Helpu rhywun i wneud cais

2. Cysylltu â DWP ar ran rhywun arall

Mewn rhai achosion, efallai y bydd trydydd partïon fel teulu, ffrindiau neu sefydliadau eisiau cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau ar ran rhywun sydd angen cymorth i reoli eu cais Credyd Cynhwysol.

Cyn i chi ffonio

Fel arfer bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) angen caniatâd penodol gan yr hawlydd cyn siarad â thrydydd parti (gan gynnwys aelodau’r teulu) am eu cais.

Gall yr hawlydd ddarparu caniatâd drwy eu dyddlyfr ar-lein neu drwy ffonio Canolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol. Bydd angen i’r hawlydd ddarparu:

  • Enw’r person y maent yn rhoi caniatâd iddynt
  • Enw’r sefydliad (os yn berthnasol)
  • Manylion byr am y mater y maent yn rhoi caniatâd i siarad amdano. Ni fydd DWP yn gallu siarad am faterion ehangach, felly mae’n bwysig bod yn glir ar gyfer beth y darperir caniatâd.

Darllenwch Credyd Cynhwysol caniatâd a datgelu gwybodaeth a sicrhewch bod y camau perthnasol wedi cael eu cymryd cyn ffonio DWP.

Pan fyddwch yn ffonio

Unwaith bydd y caniatâd hwn wedi cael ei roi, gallwch ffonio Canolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol ar 0800 328 1744.

Bydd angen i chi wrando’n ofalus ar yr opsiynau i sicrhau eich bod yn cyrraedd y rheolwr achos a fydd yn y sefyllfa orau i helpu gyda’ch ymholiad. Gofynnir rhai cwestiynau awtomataidd i chi am yr hawlydd, felly sicrhewch fod gennych y wybodaeth ganlynol cyn ffonio:

  • Y rhif ffôn mae’r hawlydd wedi’i gofrestru gyda Chredyd Cynhwysol
  • Eu cod post
  • Llinell gyntaf eu cyfeiriad
  • Eu dyddiad geni

Dylech nodi nad yw’r caniatâd hwn yn ben agored. Fel arfer bydd yn parhau hyd nes unai mae’r cais penodol wedi’i gwblhau, neu i ddiwedd y cyfnod asesu ar ôl yr un a roddwyd y caniatâd. Efallai bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i’r hawlydd roi caniatâd mwy nag unwaith.


;