Credyd Cynhwysol a chyflogwyr

3. Ar gyfer staff AD a chyflogres

Gall Credyd Cynhwysol helpu gyda phob cam o’r broses recriwtio a chyflogaeth.

Recriwtio

Mae Credyd Cynhwysol yn eich helpu gyda’ch proses recriwtio oherwydd mae:

  • yn darparu ymgeiswyr sydd wedi’u paratoi’n well – bydd ceiswyr gwaith yn derbyn sgiliau paratoi am waith, digidol a chyllidebu a byddant yn fwy parod yn ariannol ar gyfer y byd gwaith, yn dod o system o daliadau misol
  • yn darparu cronfa ehangach o ymgeiswyr – bydd hawlwyr Credyd Cynhwysol yn fwy agored i waith tymor byr, rhan amser neu afreolaidd
  • ond yn lleihau’n raddol ar ddechrau gweithio – bydd ceiswyr gwaith yn fwy parod i gymryd gwaith oherwydd ni fyddant fel arfer yn colli eu holl fudd-daliadau ar unwaith (mae’r rheol ’16 awr’ wedi mynd)
  • yn helpu gyda gofal plant, hyd yn oed cyn cymryd cynnig swydd – gall rhieni sy’n gweithio hawlio hyd at 85% o gostau gofal plant cofrestredig a dalwyd, hyd at derfyn misol o £646.35 ar gyfer un plentyn, neu £1108.04 ar gyfer dau neu fwy o blant. Bydd hyn yn caniatáu i bobl profiadol sy’n dychwelyd i’r farchnad lafur weithio tuag at eu hymrwymiadau gofal plant.

Rheoli eich gweithlu

Mae Credyd Cynhwysol yn eich cynorthwyo i reoli cyfnodau prysur a thawel yn eich busnes. Bydd hawlwyr Credyd Cynhwysol ar eich gweithlu yn gallu:

  • bod yn hyblyg am eu horiau – ni fydd yn rhaid i weithwyr boeni am eu cais, bydd unrhyw newid mewn enillion yn golygu bod eu Credyd Cynhwysol yn addasu’n awtomatig. Gallant dderbyn cynigion o goramser neu fwy o oriau, gan eich cynorthwyo i osgoi’r costau sy’n gysylltiedig â recriwtio a hyfforddi staff newydd.
  • cynyddu i oriau llawn amser – bydd gweithwyr yn gallu gwneud hyn, er enghraifft dros gyfnod prysur y Nadolig. Fe’u hysbysir yn awtomatig os yw eu enillion uwch yn golygu bod eu Credyd Cynhwysol yn dod i ben, ond os yw eu horiau’n lleihau o fewn 6 mis, mae’n hawdd iddynt gael Credyd Cynhwysol eto.
  • derbyn unrhyw fonysau a gynigir – er y gallai bonws ostwng neu atal taliad eu Credyd Cynhwysol dros dro, mae’n hawdd iddynt gael Credyd Cynhwysol eto.

Cyflogres

Mae’r wybodaeth TWE a anfonwch at HMRC yn cael ei anfon i DWP i’w ystyried wrth gyfrifo taliad Credyd Cynhwysol nesaf yr hawlydd.

Mae Credyd Cynhwysol yn defnyddio gwybodaeth amser real TWE rydych eisoes yn eu cyflwyno, felly nad oes unrhyw waith papur ychwanegol

Mae’n hollbwysig bod cyflogwyr yn cyflwyno gwybodaeth TWE cywir ac amserol. Gallai gwybodaeth anghywir neu hwyr arwain at hawlwyr beidio cael y taliad Credyd Cynhwysol y maent yn ei ddisgwyl.


;