Newydd i Gredyd Cynhwysol

4. Sut a phryd fyddwch chi’n cael eich talu

Mae eich Credyd Cynhwysol yn daliad sengl sy’n cael ei dalu’n fisol, er efallai y bydd angen i chi aros am tua 5 wythnos am eich taliad cyntaf. Efallai y gallwch gael taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol os ydych yn methu ymdopi yn ystod y cyfnod hwn.

O 22 Gorffennaf 2020, os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm, neu bod newid yn eich amgylchiadau yn golygu bod angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gymwys i gael hyd at gwerth 2 wythnosychwanegol o’r taliadau hynny. 

Os ydych chi’n cael trafferth i reoli’ch arian, efallai y gallwch gael eich talu yn fwy aml, fel dwywaith y mis.

Fel arfer telir eich taliad Credyd Cynhwysol yn uniongyrchol i gyfrif yn eich enw chi, fel cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd. Bydd angen i hwn fod yn gyfrif cyfredol a dim cyfrif cynilo. Os nad oes gennych un gall gwasanaeth HelpwrArian eich helpu i ddewis y cyfrif sy’n addas i chi.

Os ydych chi’n rhan o gwpl, sy’n byw yn yr un cartref, ac mae’r ddau ohonoch yn hawlio Credyd Cynhwysol, byddwch yn cael un taliad misol i’r cartref. Mewn amgylchiadau eithriadol gall taliad Credyd Cynhwysol gael ei rannu rhwng 2 aelod o gatref. Gelwir hyn yn daliad wedi’i rannu. Cysylltwch â Chredyd Cynhwysol neu siaradwch â’ch anogwr gwaith i gael mwy o wybodaeth.

Byddwch yn gallu gweld manylion eich taliad yn eich cyfrif  Credyd Cynhwysol ar-lein.

Llun yn dangos pryd fydd hawlwyr yn cael eu taliad Credyd Cynhwysol

Cyfnodau asesu

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei asesu a’i dalu mewn ôl-daliadau, yn fisol mewn un taliad sengl. Bydd eich amgylchiadau personol yn cael eu hasesu i weithio allan faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.

Bydd eich cyfnod asesu cyntaf yn dechrau ar y dyddiad rydych yn gwneud eich cais. Bydd y cyfnod asesu yn parhau am un mis calendr.

Fel arfer, byddwch yn derbyn eich taliad cyntaf 7 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod asesu cyntaf. Yna bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu ar yr un dyddiad bob mis. Bydd eich diwrnod talu arferol yn cael ei osod yn sefydlog fel 7 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod asesu.

Os yw eich dyddiad talu ar benwythnos neu ŵyl banc byddwch yn cael eich taliad yn gynharach – fel arfer y diwrnod gwaith olaf cyn y gwyliau banc neu’r penwythnos. Os byddai hynny yn golygu nad oes digon o amser rhwng diwedd eich cyfnod asesu a’r dyddiad rydych yn cael eich talu, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd camau i sicrhau eich bod yn cael eich taliad ar amser.

Ni fydd y swm a gewch yn newid i gymryd i ystyriaeth y nifer o ddiwrnodau gwahanol mewn mis.

Os yw eich dyddiad talu ar y 29ain, 30ain o’r 31ain o’r mis ac mae gan y mis presennol llai o ddyddiau, byddwch yn cael eich talu ar ddiwrnod olaf y mis.

Enghraifft o gyfnod asesu

Dyddiad eich cais newydd yw 1 Medi.

Mae eich cyfnod asesu cyntaf yn dechrau ar 1 Medi.

Yna mae eich cyfnod asesu cyntaf yn rhedeg am fis calendr cyfan o’r 1 Medi i 30 Medi, gyda chyfnod asesu newydd yn dechrau ar 1 Hydref.

Byddwch yn cael eich taliad cyntaf ar 7 Hydref. Yna ar ôl hynny byddwch yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol ar y 7fed o bob mis.

Gallai newid yn eich amgylchiadau yn ystod cyfnod asesu newid eich taliad.

Os ydych chi’n byw yn yr Alban

Os ydych chi’n gwneud cais newydd ac yn byw yn yr Alban, gofynnir i chi a ydych am gael eich talu unwaith neu ddwywaith y mis. Gofynnir i chi am hyn ar ôl i chi dderbyn eich taliad cyntaf.

Os ydych chi’n cael eich talu ddwywaith y mis, bydd eich taliad cyntaf am fis llawn. Fe gewch hanner cyntaf taliad eich ail fis mis ar ôl hyn. Bydd yr ail hanner yn cael ei dalu 15 diwrnod yn hwyrach. Mae hyn yn golygu y bydd tua mis a hanner rhwng eich taliad cyntaf a’r swm llawn ar gyfer eich ail fis.

Ar ôl hyn, cewch eich talu ddwywaith y mis.

Os ydych yn byw yn yr Alban ac eisoes yn hawlio Credyd Cynhywsol gallwch ofyn i gael eich talu ddwy waith y mis. Gofynnwch wrth eich anogwr gwaith, defnyddiwch eich dyddlyfr neu ffoniwch y llinell gymorth am fwy o wybodaeth.

Enghraifft o ddyddiadau talu yn yr Alban

Rydych yn cael eich taliad cyntaf ar 14 Rhagfyr. Mae’r taliad hwn am fis llawn.

Os cewch eich talu ddwywaith y mis, cewch hanner eich ail daliad ar 14 Ionawr a’r hanner arall ar 29 Ionawr.

Byddwch yn cael eich talu ar y 14eg a 29ain o bob mis ar ôl hynny.


;