Newydd i Gredyd Cynhwysol

8. Eich helpu i mewn i waith

Os ydych yn gallu gweithio, mae chwilio am waith yn debygol o fod yn un o’ch dyletswyddau allweddol fel rhan o’ch cais Credyd Cynhwysol. Mae yna amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i’ch helpu gyda’ch chwiliad gwaith ac i ddychwelyd yn ôl i waith.

Cefnogaeth anogwr gwaith

Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol ac yn gallu gweithio, byddwch yn cael eich darparu ag anogwr gwaith. Maent yno i helpu gyda’ch chwiliad gwaith, ac maent yn gallu rhoi cymorth personol yn ddibynnol ar eich anghenion. Gall hyn gynnwys:

  • eich helpu i adnabod eich sgiliau trosglwyddadwy a sut y gall y rhain eich helpu mewn swyddi neu ddiwydiannau efallai nad ydych erioed wedi meddwl amdanynt o’r blaen
  • defnyddio eu gwybodaeth arbenigol leol i helpu gyda’ch chwiliad gwaith ac i ddod o hyd i gyfleoedd addas ar eich cyfer
  • eich helpu i greu, gwella ac addasu eich CV
  • eich cefnogi gyda cheisiadau swyddi a darparu cyngor i gynyddu eich cyfle i lwyddo
  • eich helpu i baratoi ac ymarfer am gyfweliadau

Mae’n rhwydd gysylltu â’ch anogwr gwaith drwy eich cyfrif ar-lein Credyd Cynhwysol

Dod o hyd i swydd

Mae JobHelp yn wasanaeth ar-lein penodedig at gefnogi chwiliad gwaith. Mae’n cynnwys llawer o offer defnyddiol i’ch helpu i ddechrau gyda’ch chwiliad gwaith gan gynnwys:

  • syniadau chwiliad gwaith, er enghraifft ble i chwilio am gyfleoedd newydd a sut y gallech ddefnyddio’r sgiliau sydd eisoes gennych
  • arweiniad ac awgrymiadau i gwblhau ceisiadau swyddi
  • gwybodaeth am ddiwydiannau a mathau o swyddi sydd yn fwy tebygol o recriwtio ar hyn o bryd
  • cyngor a chefnogaeth wrth ysgrifennu CV, cwblhau ceisiadau a pharatoi am gyfweliadau

Mae ­­­Dod o hyd i swydd yn darparu rhestr o swyddi llawn amser a rhan amser yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban. Gallwch chwilio yn seiliedig ar leoliad, diwydiant a’r math o swydd.

Dechrau gwaith

Os rydych wedi cael cynnig swydd neu wedi dechrau gwaith, gall cefnogaeth ychwanegol fod ar gael i helpu chi aros mewn gwaith a gwneud y mwyaf o’r cyfle.

Credyd Cynhwysol: Cefnogaeth ariannol parhaus

Mae Credyd Cynhwysol yn addasu i’ch enillion ac yn gallu parhau i roi incwm ar ben eich cyflog pan rydych mewn gwaith.

Os rydych yn cymryd gwaith rhan amser neu gwaith enillion isel, gall eich taliadau Credyd Cynhwysol leihau ond fe allwch dal dderbyn rywfaint o Credyd Cynhwysol fel incwm ar ben eich enillion.

Mae hyn yn helpu i sicrhau fod cymryd gwaith yn fuddiol yn ariannol, ac yn gallu ei wneud yn hawsach i gychwyn mewn gwaith neu ddiwydiant newydd.

Darganfyddwch fwy am sut all waith effeithio eich Credyd Cynhwysol

Credyd Cynhwysol: Lwfans Gwaith

Mae’n bosib y gallwch gadw mwy o’ch Credyd Cynhwysol os rydych mewn gwaith a gyda chyfrifoldeb am blant, neu os rydych gyda chyflwr iechyd neu anabledd sydd yn effeithio ar eich gallu i weithio.

Fe elwir hyn yn Lwfans Gwaith, sydd yn golygu y gallwch ennill mwy o arian cyn y gwneith eich Credyd Cynhwysol gychwyn lleihau.

Bydd maint eich Lwfans Gwaith yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Darganfyddwch fwy am Lwfans Gwaith

Credyd Cynhwysol: Gofal Plant

Os rydych mewn gwaith neu wedi derbyn cynnig o waith, mae’n bosib y gallwch hawlio hyd at at 85% o’ch costau gofal plant i roi cymorth i chi aros mewn gwaith a cymryd gofal o’ch teulu.

Nid yw yn gwneud gwahaniaeth faint o oriau rydych yn gweithio cyn belled eich bod mewn cyflogaeth, a gallwch hawlio hyd at £646.35 bob mis os oes gennych 1 plentyn, neu £1,108.04 bob mis os rydych gyda 2 o blant neu fwy.

O 28 Mehefin, bydd rhieni sy’n gweithio sydd ar Gredyd Cynhwysol yn gallu derbyn hyd yn oed mwy o gymorth ariannol gyda’u costau gofal plant. Bydd hyn hyd at £951 ar gyfer 1 plentyn neu hyd at £1,630 ar gyfer 2 neu fwy o blant. Bydd rhieni cymwys sy’n hawlio Credyd Cynhwysol hefyd yn gallu cael help gyda’u gofal plant ymlaen llaw fel y gallant dalu eu set nesaf o gostau yn haws. Gall rhieni sy’n symud i waith neu sy’n cynyddu eu horiau gwaith siarad â’u hanogwr gwaith Credyd Cynhwysol a all ddarparu mwy o wybodaeth.

Darganfyddwch fwy am sut gall Credyd Cynhwysol helpu chi i aros mewn gwaith drwy helpu i dalu am eich gofal plant

Cefnogaeth ariannol am weithio gyda cyflwr iechyd neu anabledd

Mae Mynediad at Waith yn gynllun gan y llywodraeth sydd yn gallu talu am gefnogaeth ychwanegol i helpu chi ddechrau neu aros mewn gwaith os rydych gyda chyflwr iechyd neu anabledd. Bydd y gefnogaeth a gynigir i chi yn ddibynnol ar eich anghenion, a allai gynnwys grant i dalu costau ychwanegol o gefnogaeth ymarferol yn y gweithle. Fe all hyn dalu am gefnogaeth ychwanegol uwchben unrhyw addasiad rhesymol rydych wedi ei gytuno arno gyda eich cyflogwr fel:

  • gweithwyr cefnogol yn cynnwys dehonglwyr
  • offer arbenigol i wneud gwaith yn hawsach
  • cymorth gyda costau ychwanegol teithio i a nol o’r gwaith
  • cefnogaeth iechyd meddwl

Gallwch weld y meini prawf llawn a ceisio am Mynediad at Waith


;