i ddechrau.