A allai Credyd cynhwysol fod ar eich cyfer chi?
Mae Credyd Cynhwysol ar gyfer pobl sydd allan o waith neu ar incwm isel. Mae’n ei wneud yn haws i gymryd unrhyw gyfleoedd gwaith, oherwydd y gallai:
Efallai y gallwch ei hawlio hyd yn oed os ydych chi eisoes yn gweithio. Darllenwch y canllawiau ar gymhwyster i ddarganfod a allwch gael Credyd Cynhwysol. Gallwch ddefnyddio ein teclyn Gwiriwr Budd-daliadau i gael syniad cyflym o ba gymorth ariannol y gallwch ei hawlio o bosibl. Bydd yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi ac yn awgrymu pa help rydych fwyaf tebygol o fod yn gymwys amdano.
Mae llawer o bobl yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar ôl i’w hamgylchiadau newid, er enghraifft colli eu swydd neu newid yn eu sefyllfa gartref. Ond os ydych eisoes yn cael budd-daliadau a chredydau treth, efallai ei fod yn werth ystyried a fyddai gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle yn well i chi.
Edrychwch ar yr holl wahanol ffyrdd y gallai Credyd Cynhwysol eich helpu chi, a defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i ddeall pa gymorth a allai fod ar gael a faint y gallech ei gael.
Os ydych yn y sefyllfa hon, mae’n bwysig sicrhau y byddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol cyn i chi wneud cais amdano. Os ydych yn cael budd-daliadau neu gredydau treth eraill ar hyn o bryd ac yn cyflwyno cais am Gredyd Cynhwysol, bydd y budd-daliadau a’r credydau treth eraill hynny yn dod i ben ar unwaith. Os yw eich dyfarniad budd-dal neu gredyd treth yn dod i ben ni ellir ei ail-ddechrau, ac ni fydd yn bosibl gwneud cais budd-dal neu gredyd treth newydd yn y dyfodol, hyd yn oed os na fydd eich cais Credyd Cynhwysol yn llwyddiannus.
Darllenwch fwy am yr hyn y mae angen i chi ei wybod os ydych yn cael credydau treth ar hyn o bryd ac edrychwch ar ganllaw Cyngor ar Bopeth ar symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.
Bydd y mwyafrif o bobl yn gwneud eu cais Credyd Cynhwysol ar-lein, ac mae cefnogaeth ar gael os oes angen ychydig o help arnoch. Os na allwch wneud eich cais ar-lein, gallwch gael cyngor ychwanegol trwy Help i wneud Cais neu’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol. Darganfyddwch fwy am unrhyw beth sy’n ymwneud â Chredyd Cynhwysol trwy ymweld â Deall Credyd Cynhwysol.
;