Sut mae Credyd Cynhwysol yn helpu i wneud pethau’n haws

Beth bynnag yw’ch amgylchiadau, mae Credyd Cynhwysol yn system fodern sy’n helpu sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth ariannol y mae gennych hawl iddo mewn un lle, a’r holl help sy’n iawn i chi.

Taliadau Sengl

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli 6 gwahanol budd-dal a chredydau treth i helpu sicrhau eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo. Dim ond un cais sydd angen i chi ei wneud, a bydd y system yn cyfrifo’r swm cywir ar gyfer eich amgylchiadau. Trwy gael y gefnogaeth hon fel taliad sengl, dylech ei chael yn haws i reoli’ch arian. Byddwch yn cael eich taliadau ar yr un diwrnod o bob mis, felly gallwch gynllunio sut a phryd y byddwch yn talu’ch rhent a biliau cartref eraill. Hefyd, mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i weld faint o arian sydd gennych yn dod i mewn, a bydd yn eich helpu i gyllidebu a chymryd rheolaeth o’ch arian. Os oes gennych bartner sy’n byw gyda chi, byddwch yn cael taliad sengl ar gyfer eich cartref cyfan. Bydd eich taliad ar y cyd yn ystyried amgylchiadau’r ddau ohonoch, fel y gallwch gyllidebu fel cartref cyfan. Ac os ydych yn cael trafferth rheoli’ch arian, mae yna opsiynau a allai eich helpu i fynd yn ôl ar y trywydd iawn:

  • Costau tai Credyd Cynhwysol yn cael eu talu’n syth i’ch landlord
  • Taliadau yn fwy aml, er enghraifft ddwywaith y mis
  • Taliadau wedi’u rannu rhwng 2 gyfrif banc

Defnyddiwch ein Gwiriwr Budd-daliadau i gael syniad cyflym o’r hyn y gallai fod gennych hawl iddo, neu defnyddiwch gyfrifiannell Budd-daliadau i gael syniad gwell, gan gynnwys faint y gallwch ei gael. Darllenwch fwy am daliadau Credyd Cynhwysol gan gynnwys sut a phryd y cewch eich talu.

Rheoli eich cais ar-lein

Gyda Chredyd Cynhwysol rydych yn cael cyfrif ar-lein er mwyn i chi allu rheoli’ch cais pryd bynnag sydd orau i chi. Trwy eich cyfrif gallwch:

Gallwch hefyd gysylltu â’ch anogwr gwaith trwy’ch cyfrif ar-lein, felly nid oes angen i chi aros i siarad â nhw wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Darllenwch fwy am ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein

Y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch

Cefnogaeth anogwr gwaith penodedig

Os gallwch weithio nawr neu yn y dyfodol, byddwch yn cael anogwr gwaith i’ch helpu chi i gyflawni eich amcanion swydd. Byddant yn dod i’ch adnabod fel y gallant ddeall eich sefyllfa, ac felly darparu’r gefnogaeth a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i chi. Bydd eich anogwr gwaith yno ar hyd y daith yn ôl i’r gwaith, a gall hyd yn oed barhau i’ch cynghori ar ôl i chi ddechrau swydd. Darllenwch fwy am sut y gall eich anogwr gwaith helpu

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n eich atal rhag gweithio, neu’n cyfyngu ar faint o waith y gallwch ei wneud, gall Credyd Cynhwysol eich cefnogi. Os na allwch weithio o gwbl, efallai y gallwch gael symiau ychwanegol fel rhan o’ch taliadau Credyd Cynhwysol. Os na allwch weithio nawr ond efallai y gallwch baratoi am waith – gyda’r nod o weithio yn y dyfodol – gall eich anogwr gwaith ddarparu cefnogaeth a chyngor a fydd yn eich helpu i symud yn agosach at ddechrau gweithio. Gallai hyn gynnwys:

Darganfyddwch fwy am sut y gallai Credyd Cynhwysol eich cefnogi os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd

 

 

 

;