Credyd Cynhwysol a chyflogwyr

2. Sut mae Credyd Cynhwysol yn helpu cyflogwyr

Mae Credyd Cynhwysol wedi’i gynllunio i sicrhau bod pobl yn well eu byd yn y gwaith. Trwy ei gwneud hi’n haws i bobl amrywio’r nifer o oriau y maent yn eu gweithio bob wythnos neu gymryd swydd dros dro, gall Credyd Cynhwysol helpu i roi gweithlu mwy hyblyg i’ch busnes:

  • Bydd hawlwyr Credyd Cynhwysol yn fwy agored i waith tymor byr neu oriau hyblyg oherwydd ni fydd yn rhaid iddynt boeni am beth fydd hyn yn ei olygu i’w cais.
  • Mae Credyd Cynhwysol yn cael gwared â’r hen reol ’16 awr’ oherwydd mae taliadau’n seiliedig ar enillion yn hytrach na’r nifer o oriau a weithir.

Gan and yw'r rheol 16 awr yn bodoli mae'n golygu y gall staff sy'n hawlio Credyd Cynhwysol gynyddu eu horiau heb boeni am eu cais

  • Gall hawlwyr hyd yn oed dderbyn gwaith tymhorol amser llawn am hyd at 6 mis heb orfod cau eu cais Credyd Cynhwysol.
  • Mae taliadau Credyd Cynhwysol yn addasu yn awtomatig wrth i enillion newid, fel y gall pobl gymryd gwaith dros dro, rhan amser neu waith ychwanegol heb orfod gweithio allan beth fydd hyn yn ei olygu i’w budd-daliadau.

Mae ceisiadau Credyd Cynhwysol yn aros ar agor, sy'n golygu y gall ceiswyr gwaith cymryd gwaith tymor byr, sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd i gyflogwyr

  • Bydd swyddi lefel mynediad, sy’n aml yn hanfodol i ddechrau bywyd gwaith, yn fwy deniadol i ystod ehangach o ymgeiswyr. Gall hawlwyr gymryd siawns ar yrfa newydd gan fod Credyd Cynhwysol yn eu cefnogi wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf i mewn i’r gwaith.
  • Mae Credyd Cynhwysol yn darparu cymorth gofal plant, mwy hael, gan roi mwy o hyder i deuluoedd i newid eu horiau neu gymryd i fyny cynnig am swydd efallai nad oeddent wedi meddwl oedd yn bosibl oherwydd ymrwymiadau gofal plant.

Mae cymorth gofal plant hael Credyd Cynhwysol yn helpu rhieni i symud i mewn i waith a chynyddu eu horiau

Mae pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol hefyd yn derbyn cymorth wedi’i deilwra a allai fod o fudd i’ch sefydliad, fel hyfforddiant mewn sgiliau digidol a chyllidebu. Ac mae Credyd Cynhwysol yn annog pobl i symud ymlaen yn y gwaith a gwneud y gorau o’u potensial.

Gan fod Credyd Cynhwysol yn defnyddio’r wybodaeth PAYE amser real presennol rydych eisoes yn anfon at CThEM, mae taliadau Credyd Cynhwysol yn addasu yn awtomatig heb yr angen i hawlwyr wneud unrhyw beth. Ac ni fydd yn ychwanegu at eich costau busnes.

Ewch i Credyd Cynhwysol: sut mae’n helpu eich busnes i ddarganfod mwy.


;