Credyd Cynhwysol a chyflogwyr

1. Beth mae Credyd Cynhwysol yn ei olygu i gyflogwyr

Mae Credyd Cynhwysol yn darparu cefnogaeth i bobl sy’n gweithio ac yn ennill incwm isel, yn ogystal â rhai sy’n chwilio am swydd. Erbyn yr amser y bydd mewn lle’n llawn, disgwylir y bydd tua 8.5 miliwn o bobl yn hawlio Credyd Cynhwysol, a bydd llawer o’r rhain yn gweithio.

FFel cyflogwr, efallai y bydd gennych eisoes rhai gweithwyr sy’n hawlwyr Credyd Cynhwysol, ac mae’n debygol y bydd gennych fwy yn y dyfodol. Bwriad y wybodaeth ar y tudalennau hyn a’r Canllaw Cyflogwyr i Gredyd Cynhwysol yw eich helpu chi i:

  • gwneud y defnydd gorau o’r cyfleoedd y mae Credyd Cynhwysol yn dod i’ch busnes
  • cefnogi eich  gweithwyr gyda gwybodaeth gywir a defnyddiol

Photo of Ciara Pryce o VGC Group. Quote: "Nod Credyd Cynhwysol yw i wneud budd-dal yn fwy hyblyg, fel ei bod bod amser yn well i weithio. Mae peidio â chael mwyafswm o oriau gwaith penodol mewn wythnos cyn mae budd-dal yn cael ei dorri yn golygu y gall bobl gynyddu eu horiau, gwneud gwaith goramser ac yn y pendraw gwneud eu hunain fwy annibynol yn ariannol."


;