Credyd Cynhwysol a chyflogwyr

4. Sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o nodweddion Credyd Cynhwysol sydd fwyaf perthnasol i gyflogwyr. I gael rhagor o fanylion am elfennau penodol, neu i ddarganfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio o safbwynt eich gweithwyr, gweler yr adran Newydd i Gredyd Cynhwysol.

Sut mae enillion yn effeithio ar daliadau Credyd Cynhwysol

Mae swm y Credyd Cynhwysol a gaiff eich gweithwyr yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol. Gall gynnwys cymorth gyda chostau tai a gofal plant. Fe’i telir fel arfer unwaith y mis, ac mae’r union swm yn cael ei gyfrifo bob mis calendr.

Gall pobl barhau i gael Credyd Cynhwysol hyd yn oed pan fyddant yn gweithio, yn dibynnu ar eu henillion. Bydd swm y Credyd Cynhwysol y byddant yn ei gael yn ymateb yn awtomatig i newidiadau yn eu enillion. Fe’i cyfrifir yn seiliedig ar eu tâl mynd gartref, ar ôl treth a didyniadau eraill.

Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, bydd rhai pobl yn gallu ennill swm penodol heb iddo effeithio ar eu taliadau Credyd Cynhwysol o gwbl. Gelwir y swm hwn yn Lwfans Gwaith.

Os oes gan rywun Lwfans Gwaith, am bob £1 y byddant yn ei ennill uwchben y swm hwnnw, bydd eu taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng 55c. Os nad oes Lwfans Gwaith ganddynt, bydd hyn yn berthnasol i’w holl enillion.

Os yw rhywun yn ennill digon i beidio â chael Credyd Cynhwysol bellach, bydd eu cais yn cael ei atal yn awtomatig. Os bydd eu henillion yn mynd i lawr mewn mis dilynol, mae’n hawdd iddynt ail-ddechrau eu cais Credyd Cynhwysol. Dim ond os na fyddant wedi cael unrhyw daliadau Credyd Cynhwysol am 6 mis y bydd eu cais yn dod i ben.

Nid oes cyfyngiadau ar y nifer o oriau y gall pobl weithio a pharhau i gael Credyd Cynhwysol – yr unig beth sy’n effeithio ar eu taliad Credyd Cynhwysol yw’r swm y maent yn ei ennill.

Mae Credyd Cynhwysol yn ei gwneud hi'n haws i ddefnyddio staff presennol ar gyfer goramser a sifftiau ychwanegol

Tâl ychwanegol

Mae Credyd Cynhwysol yn ei gwneud hi’n haws i bobl dderbyn goramser neu oriau ychwanegol, gan na fydd ennill mwy yn golygu bod angen iddynt ddod a’u cais am fudd-dal i ben.

Caiff bonws ei ystyried wrth gyfrifo taliad Credyd Cynhwysol rhywun. Os yw rhywun yn cael bonws mawr iawn neu’n ennill llawer mwy nag arfer mewn un mis, gallai hyn hefyd effeithio ar eu taliadau Credyd Cynhwysol yn ystod misoedd diweddarach. Gelwir hyn yn enillion dros ben.

Bydd bob amser yn werth i rywun dderbyn gwaith ychwanegol neu fonws oherwydd bydd eu taliad Credyd Cynhwysol bob amser yn cael ei ostwng gan lai na’u henillion ychwanegol.

Rhoi gwybod am enillion

Defnyddir y wybodaeth TWE amser real presennol a roddwch i CThEM i gyfrifo’r taliad Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu nad oes costau gweinyddu busnes ychwanegol.

Cylch talu

Telir Credyd Cynhwysol bob mis calendr. Telir hawlwyr ar yr un diwrnod bob mis – os oedd eu taliad cyntaf ar 7 Mawrth, byddant bob amser yn cael eu talu ar y 7fed o’r mis. Os bydd hyn yn disgyn ar benwythnos neu wyliau banc, byddant yn cael eu talu ar y diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad hwnnw.

Efallai y bydd adegau pan fydd gan rai gweithwyr yn cael diwrnod talu cyflog ychwanegol o’r gwaith yn ystod mis calendr. Er enghraifft, os telir eich gweithwyr bob 2 wythnos, byddant fel arfer yn cael 2 daliad o enillion mewn mis. Ond oherwydd bod misoedd calendr hirach na 4 wythnos, weithiau byddant yn cael 3 taliad o enillion mewn un mis.

Yn ystod y misoedd hyn bydd eu enillion yn uwch nag arfer, a gallai hyn olygu bod eu taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau ar gyfer y mis hwnnw. Efallai y bydd eu taliad ychwanegol yn golygu eu bod yn ennill digon y mis hwnnw i beidio cael taliad Credyd Cynhwysol o gwbl.

Os yw’r taliad llai o Gredyd Cynhwysol yn golygu eu bod yn cael trafferth talu eu biliau a threuliau cartref, gallant siarad â’u hanogwr gwaith neu ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol i siarad am y cymorth a allai fod ar gael.

Yr hyn a ddisgwylir gan hawlwyr

Os yw rhywun yn gweithio ac yn dal i gael taliadau Credyd Cynhwysol efallai y gofynnir iddynt gynyddu eu horiau, edrych am ffyrdd o ddatgblygu yn eu gweithle presennol, neu chwilio am waith ychwanegol gyda chyflogwr gwahanol.

Efallai y bydd eich gweithwyr yn dymuno trafod sut y gallant gynyddu eu enillion. Efallai yr hoffech ystyried sut y gallech ymateb i gais o’r fath. Os na allwch roi cyfleoedd iddynt gynyddu eu henillion, efallai y bydd angen iddynt chwilio am waith mewn man arall.

Mewn rhai achosion gall hawlwyr Credyd Cynhwysol gysylltu â’u hanogwr gwaith yn y ganolfan waith am gymorth, a gall hyn olygu eu bod yn cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod yn y ganolfan waith. Bydd y cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar gefnogi’r hawlydd i helpu i gynyddu eu enillion. Ni fydd gofyn i neb fynychu cyfarfod mewn canolfan gwaith ar amser pan ddylent fod yn y gwaith.

Mae Credyd Cynhwysol yn caniatau sifftiau a chyfrifoldebau ychwanegol, sy'n helpu staff i ddatblygu eu gyrfaoedd ac yn arbed arian i chi ar gyfer recriwtio

Symud o gredydau treth i Credyd Cynhwysol

Os yw rhywun yn hawlio credydau treth ond mae ganddynt newid mewn amgylchiadau, gallai hyn olygu nad ydynt bellach yn gallu hawlio credydau treth a byddant yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Dros amser, ni fydd credydau treth ar gael mwyach a bydd pobl yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny. Rhoddir digon o rybudd i hawlwyr credyd treth cyn i’r newid hwn ddigwydd.

Mae mwy o wybodaeth am yr hyn y bydd Credyd Cynhwysol yn ei olygu i’ch sefydliad a’ch gweithwyr yn Credyd Cynhwysol a chyflogwyr: cwestiynau cyffredin


;