Mae Credydau Treth yn dod i ben

5. Cymorth sydd ar gael

Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael i’ch helpu i baratoi ar gyfer symud i Gredyd Cynhwysol.

Arweiniad cyllidebu a dyled

Os ydych yn cael trafferth gydag arian, neu’n poeni am reoli eich cyllid wrth symud i Gredyd Cynhwysol, gallwch:

  • edrych ar rai o’r ffyrdd y gall Credyd Cynhwysol helpu, gan gynnwys taliadau ymlaen llaw i’ch helpu wrth i chi aros am daliad cyntaf a chymorth cyllidebu
  • dod o hyd i gyngor ariannol diduedd am ddim gyda Helpwr Arian, gan gynnwys cyngor cyfrinachol ar ddyledion ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Gallwch hefyd defnyddio’r teclyn Rheolwr Arian i gael awgrymiadau a gwybodaeth, sy’n benodol i’ch sefyllfa.

Gallwch hefyd gael cefnogaeth a chyngor dyled gan:

Arweiniad Cyffredinol

Os hoffech gael cymorth cyffredinol ar symud i Gredyd Cynhwysol gallwch:

  • ddefnyddio Advice Local i  ddod o hyd i ymgynghorydd budd-daliadau lleol ar gyfer arweiniad annibynnol, wedi’i deilwra
  • cael cymorth gyda gwneud cais am Gredyd Cynhwysol gyda Help i Hawlio, gan gynnwys sut i:
    • weithio allan a allwch gael Credyd Cynhwysol
    • llenwi y cais Credyd Cynhwysol
    • paratoi ar gyfer eich apwyntiad Canolfan Gwaith cyntaf
    • sicrhau bod eich taliad cyntaf yn gywir

;