Newydd i Gredyd Cynhwysol

2. Gwneud eich cais

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwneud eu cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein, ble y gallwch ddod o hyd i gymorth gyda gwneud eich cais.

Os ydych chi’n rhan o gwpl ac yn byw yn yr un cartref, bydd angen i chi wneud cais ar y cyd ar gyfer Credyd Cynhwysol. Byddwch yn derbyn un taliad misol sengl ar gyfer eich cartref cyfan.

Darganfyddwch fwy am wneud cais yn cynnwys sut i wneud cais ar y cyd fel cwpwl.

Help gyda’ch cais

Os ydych angen help gyda’ch cais, gofynnwch yn syth – y cynharaf y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, y cynharaf y cewch eich taliad cyntaf.

Mae 2 ffordd i gael help gyda’ch cais Credyd Cynhwysol:

Help i Hawlio

Gall Help i Hawlio eich cefnogi yn ystod camau cyntaf eich cais am Gredyd Cynhwysol, o wneud cais ar-lein, drwy gefnogaeth gyda’ch cais cyn eich taliad llawn cyntaf.

Mae’n wasanaeth am ddim, annibynnol, cyfrinachol a di-duedd wedi’i ddarparu gan ymgynghorwyr wedi eu hyfforddi o Gyngor Ar Bopeth. Gallant helpu gyda phethau fel sut i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich cais neu sut i baratoi ar gyfer eich apwyntiad cyntaf.

Cael Help i Hawlio

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr

Os ydych yn byw yn yr Alban

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol os:

  • na allwch ddefnyddio gwasanaethau digidol o gwbwl, gallai hyn fod oherwydd anabledd neu eich amgylchiadau
  • mae gennych gwestiwn am eich cais ac ni allwch gael mynediad i’ch cais ar-lein

Yn aml, defnyddio’ch cyfrif ar-lein yw’r ffordd gyflymaf o gysylltu â DWP. Mae ein llinellau ffôn ar gael i’n cwsmeriaid mwyaf bregus, ond defnyddio ein gwasanaeth ar-lein yw dal y ffordd gyflymaf o gysylltu â DWP.

JSA dull newydd ac ESA dull newydd

Os ydych wedi gweithio fel gweithiwr cyflogedig ac wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael naill ai Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) dull newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd

Byddwch yn gwneud cais am JSA dull newydd neu ESA dull newydd ar wahân i Gredyd Cynhwysol. Gallwch wneud cais amdanynt a Chredyd Cynhwysol ar yr un pryd. Os cewch y budd-daliadau hyn ar yr un pryd a Chredyd Cynhwysol, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau. Am bob £1 a gewch ganddynt hwy bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng o £1.


;