Newydd i Gredyd Cynhwysol

9. Plant a gofal plant

Eich plant

Gallai eich taliad Credyd Cynhwysol gynnwys swm i helpu gyda’r costau o ofalu am eich plentyn neu blant.

Plant hyd at 16 oed

Gallwch wneud  cais am Gredyd Cynhwysol waeth faint o blant sydd gennych. Os yw eich cais yn llwyddiannus, gallai eich taliad Credyd Cynhywsol gynnwys swm ychwanegol o arian ar gyfer plant dibynnol mae gennych y prif gyfrifoldeb amdanynt.

Mae pwy sydd â phrif gyfrifoldeb ar y cyfan yr un fath ag yw ar gyfer budd-daliadau eraill a chredydau treth. Yn gyffredinol, os ydych yn gallu gwneud cais am Fudd-dal Plant dros blentyn, yna dylent gael eu cynnwys yn eich cais Credyd Cynhwysol.

Bydd gennych hawl i gael swm ychwanegol ar gyfer unrhyw blentyn a aned cyn 6 Ebrill 2017. Fodd bynnag, ni fydd gennych hawl i gael swm plentyn ychwanegol am drydydd plentyn neu blant dilynol a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 oni bai bod amgylchiadau arbennig yn berthnasol.

Darllenwch fwy am y rheolau ar gyfer teuluoedd gyda mwy na 2 o blant

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i ddarganfod beth allech chi ei gael.

Plant 16 i 19 oed

Efallai y cewch y swm plentyn ychwanegol ar gyfer plant 16 i 19 oed os ydynt yn mynychu neu wedi’u cofrestru mewn addysg llawn amser, addysg uwch neu ar hyfforddiant cymeradwy. Os nad ydynt mewn addysg neu hyfforddiant, ni fyddwch yn cael y swm plentyn ychwanegol.

Plant anabl

Efallai y cewch arian ychwanegol os yw’ch plentyn dibynnol yn anabl. Telir yr Ychwanegiad Plentyn Anabl hwn naill ai ar gyfradd uwch neu gyfradd is. Gallwch gael ychwanegiad plentyn anabl hyd yn oed os na fyddwch yn cael y swm plentyn ychwanegol ar gyfer y plentyn hwnnw.

Newid mewn amgylchiadau mewn perthynas â’ch plant

Os ydych yn cael mwy o blant, neu os yw un o’ch plant yn gadael eich cartref, mae angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau o fewn mis i sicrhau bod eich teulu yn cael y taliad cywir. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio eich cyfrif ar-lein. Efallai y cewch swm plentyn ychwanegol os, er enghraifft, rydych yn cael babi. Efallai y byddwch yn stopio cael y swm plentyn ychwanegol os, er enghraifft, mae eich plentyn:

  • yn gadael addysg llawn amser, addysg uwch neu hyfforddiant cymeradwy
  • yn gadael y cartref
  • yn mynd i ofal yr awdurdod lleol (ac eithrio gofal seibiant)
  • yn y carchar, neu yn y ddalfa yn aros am dreial neu ddedfryd

Darllenwch wybodaeth bellach i deuluoedd.

Costau gofal plant

Os ydych yn gweithio, gall Credyd Cynhwysol helpu gyda chostau gofal plant, pa bynnag faint o oriau rydych yn eu gweithio.

Efallai y gallwch hawlio hyd at 85 y cant o’ch costau gofal plant os ydych chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol ac yn cwrdd â rhai amodau ychwanegol. Y symiau y gallwch eu cael mewn costau gofal plant bob mis yw:

  • uchafswm o £951 ar gyfer un plentyn
  • uchafswm o £1630 ar gyfer 2 neu fwy o blant

Mae cymorth gofal plant yn cael ei dalu mewn ôl-daliadau. Mae hyn yn golygu y byddwch fel arfer yn talu’r costau eich hun, a bydd Credyd Cynhwysol wedyn yn talu rhywfaint o’r arian hwnnw yn ôl i chi. Os ydych chi’n credu bod angen help arnoch gyda’r costau ar yr adeg rydych chi’n eu talu, dylech drafod hyn gyda’ch anogwr gwaith.

Mae rhieni sy’n gweithio sydd ar Gredyd Cynhwysol nawr yn gallu derbyn gymorth ariannol pellach gyda’u costau gofal plant. Gallai hyn fod hyd at £951 ar gyfer 1 plentyn neu hyd at £1,630 ar gyfer 2 neu fwy o blant. Mae rhieni cymwys sy’n hawlio Credyd Cynhwysol hefyd yn gallu cael help gyda’u gofal plant ymlaen llaw fel y gallant dalu eu set nesaf o gostau yn haws. Dylai rhieni sy’n symud i waith neu gynyddu eu horiau gwaith siarad â’u hanogwr gwaith Credyd Cynhwysol a all ddarparu mwy o wybodaeth.

Byddwch angen rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau beth yw cost y gofal plant erbyn diwedd y cyfnod asesu wedi’r un rydych wedi talu’r costau gofal plant. Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.

Mae’n bwysig y byddwch ond yn cael eich talu’n ôl am ofal plant sydd wedi digwydd yn ystod eich cyfnod asesu. Mae hyn yn golygu os ydych yn talu am fwy na mis o ofal plant mewn cyfnod asesu – er enghraifft, os ydych yn talu am dymor cyfan – bydd yr arian a gewch yn ôl ar ddiwedd y cyfnod asesu hwnnw ond yn cwmpasu unrhyw ofal plant sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod hwn. Caiff gweddill y taliadau y mae gennych hawl iddynt eu talu yn ystod misoedd diweddarach, unwaith y bydd y gofal plant wedi digwydd. Gellir rhannu’r taliadau hyn dros gyfnod o 3 cyfnod asesu.

