Eisoes wedi gwneud cais

4. Sancsiynau

Yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol bydd angen i chi wneud rhai pethau. Os gallwch baratoi am neu chwilio am waith, bydd hyn yn cynnwys mynychu apwyntiadau gyda’ch anogwr gwaith.

Gall y rhain ddigwydd dros y ffôn, galwad fideo neu wyneb yn wyneb mewn Canolfan Gwaith.

Sut bynnag mae eich apwyntiad i fod i gael ei gynnal, mae’n bwysig eich bod yn mynychu. Os gofynnir i chi fynd i apwyntiad ond nad ydych yn mynychu a does gennych ddim rheswm da pam, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu heffeithio.

Os oes rheswm da pam na allwch fynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Nid yw gorchuddion wyneb bellach yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, fodd bynnag, mae canllawiau’r llywodraeth yn cynghori parhau i wisgo un i helpu i atal lledaeniad Coronafeirws.

Nid oes angen i chi fynychu’r ganolfan gwaith oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny. Os ydych angen cysylltu â ni, y ffordd orau i wneud hyn yw ar-lein neu dros y ffôn. Os ydych angen mynd i ganolfan gwaith, maent ar agor a bydd un o’n cydweithwyr yn gallu eich helpu.

Byddwch dal angen dweud wrthym os oes unrhyw beth yn newid – defnyddiwch y ddolen ‘Rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau’ yn eich cyfrif ar-lein. Os rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol yn barod ac yn credu eich bod wedi eich effeithio gan y Coronafeirws, cysylltwch gyda eich anogwr gwaith cyn gynted a phosib.

Ni fydd DWP byth yn anfon neges destun nac e-bost yn gofyn am wybodaeth bersonol na manylion banc.

Bydd yr hyn a ofynnir gennych yn dibynnu ar eich sefyllfa, a bydd yn cael ei gofnodi yn eich Ymrwymiad Hawlydd.

Os na fyddwch yn gwneud yr hyn rydych wedi’i gytuno yn eich Ymrwymiad Hawlydd heb reswm da, efallai y bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau am gyfnod penodol. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Os gofynnwyd i chi fynychu adolygiad chwiliad gwaith ond ni ydych yn mynychu ac nid oes gennych reswm da dros beidio, byddwch yn derbyn sancsiwn hyd nes y byddwch yn trefnu a mynychu adolygiad chwiliad gwaith arall.

Mae yna lefelau gwahanol o sancsiynau ac fe’u penderfynir yn seiliedig ar y rheswm dros y sancsiwn. Os ydych wedi cael sancsiwn blaenorol, gallai hyn olygu y bydd sancsiynau newydd am gyfnod hirach.

Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpl a dim ond un ohonoch sydd ddim yn bodloni eu cyfrifoldebau, efallai y byddwch yn derbyn sancsiwn ar eich taliad ar y cyd.

Darllenwch fwy am sancsiynau a dyledion a didyniadau y gellir eu cymryd o daliadau Credyd Cynhwysol.

Apeliadau

Os ydych yn derbyn sancsiwn ac rydych yn credu ei fod yn anghywir, gallwch ofyn iddo gael ei edrych arno eto. Gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol.

Os na fydd y penderfyniad yn cael ei newid, gallwch apelio i dribiwnlys annibynol. Gallwch gael help gyda hyn gan Cyngor ar Bopeth.

Help os yw eich taliad yn cael ei atal neu ei leihau

Gallwch ofyn am daliad caledi os ydych wedi derbyn sancsiwn ac ni allwch dalu am anghenion sylfaenol megis rhent, gwresogi neu fwyd.

Bydd angen i chi dalu’n ôl eich taliad caledi ychydig ar y tro o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol, felly byddant yn is nes eich bod yn ei dalu yn ôl.

I wneud cais am daliad caledi bydd angen i chi:

  • bod yn 18 oed neu drosodd
  • dangos eich bod wedi ceisio dod o hyd i’r arian o rywle arall, a
  • dangos eich bod chi wedi ceisio ond gwario arian ar hanfodion

I ofyn am daliad caledi, ffoniwch llinell gymorth Credyd Cynhwysol.


;