Eisoes wedi gwneud cais

2. Defnyddio eich cyfrif ar-lein

Eich cyfrif ar-lein

Byddwch yn defnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein i:

  • cadw cofnod o’r pethau rydych wedi’u gwneud i baratoi am neu i chwilio am waith
  • anfon negeseuon at eich anogwr gwaith a darllen negeseuon y maent yn eu hanfon atoch
  • dweud am newid mewn amgylchiadau
  • cofnodi costau gofal plant
  • rhoi manylion am gyflwr iechyd neu anabledd
  • gweld faint yw eich taliadau Credyd Cynhwysol
  • edrych ar yr hyn rydych wedi cytuno i’w wneud yn eich Ymrwymiad Hawlydd

Mewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol

Cofnod o’ch gweithgareddau

Mae’r pethau y mae angen i chi eu gwneud tra rydych ar Gredyd Cynhwysol wedi’u nodi mewn rhestr o ‘bethau i’w gwneud’ ar eich cyfrif ar-lein. Gall hyn fod yn bethau y mae angen i chi eu gwneud i gwblhau’ch cais neu bethau rydych wedi cytuno i’w gwneud fel rhan o’ch Ymrwymiad Hawlydd.

Pan fyddwch yn cwblhau un o’r tasgau hyn, bydd yn symud o’ch rhestr o ‘bethau i’w gwneud’ i’ch ‘dyddlyfr’. Eich dyddlyfr yw eich cofnod o bopeth rydych wedi’i wneud wrth hawlio Credyd Cynhwysol.

Os oes gofyn i chi chwilio am waith, byddwch yn sefydlu cyfrif ar wefan o’r enw Dod o hyd i swydd. Gallwch ddefnyddio’r wefan i chwilio am waith a chadw cofnod o rai o’r pethau rydych wedi’u gwneud i ddod o hyd i swydd.

Sgyrsiau ar-lein

Gallwch hefyd ddefnyddio’r dyddlyfr i anfon negeseuon at eich anogwr gwaith, a gallant ei ddefnyddio i ateb neu anfon eu negeseuon eu hunain atoch chi. Bydd y sgyrsiau ar-lein hyn yn cael eu cadw yma fel y gallwch chi a’ch anogwr gwaith edrych yn ôl i weld beth rydych wedi’i gytuno.

Dylech ddefnyddio’r dyddlyfr i ddweud wrth eich anogwr gwaith am bethau fel ceisiadau am swyddi, cyfweliadau swyddi ac unrhyw hyfforddiant a wnaethoch. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i ofyn cwestiynau iddynt. Os oes gan eich anogwr gwaith rywbeth y maent am ei rannu gyda chi – fel CV rydych wedi bod yn gweithio arno gyda’ch gilydd – bydd hyn hefyd yn cael ei gadw yma.

Taliadau

Bydd eich cyfrif ar-lein yn dangos eich taliadau Credyd Cynhwysol. Mae’n manylu eich taliad fel eich bod yn cael gwybod pam eich bod yn cael y swm hwnnw – er enghraifft, os ydych chi’n cael taliadau i helpu gyda chostau tai neu ofal plant, neu os yw arian wedi’i dynnu i ffwrdd i ad-dalu taliad ymlaen llaw.

Bydd eich taliad yn cael ei ddangos ychydig ddyddiau cyn mae’r arian ar gael yn eich cyfrif dewisol.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Os oes gennych newid mewn amgylchiadau yna bydd angen i chi roi gwybod am hyn ar eich cyfrif ar-lein. Gallai newid mewn amgylchiadau gynnwys:

  • dod o hyd i neu orffen swydd
  • newidiadau i’ch enillion (dim ond os ydych yn hunangyflogedig)
  • cael plentyn
  • symud i mewn gyda’ch partner
  • dechrau gofalu am blentyn neu berson anabl
  • symud i gyfeiriad newydd
  • newid eich manylion banc
  • eich rhent yn mynd i fyny neu i lawr
  • newidiadau i’ch cyflwr iechyd
  • dod yn rhy sâl i weithio neu gyfarfod eich anogwr gwaith

;