Newydd i Gredyd Cynhwysol

10. Tai

Os ydych chi a/neu’ch partner yn gyfrifol am dalu rhent ar gyfer y cartref rydych chi’n byw ynddo, neu os oes gennych forgais, gall Credyd Cynhwysol roi cymorth tuag at y gost. Gelwir hyn yn gostau tai Credyd Cynhwysol.

Gwneud cais am gostau tai

Pan rydych yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol bydd eich costau tai fel arfer yn cael eu talu fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol. Os ydych yn cael Budd-dal Tai, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â’ch awdurdod lleol i stopio eich taliadau Budd-dal Tai. Ar yr amser hwn byddwch yn derbyn taliad ychwanegol o werth 2 wythnos o Fudd-dal Tai i’ch cefnogi chi fel rydych yn symud i Gredyd Cynhwysol.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn talu’ch rhent a’ch costau tai eraill yn llawn i’ch landlord. Os ydych yn cael trafferth i reoli eich arian, neu os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch ofyn i gael eich costau tai wedi’u talu yn syth i’ch landlord. Siaradwch â’ch anogwr gwaith, defnyddiwch eich dyddlyfr neu ffoniwch y llinell gymorth am fwy o wybodaeth.

Os ydych yn gwneud cais Credyd Cynhwysol newydd gall fod yn 5 wythnos hyd nes y byddwch yn cael eich taliad cyntaf. Mae’n syniad da i ddweud wrth eich landlord eich bod yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel eu bod yn deall eich sefyllfa. Bydd angen i chi ddweud wrthynt eich bod wedi gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol a bod cais am gostau tai wedi’i gynnwys fel rhan o’ch cais.

Gwybodaeth rydych ei angen i wneud cais

Os ydych yn gwneud cais am gostau tai ar gyfer eiddo rhent fel rhan o’ch cais Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi ddod â thystiolaeth gyda chi i’ch cyfweliad cais newydd. Gallai hyn fod yn:

  • cytundeb tenantiaeth cyfredol
  • datganiad rhent cyfredol
  • llyfr rhent cyfredol, neu
  • llythyr wedi’i lofnodi gan eich landlord

Os ydych yn byw mewn eiddo rhent cymdeithasol ni fydd angen i chi ddod â’r wybodaeth hon i’ch cyfweliad cais newydd. Yn lle hynny byddwch yn rhoi manylion eich costau tai ar-lein a bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â’ch landlord i gadarnhau bod rhain yn gywir.

Mathau o gostau tai

Morgeisi

Os oes gennych forgais, efallai y gall Credyd Cynhwysol ddarparu help tuag at gostau taliadau eich morgais. Efallai y bydd hefyd yn gallu helpu gyda benthyciadau (hyd at £200,000) rydych chi wedi cymryd allan sy’n defnyddio’ch eiddo fel sicrwydd.

I gael yr help hwn bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch morgais neu’ch benthyciad. Gallai hyn fod yn:

  • cytundeb morgais
  • datganiad morgais cyfredol
  • cytundeb benthyciad, neu
  • datganiadau banc sy’n dangos talu’r morgais neu’r benthyciadau

Darperir cymorth gyda thaliadau morgais neu fenthyciadau fel benthyciad. Dim ond os bydd yr eiddo y gwnaethpwyd y cais amdano yn cael ei werthu neu ei drosglwyddo i rywun arall y gofynnir i chi dalu’r benthyciad hwn yn ôl. Os ydych yn prynu cartref newydd efallai y byddwch yn gallu trosglwyddo’r benthyciad iddo. Gallwch ddewis talu’r benthyciad yn ôl yn gynnar os dymunwch.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwirio’ch tystiolaeth cyn talu costau tai Credyd Cynhwysol. Gall unrhyw oedi wrth ddarparu’r dystiolaeth hon olygu oedi wrth dalu eich costau tai Credyd Cynhwysol.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar swm eich morgais neu fenthyciadau sy’n weddill. Fe’i cyfrifir gan ddefnyddio cyfradd llog safonol, ac fel arfer fe’i telir yn syth i’r banc, cymdeithas adeiladu neu fenthyciwr. Fe’ch hysbysir o’ch swm costau tai Credyd Cynhwysol a thaliadau trwy eich cyfrif ar-lein.

