3. Cysylltu â Chredyd Cynhwysol
Defnyddiwch eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein i gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Mewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol
Yn aml, defnyddio’ch cyfrif ar-lein yw’r ffordd gyflymaf o gysylltu â DWP. Mae ein llinellau ffôn ar gael i’n cwsmeriaid mwyaf bregus, ond defnyddio ein gwasanaeth ar-lein yw dal y ffordd gyflymaf o gysylltu â DWP.
Os nad ydych yn gallu defnyddio gwasanaethau digidol o gwbl, gall ceisiadau Credyd Cynhwysol ddal i gael eu gwneud dros y ffôn.
- Ffôn: 0800 328 1744
- Ffôn testun: 0800 328 1344
- Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Gwasanaeth Cyfnewid Fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyfnewid Fideo BSL i gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau am naill ai Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) Dull Newydd.
Gwyliwch un o’r fideos byr hyn i ddarganfod sut i ddefnyddio’r gwasanaeth:
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur personol neu liniadur
neu
Os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu lechen
Mae’r gwasanaeth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.