2. Camau y gallech eu cymryd
Dyma rai camau y gallech eu cymryd i baratoi a symud i Gredyd Cynhwysol:
- defnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol i amcangyfrif faint y gallech ei gael ar Gredyd Cynhwysol. Mae’r rhain yn rhad ac am ddim i’w defnyddio ac yn ddienw. Os yw’r swm y mae gennych hawl iddo ar eich budd-daliadau presennol yn fwy nag y byddwch yn ei gael ar Gredyd Cynhwysol, lle bo’n gymwys, gallwch dderbyn taliad atodol o’r enw Amddiffyniad Trosiannol
- darganfod pa gymorth y gallwch ei gael i baratoi a symud i Gredyd Cynhwysol
- gwirio eich cynilion. Os ydych yn hawlio Credydau Treth ar hyn o bryd a bod gennych dros £16,000 mewn arian, cynilion neu fuddsoddiadau, gallwch barhau i fod yn gymwys am Gredyd Cynhwysol am flwyddyn ar ôl i chi symud drosodd, ond mae’n bwysig aros am eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo cyn i chi newid drosodd a dilyn y cyfarwyddiadau yn y llythyr yn fanwl
- gweld sut mae Credyd Cynhwysol yn adennill unrhyw ddyledion sy’n weddill sydd gennych – gallai hyn gynnwys gordaliadau credyd treth. Os nad ydych yn siŵr a oes gennych ordaliadau credyd treth, neu faint y gallent fod, gallwch wirio gyda ChThEF. Gallwch hefyd gael cyngor ar ddyledion am ddim os ydych ei angen