Gallwch ond cael help gyda thaliadau morgais os ydych wedi bod yn hawlio Credyd Cynhwysol am 3 mis neu fwy, heb unrhyw doriadau.

Os ydych wedi symud i Gredyd Cynhwysol o fewn mis i fudd-dal arall ddod i ben, bydd yr amser a dreilwyd ar y budd-dal cyntaf yn cyfrif tuag at y 3 mis.

Os bydd eich dyfarniad Credyd Cynhwysol yn dod i ben a’ch bod yn dechrau cael hyn o fewn 6 mis, yna byddwch yn dechrau cael cymorth eto ar unwaith.

Darllenwch fwy am gymorth ar gyfer llog ar forgais

Cynlluniau perchnogaeth wedi’i rannu

Fel arfer mae cynllun perchnogaeth wedi’i rannu yn cael ei ddarparu gan gymdeithasau tai ble rydych yn rhannol rentu rhannol brynu eich cartref. Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu swm morgais a swm rhent. Os cewch help gyda hyn, bydd eich taliad costau tai Credyd Cynhwysol yn cynnwys help tuag at swm rhent gydag unrhyw help tuag at eich llog morgais fel arfer yn cael ei dalu’n syth i’ch benthyciwr morgais.

Taliadau gwasanaeth

Disgwylir i rai pobl dalu tâl gwasanaeth ar eu heiddo rhent, yn ogystal â’u rhent misol arferol.

Os oes rhaid i chi dalu tâl gwasanaeth, bydd hwn yn cael ei ddangos ar eich datganiad tâl gwasanaeth gan eich landlord. Gall Credyd Cynhwysol helpu tuag at y gost hon, ond bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o unrhyw daliadau gwasanaeth y mae’n rhaid i chi eu talu.

Talu rhent ar 2 gartref

Gall Credyd Cynhwysol helpu tuag at y gost o 2 gartref os:

  • mae teulu yn rhy fawr i fyw mewn un cartref
  • mae aelod o’r teulu yn gadael eu cartref trwy ofni trais neu gamdriniaeth, ond maent yn bwriadu dychwelyd, neu
  • mae angen i aelod o’r teulu sy’n derbyn budd-dal oherwydd anabledd aros i symud i mewn i’w cartref newydd oherwydd mae angen ei addasu er mwyn iddynt fyw ynddo

Llety ar rent

Mae faint o gymorth tai y byddwch yn ei gael yn seiliedig ar faint yr eiddo rydych ei angen.

Mae disgwyl i’r canlynol rannu ystafell wely:

  • cwpwl sy’n oedolion
  • 2 blentyn dan 16 oed o’r un rhyw
  • 2 blentyn dan 10 oed (beth bynnag fo’u rhyw)

Gall y canlynol gael eu hystafell wely eu hunain:

  • un oedolyn (16 oed neu drosodd)
  • plentyn a fyddai fel arfer yn rhannu ond mae ystafelloedd gwely a rennir eisoes yn cael eu defnyddio, er enghraifft mae gennych 3 o blant a 2 eisoes yn rhannu
  • cwpl neu blant sydd ddim yn gallu rhannu oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol
  • gofalwr dros nos i chi, eich partner, eich plentyn neu oedolyn arall – dim ond os nad yw’r gofalwr yn byw gyda chi ond weithiau’n gorfod aros dros nos

Ystafelloedd gwely sbâr

Gall y swm rydych yn ei gael tuag at eich costau tai gael ei leihau os oes gan eich cartref ystafelloedd gwely sbâr.

Os ydych yn talu rhent i awdurdod lleol, cyngor neu gymdeithas dai fe gewch eich rhent llawn fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol. Bydd hyn yn cael ei leihau o 14% os oes gennych un ystafell wely sbâr, neu 25% os oes gennych 2 neu fwy o ystafelloedd gwely sbâr. Gelwir hyn yn Dileu’r Cymhorthdal ​​Ystafell Sbâr.

Gallai eich costau tai Credyd Cynhwysol hefyd gael eu lleihau os oes person 21 oed neu drosodd yn byw gyda chi sydd ddim yn ddibynnydd.

