Helpu rhywun i wneud cais

3. Cael help gyda chais

Os yw rhywun angen help gyda chais, dylent ofyn yn syth – y cynharaf y byddant yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, y cynharaf y byddant yn cael eu taliad cyntaf.

Mae 2 ffordd i gael help gyda chais Credyd Cynhwysol:

Help i Hawlio

Gall Help i Hawlio ddarparu cymorth yn ystod camau cyntaf cais am Gredyd Cynhwysol, o wneud cais ar-lein, drwy gefnogaeth gyda’r cais cyn y taliad llawn cyntaf.

Mae’n wasanaeth am ddim, annibynnol, cyfrinachol a diduedd wedi’i ddarparu gan ymgynghorwyr wedi eu hyfforddi o Gyngor Ar Bopeth. Gallant helpu gyda phethau fel sut i gasglu tystiolaeth ar gyfer y cais neu sut i baratoi ar gyfer yr apwyntiad cyntaf.

Cael Help i Hawlio:

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr

Os ydych yn byw yn yr Alban

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Dylai’r hawlydd gysylltu â llinell gymorth Credyd Cynhwysol os:

  • na allant ddefnyddio gwasanaethau digidol o gwbl, gallai hyn fod oherwydd anabledd neu eu hamgylchiadau
  • mae ganddynt gwestiwn am eu cais ac ni allant gael mynediad i’w cais ar-lein

Dylech wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Nid oes angen i chi ffonio DWP i drefnu apwyntiad ac ni ddylech fynychu’r ganolfan gwaith oni bai ein bod yn gofyn i chi. Fodd bynnag, bydd staff y ganolfan gwaith yn dal i gwrdd â chwsmeriaid bregus, yn cynnwys y sawl sy’n ffoi rhag trais domestig.

Nid oes angen ffonio DWP wrth i ni brosesu eich cais. Os gwnaed eich cais ar-lein, byddwn yn eich ffonio os bydd angen i chi ddarparu unrhyw wybodaeth bellach

Byddwn yn gwybod eich bod wedi gwneud cais a byddwn yn cysylltu â chi os byddwn angen mwy o wybodaeth gennych i brosesu unrhyw daliad sy’n ddyledus i chi. Byddwn yn rhoi nodyn yn eich cyfrif ar-lein ac yn dilyn hynny i fyny gyda galwad ffôn – gall hyn ymddangos fel rhif preifat. Gwiriwch eich cyfrif ar-lein a chadwch lygad am alwadau gennym.

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ddiweddar, bydd eich cais yn cychwyn ar y diwrnod y byddwch yn anfon eich cais ar-lein. Nid yw’r dyddiad hwn yn dibynnu ar eich hunaniaeth yn cael ei ddilysu ar-lein na’i chysylltu â dyddiad unrhyw gyswllt pellach. Fodd bynnag bydd yn rhaid dilysu eich hunaniaeth cyn y gallwch gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd angen i chi gymryd rhan mewn cyfweliad ffôn gydag anogwr gwaith. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen hyn – nid oes angen i chi ein ffonio.

Os na allwch fynychu eich cyfweliad ffôn, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein fel y gellir ei aildrefnu. Os byddwn yn gofyn i chi fynychu cyfweliad ffôn, ni fydd eich cais Credyd Cynhwysol yn gallu mynd yn ei flaen nes bydd y cyfweliad hwnnw wedi cymryd lle.

Os na allwch ddefnyddio gwasanaethau digidol o gwbl, gellir dal gwneud ceisiadau Credyd Cynhwysol dros y ffôn.

Ni fydd DWP byth yn anfon neges destun nac e-bost yn gofyn am wybodaeth bersonol na manylion banc. Noder, mae sgamiau’n targedu pobl, felly peidiwch â rhannu gwybodaeth os nad ydych yn siŵr bod yr alwad gan DWP. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch i’r sawl sy’n ffonio roi ffurf benodol o eiriau yn eich dyddlyfr fel y gallwch fod yn sicr mai ni sydd yno.


;