5. Help gyda chostau brys
Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw
Gallwch gael beth sy’n cael ei alw’n Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw i helpu i dalu am gostau cartref brys fel prynu popty newydd neu i gael help i gael swydd neu aros yn y gwaith. Mae hwn yn daliad ymlaen llaw o’ch hawl Credyd Cynhwysol misol, felly bydd eich taliadau misol yn cael eu lleihau i gwmpasu’r taliad ymlaen llaw. Dywedir wrthych faint fydd eich taliad yn gostwng.
Bydd yn rhaid i chi gytuno ar ffordd arall i ad-dalu eich Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw os byddwch yn stopio cael Credyd Cynhwysol.
Beth fyddwch yn ei gael
Y swm lleiaf y gallwch ei fenthyg yw £100. Y mwyaf y gallwch ei gael yw:
- £348 os ydych yn sengl
- £464 os ydych yn rhan o gwpl
- £812 os oes gennych blant
Mae faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar:
- eich amgylchiadau ariannol
- os oes gennych unrhyw gynilion dros £1,000. Bydd eich £1,000 cyntaf o gynilion yn cael eu hanwybyddu ond bydd swm y benthyciad a gynigir i chi yn cael ei leihau gan £1 am bob £1 sydd gennych dros y £1,000 cyntaf hwnnw.
Yr effaith ar daliadau misol Credyd Cynhwysol
Bydd eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn parhau yr un fath, ond am eich bod wedi gofyn am rhywfaint ohono ymlaen llaw, bydd eich taliadau misol yn cael eu lleihau am hyd at 12 mis i gymryd i ystyriaeth y taliad ymlaen llaw.
Bydd y gostyngiadau yn dechrau pan fydd eich Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yn cael ei dalu.
Cymhwyster
I gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw, mae’n rhaid eich bod wedi:
- bod yn cael Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth am 6 mis neu fwy, oni bai eich bod angen yr arian i’ch helpu i ddechrau swydd newydd neu i gadw swydd bresennol
- ennill llai na £2,600 (£3,600 ar y cyd ar gyfer cyplau) yn y 6 mis diwethaf a ddim ar hyn o bryd mewn trefniant ble mae eich hawl yn cael ei ledaenu allan.