Os ydych chi’n talu rhent i landlord preifat bydd swm y costau tai Credyd Cynhwysol a gewch yn cael ei weithio allan trwy edrych ar nifer y bobl sy’n byw yn eich cartref. Nid yw gwir faint eich cartref yn bwysig – bydd y swm a gewch yn cael ei gyfrifo drwy faint o bobl sy’n byw yno. Felly, os oes gennych ystafelloedd gwely sbâr byddwch ond yn cael costau tai i gwmpasu eiddo llai. Mae’r swm a gewch yn cael ei osod gan y gyfradd Lwfans Tai Lleol yn eich ardal chi.

Mae nifer o amgylchiadau sy’n caniatáu ystafell wely ychwanegol, megis lle nad yw aelod o’r cartref yn gallu rhannu oherwydd anableddau neu lle mae rhywun angen ac yn cael gofal dros nos yn rheolaidd cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyso. Gweler y meini prawf llawn yma dan y ‘llety ar rent’.

Efallai y bydd eich costau tai Credyd Cynhwysol hefyd yn cael ei leihau os yw rhywun 21 oed neu drosodd yn byw gyda chi sydd ddim yn berson dibynnol.

Llety dros dro

Os ydych yn byw mewn llety dros dro ac yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, ni fydd eich taliad yn cynnwys swm i helpu tuag at eich costau tai. Bydd angen i chi wneud cais am Fudd-dal Tai gan yr awdurdod lleol sydd wedi eich rhoi mewn llety dros dro i gael help gyda’ch costau tai. Gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol i helpu gyda’ch costau eraill.

Os ydych eisoes yn cael help gyda chostau tai llety dros dro drwy Gredyd Cynhwysol, bydd hyn yn parhau hyd nes y bydd newid i swm y rhent rydych yn ei dalu. Os bydd hynny’n digwydd bydd angen i chi wneud cais am Fudd-dal Tai yn ogystal â Chredyd Cynhwysol.

Mae mwy o gyngor ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o gael eu gwneud yn ddigartref yn Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol: gwybodaeth i bobl digartref

Tai cysgodol neu dai â chymorth

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu gyda chostau byw. Mae p’un ai y gall helpu gyda chostau tai yn dibynnu ar eich llety a sut mae’n eich cefnogi.

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu gyda chostau tai os yw’r ddau’n berthnasol:

  • rydych yn byw mewn tai â chymorth neu gysgodol
  • nid ydych yn cael ‘gofal, cefnogaeth na goruchwyliaeth’ drwy eich tai

Ni allwch gael Credyd Cynhwysol i helpu gyda chostau tai os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn byw mewn tai â chymorth neu gysgodol (fel hostel) sy’n rhoi ‘gofal, cefnogaeth neu oruchwyliaeth’ i chi
  • rydych yn byw mewn llety dros dro, fel llety gwely a brecwast wedi ei drefnu gan eich cyngor
  • rydych yn byw mewn lloches i oroeswyr cam-drin domestig

Talu rhent i landlord preifat yn yr Alban

Yn yr Alban mae’n rhaid i bob landlord gofrestru eu heiddo gyda’r awdurdod lleol. Os nad yw’ch landlord wedi gwneud hyn ar gyfer eich eiddo, gallwch barhau i gael Costau Tai Credyd Cynhwysol, ond bydd angen i chi roi gwybod i’ch awdurdod lleol amdano. Gallwch hefyd siarad â’ch anogwr gwaith am fwy o help.

Eich amgylchiadau

Os ydych yn sengl ac o dan 35 mlwydd oed ac yn byw mewn llety preifat

Os nad ydych yn byw gyda phartner, mae’r swm mwyaf y gallwch ei gael fel arfer yn seiliedig ar y gost o rentu ystafell mewn tŷ a rennir yn eich ardal, hyd yn oed os nad ydych yn byw mewn tai a rennir. Gelwir hyn yn gyfradd llety a rennir y Lwfans Tai Lleol (SAR).

Mae’r swm a gewch yn cael ei osod gan y gyfradd Lwfans Tai Lleol yn eich ardal.

Mae yna rai amgylchiadau lle gallech chi gael taliadau tai uwch, er enghraifft os ydych yn gyfrifol am blentyn, gydag anabledd neu yn gadael gofal.

Gweler y rhestr lawn hon o’r amgylchiadau lle y gellir caniatáu taliadau tai uwch.

