6. Cymorth ychwanegol y gallech fod â hawl iddo
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch gael rhywfaint o gymorth ychwanegol. Dyma ychydig o enghreifftiau:
- Help gyda chostau iechyd, yn cynnwys presgripsiwn a thriniaeth ddeintyddol
- Cymorth ychwanegol tuag at daliadau tai os nad yw’ch taliad Credyd Cynhwysol yn ddigon i dalu’ch rhent
- Prydau ysgol am ddim
- Addysg am ddim a gofal plant
- Grantiau mamolaeth Cychwyn Cadarn
- Taliadau Tywydd Oer
- Gostyngiad ar becynnau band llydan dibynadwy a ffonau symudol
- Cymorth gyda chostau teithio i fynychu cyfweliadau am swydd neu i ddechrau gweithio
- Cymorth gyda’r ddarpariaeth o ddillad i ddechrau gweithio
- Cymorth gyda chostau gofal plant ymlaen llaw hyd nes y byddwch yn cael eich cyflog cyntaf
Bydd os gallwch gael y cymorth ychwanegol hwn neu beidio ddibynnu ar eich amgylchiadau personol ac, mewn rhai amgylchiadau, lle rydych yn byw.
Darganfyddwch fwy am ostyngiad ar becynnau band llydan dibynadwy a ffonau symudol
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol efallai y bydd rhaid i chi dalu llai o Dreth Cyngor, ond bydd angen i chi wneud cais am hynny ar wahân. Gallwch ddechrau’r broses i wneud cais am Ostyngiad i’ch Treth Cyngor ar GOV.UK. Gallwch wneud cais am ostyngiad i’ch Treth Cyngor ar unwaith – nid oes rhaid i chi aros nes bod eich cais am Gredyd Cynhwysol wedi’i gymeradwyo neu ei dalu.
Efallai y bydd hawlwyr Credyd Cynhwysol hefyd yn gallu cael help gyda’u cynilion. Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol ac roedd eich incwm cartref yn ystod eich cyfnod asesu diwethaf yn £722.45 neu fwy, efallai y byddwch yn gallu agor cyfrif Help i Gynilo. Trwyddo, gallech gael bonws o 50c am bob £1 rydych chi’n ei gynilo dros 4 blynedd.