Newydd i Gredyd Cynhwysol

1. A yw’n addas i mi

Pwy all gael Credyd Cynhwysol

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu’n ddi-waith.

Fel arfer byddwch ond yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn 18 oed neu drosodd, ond gall rhai pobl 16 neu 17 oed ei gael, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

Ac fel arfer ni fyddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych mewn addysg llawn amser neu hyfforddiant, ond gall pobl gydag amgylchiadau penodol ddal i wneud cais.

Darllenwch y canllaw manwl ar gymhwyster a Credyd Cynhwysol a myfyrwyr am fwy o wybodaeth.

Os ydych chi’n ddinesydd yr UE, yr AEE neu’r Swistir, fel arfer mae angen statws preswylydd sefydlog neu statws cyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog UE i gael Credyd Cynhwysol. Os nad ydych wedi gwneud cais eto i Gynllun Preswylio’n Sefydlog UE, rhaid i chi wneud cais cyn gynted â phosibl. 

Gallwch ddefnyddio gwiriwr budd-daliadau i’ch helpu chi i ddeall pa fudd-daliadau y gallech eu cael.

Gofynnir i chi roi gwybodaeth am eich amgylchiadau, a bydd yn dweud wrthych pa fudd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt. Gallai un o’r rheini fod yn Gredyd Cynhwysol.

 Gall cyfrifiannell budd-daliadau hefyd fod yn ddefnyddiol i gael amcangyfrif o’r hyn y gallech fod â hawl i’w gael pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Gellid gofyn i chi ddarparu manylion ychwanegol am eich amgylchiadau er mwyn helpu i gynhyrchu amcangyfrif mwy cywir o’ch taliad misol. 

Mae’r swm rydych yn ei gael yn cael ei weithio allan bob mis, felly gall fod yn wahanol o un mis i’r llall os ydych yn ennill swm gwahanol, neu os bydd eich amgylchiadau’n newid. 

Gallwch wirio gydag ymgynghorydd budd-daliadau lleol i ddarganfod beth y gallech fod â hawl i’w gael gydag  Advice Local. 

Os ydych am fynd yn syth i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, ewch i gov.uk/credyd-cynhwysol.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ewch i Universal Credit in Northern Ireland. 

Beth mae Credyd Cynhwysol yn disodli

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli:

  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Credyd Treth Gwaith

Os ydych eisoes yn hawlio’r budd-daliadau neu gredydau treth hyn, nid oes angen i chi wneud dim byd nawr. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi cyn y bydd unrhyw newidiadau i’ch budd-daliadau neu gredydau treth. 

Os ydych eisoes yn hawlio’r budd-daliadau neu gredydau treth hyn ac mae eich amgylchiadau’n newid mewn ffordd y byddai’n golygu y byddech angen gwneud cais newydd am un o’r budd-daliadau hyn, byddwch nawr angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny. 

Noder, pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd hyn yn golygu na allwch gael y budd-daliadau hyn na’r credydau treth bellach. Fodd bynnag, o 22 Gorffennaf 2020, os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad dilyniant 2 wythnos.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol efallai y bydd rhaid i chi dalu llai o Dreth Cyngor, ond bydd angen i chi wneud cais am hynny ar wahân. Gallwch ddechrau’r broses i wneud cais am Ostyngiad i’ch Treth Cyngor ar GOV.UK. Gallwch wneud cais am ostyngiad i’ch Treth Cyngor yn syth – nid oes rhaid i chi aros nes bod eich cais am Gredyd Cynhwysol wedi’i gymeradwyo neu ei dalu.

Os ydych yn cael credydau treth ar hyn o bryd

Os ydych yn cael credydau treth ar hyn o bryd gan CThEF, byddwch yn ymwybodol os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd eich dyfarniad credyd treth yn dod i ben yn syth. Os daw eich dyfarniad credyd treth i ben ni ellir ei ailagor, ac ni fydd yn bosibl gwneud cais am gredydau treth newydd yn y dyfodol.

Os ydych yn hawlydd credyd treth presennol, nid yw hyn yn golygu y byddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol yn awtomatig. Os anfonwch gais am Gredyd Cynhwysol bydd eich dyfarniad credyd treth yn cael ei gau yn syth, hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Mae rhai gwahaniaethau rhwng y meini prawf cymhwyster ar gyfer Credyd Cynhwysol a chredydau treth, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) eich cynilion a’ch statws preswylio.

Os ydych yn cael credydau treth ar hyn o bryd, gwiriwch y meini prawf cymhwyster ar gyfer Credyd Cynhwysol cyn i chi anfon cais am Gredyd Cynhwysol. Os nad yw’ch dyfarniad credyd treth wedi dod i ben, bydd angen i chi benderfynu a yw aros ar gredydau treth neu wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn well i chi, yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol eich hun. Gallwch ddefnyddio gwiriwr budd-daliadau i wirio’ch hawl posibl.

Taliadau dilyniant

O 22 Gorffennaf 2020, os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm, a naill ai’n:

  • dewis gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, neu
  • mae newid yn eich amgylchiadau yn golygu bod angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle

efallai y byddwch yn cael hyd at werth 2 wythnos ychwanegol o’r taliadau hynny.

Mae hwn yn daliad untro ac nid oes yn rhaid ei dalu’n ôl.

Os ydych yn gymwys amdano, bydd yn cael ei dalu’n awtomatig. Nid oes yn rhaid i chi gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i’w gael.

Ni fydd yn effeithio ar y swm o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei gael.

Os oedd eich taliadau o’r budd-daliadau hyn yn cynnwys unrhyw daliadau ychwanegol am bartneriaid a/neu bremiymau, bydd y rhain hefyd yn cael eu cynnwys yn y taliad. Bydd unrhyw ddidyniadau o’ch taliadau yn cael eu cymhwyso oni bai y byddant wedi dod i ben yn ystod y cyfnod 2 wythnos hwnnw.

Os ydych hefyd yn cael Lwfans Ceisio Gwaith/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn eich taliad ychwanegol. Fodd bynnag, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau gan y swm rydych yn ei gael gan eich Lwfans Ceisio Gwaith/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau.

Os ydych yn parhau i gael Lwfans Ceisio Gwaith/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau tra rydych ar Gredyd Cynhwysol, bydd hyn yn cael ei drosi i Lwfans Ceisio Gwaith/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd. Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau gan y swm rydych yn ei gael gan Lwfans Ceisio Gwaith/Lwfans Cyflogaeth Dull Newydd.

Os ydych chi neu’ch partner dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi neu’ch partner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych mewn cwpl lle mae un ohonoch dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac mae’r llall o dan yr oedran (gelwir hyn yn gwpl oed cymysg), byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl. Pan fydd y ddau ohonoch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn dod i ben ac efallai y byddwch yn dymuno gwneud cais am Gredyd Pensiwn a/neu Fudd-dal Tai.

Os ydych mewn cwpl oed cymysg ac yn cael Credyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai yn barod, byddwch yn aros ar y budd-daliadau hynny cyhyd â bod eich amgylchiadau yn aros yr un fath ac nad oes unrhyw doriad yn eich cais. Os oes gennych doriad yn eich cais neu os yw’ch amgylchiadau’n newid, efallai y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Darllenwch fwy am gymhwyster Credyd Pensiwn


;