Siaradwch â’ch rheolwr achos neu cysylltwch â Chredyd Cynhwysol am ragor o wybodaeth.

Os ydych yn byw gyda rhywun sy’n 21 oed neu drosodd

Os ydych yn byw gyda rhywun sy’n 21 oed neu drosodd nad yw’n eich partner, fel arfer bydd eich taliad tai yn cael ei leihau. Mae mwy o wybodaeth os ydych yn talu rhent i landlord preifat neu os ydych yn talu rhent i awdurdod lleol neu gymdeithas tai.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Gallai newidiadau i’ch amgylchiadau olygu y bydd y swm a gewch tuag at eich costau tai yn newid. Eich cyfrifoldeb chi yw gadael i’r Adran Gwaith a Phensiynau wybod am unrhyw newidiadau yn eich sefyllfa fel y gallant sicrhau eich bod yn cael y taliadau Credyd Cynhwysol cywir. Darllenwch fwy am bethau sy’n cyfrif fel newidiadau mewn amgylchiadau.

Os ydych yn newid cyfeiriad

Os ydych yn newid cyfeiriad mewn cyfnod asesu, bydd y swm a gewch mewn costau tai ar gyfer y mis cyfan yn seiliedig ar ble rydych chi’n byw ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Golyga hyn, os byddwch yn symud i eiddo sydd â rhent is, ni fydd y swm a gewch y mis hwnnw yn talu’r swm uwch y byddai wedi cael ei godi arnoch ar gyfer y rhent ar ddechrau’r cyfnod hwnnw.

Help gyda rheoli taliadau tai

Os ydych chi ar eich hôl gyda’ch rhent

Os ydych yn 2 mis neu fwy ar ôl gyda’ch rhent, gall eich landlord wneud cais i gael y rhan costau tai o’ch Credyd Cynhwysol wedi’i dalu’n uniongyrchol iddynt. Os ydych yn disgyn ar eich hôl gyda’ch rhent, efallai y byddwch am siarad â’ch landlord am hyn.

Dyma un o’r ffyrdd y gallai taliadau Credyd Cynhwysol gael eu newid i’ch helpu i reoli eich arian. Am fwy o wybodaeth gweler yr adran ar Drefniadau Talu Amgen.

Os ydych chi ar eich hôl gyda’ch biliau cyfleustodau

Mae biliau cyfleustodau ar gyfer dŵr, nwy a thrydan. Mae fyny i chi i dalu’r rhain o’ch taliadau Credyd Cynhwysol, ac os na fyddwch yn eu talu’n llawn, gallai eich cyflenwyr eu torri i ffwrdd.

Os ydych chi’n cael trafferth i reoli’ch taliadau ac os ydych mewn perygl o gael eich torri i ffwrdd, efallai y bydd modd talu rhan o’ch Credyd Cynhwysol yn syth i’ch cyflenwr cyfleustodau. Siaradwch â’ch anogwr gwaith os hoffech gael gwybod mwy am hyn.

Gostyngiad Treth Cyngor Lleol

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol efallai bydd yn rhaid i chi dalu llai mewn Treth Cyngor. Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau a lle rydych yn byw.

Gallwch ddechrau’r broses o wneud cais am Ostyngiad Treth Cyngor Lleol ar GOV.UK. Bydd yn mynd â chi i wefan eich cyngor lleol, a fydd yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf dylech wneud cais am Ostyngiad Treth Cyngor Lleol yn syth, gan na fydd nifer o gynghorau lleol yn ôl-ddyddio ar eich cyfer. Nid oes angen i chi aros nes bod eich cais am Gredyd Cynhwysol wedi’i gymeradwyo neu ei dalu.

Help arall gyda thaliadau tai

Os yw newidiadau i’ch budd-daliadau yn golygu eich bod yn derbyn llai o arian, efallai y gallwch chi gael cymorth ychwanegol tuag at eich costau tai gan eich cyngor lleol. Gelwir y rhain yn Daliadau Tai Dewisol.

Byddwch ond yn gallu cael Taliadau Tai Dewisol os ydych yn cael costau tai Credyd Cynhwysol ac rydych angen mwy o help. Darganfyddwch sut i wneud cais am Daliad Tai Dewisol


;