Os ydych chi wedi derbyn cynnig swydd, gallwch wneud cais am gostau gofal plant am y mis cyn i chi ddechrau gweithio. Siaradwch â’ch anogwr gwaith cyn gynted ag y bo modd am eich cynnig swydd a’r opsiynau cymorth sydd ar gael. Os bydd eich swydd yn dod i ben, rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar unwaith.

Gellir gwneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant am o leiaf mis ar ôl i’ch cyflogaeth ddod i ben i’ch helpu i gynnal eich gofal plant wrth i chi symud rhwng swyddi.

Gall y swm rydych yn ei ennill effeithio ar faint rydych yn ei gael gan Gredyd Cynhwysol. Os yw’ch enillion yn uwch nag arfer mewn cyfnod asesu, gall hyn leihau eich taliadau Credyd Cynhwysol, gan gynnwys y cymorth a gewch tuag at gostau gofal plant. Darllenwch fwy am Gredyd Cynhwysol a gwaith

Ni allwch gael help tuag at unrhyw daliadau a wneir gan ddefnyddio talebau gofal plant. Os yw’ch costau gofal plant yn uwch na gwerth eich talebau, gallwch wneud cais am gymorth tuag at y swm ychwanegol hwnnw.

Ni chaiff enillion sy’n cael eu trosi i dalebau gofal plant eu cynnwys wrth gyfrifo gostyngiadau i’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn talu am eich gofal plant ymlaen llaw, bydd taliadau’n cael eu had-dalu yn y ffordd arferol, sy’n golygu y gellir rhannu’r gost ar draws uchafswm o 3 chyfnod asesu. Ar ddiwedd pob cyfnod asesu, ad-delir y costau am ofal plant a ddefnyddir yn y cyfnod asesu hwnnw.

Mae’n bwysig nodi – ar ddiwedd unrhyw gyfnod asesu – mai dim ond am ofal plant sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod asesu hwnnw y gallwch gael ad-daliad.

Os ydych yn talu (ac yn rhoi gwybod am) costau gofal plant ymlaen llaw am gyfnod asesu yn y dyfodol, ond nid oes unrhyw ofal plant yn digwydd mewn gwirionedd yn ystod yr amser hwnnw, ni fyddwch yn gallu hawlio’r costau hynny yn ôl fel rhan o’ch cais Credyd Cynhwysol.

Efallai y bydd eich darparwr gofal plant yn gofyn am gadw taliad ymlaen llaw, gan ddweud y bydd yn talu’ch costau pryd bynnag y bydd eich gofal plant yn ailddechrau. Noder mai dim ond os bydd y gofal plant yn ailddechrau yn ystod y cyfnod asesu y gwnaethoch y taliad, neu o fewn y 2 gyfnod asesu nesaf ar ôl hynny, y byddwch yn gallu hawlio’r costau hyn yn ôl.

Efallai y bydd eich darparwr gofal plant yn gofyn am swm o arian i gadw lle i’ch plentyn – weithiau gelwir hyn yn dâl cadw. Nid yw hyn yn gymwys i gael ad-daliad oni bai ei fod mewn gwirionedd yn daliad ymlaen llaw am gostau gofal plant.

Sut i gael cymorth costau plant

Mae’n rhaid i chi fod mewn gwaith â thâl i gael cymorth gofal plant gan Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn gwneud cais gyda phartner, fel arfer bydd angen i’r ddau ohonoch fod mewn gwaith i dderbyn y cymorth hwn. Fodd bynnag, efallai y gallwch gael cymorth gofal plant os nad yw un ohonoch yn gweithio ac yn methu darparu gofal plant eu hunain oherwydd eu bod:

  • gyda gallu cyfyngedig i weithio
  • gyda chyfrifoldebau gofalu am berson difrifol anabl
  • yn absennol dros dro o’r cartref

Nid yw gwaith â thâl yn cynnwys gwaith gwirfoddol lle mae’r unig daliad yn dreuliau.

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch gael eich trin fel petaech mewn gwaith â thâl tra nad ydych yn gweithio. Mae cymorth gofal plant ar gael os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac yn derbyn:

  • Tâl Salwch Statudol
  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol
  • Tâl Statudol Rhieni Wedi’i Rannu
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • Lwfans Mamolaeth

Rhaid i chi fod yn talu costau gofal plant i ddarparwyr gofal plant cofrestredig neu gymeradwy.

Yn gyffredinol mae hyn yn golygu bod y darparwr gofal plant wedi’i gofrestru gydag un o’r sefydliadau hyn:

  • Lloegr – OFSTED
  • Yr Alban – The Care Inspectorate
  • Cymru – Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW)

Gall gofal plant cymeradwy gynnwys gofal a ddarperir yn yr ysgol neu mewn man arall gan warchodwr plant, cynllun chwarae, meithrinfa neu glwb. Dylai eich darparwr gofal plant cymeradwy allu rhoi rhif cofrestru i chi.

Gwybodaeth bellach

Am fwy o wybodaeth gweler Credyd Cynhwysol: Canllaw gofal plant.

Mae’r cynnig gofal plant Credyd Cynhwysol yn rhan o becyn o gymorth sydd ar gael i rieni, a allai gynnwys gofal plant am ddim am 15 i 30 awr yr wythnos. I ddarganfod mwy am gymorth y gallech ei gael ar gyfer costau gofal plant, ewch i wefan Childcare Choices. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol a gofal plant yn Credyd Cynhwysol: gwybodaeth bellach i deuluoedd.

Gwyliwch y canllaw byr hwn ar gyfer rhieni sy’n gosod allan y camau i wneud cais am 30 awr o ofal plant a Gofal Plant Di-dreth:


;