Mae Credydau Treth yn dod i ben

3. Beth fyddaf yn ei gael ar Gredyd Cynhwysol?

Ar Gredyd Cynhwysol, bydd gan y rhan fwyaf o bobl hawl i o leiaf yr un swm a oeddent yn ei gael o’u budd-daliadau presennol, neu fwy. 

Os yw’r swm rydych yn gymwys i’w gael ar Gredyd Cynhwysol yn llai na’ch budd-dal presennol, mae swm ychwanegol ar gael. Gelwir hyn yn Amddiffyniad Trosiannol.

Gallwch gael Amddiffyniad Trosiannol os wnaethoch dderbyn llythyr Hysbysiad Symud o DWP ac yn gwneud cais erbyn y terfyn amser ar eich llythyr.

Os hoffech gael mwy o help i ddeall beth allai fod gennych hawl i’w gael ar Gredyd Cynhwysol gallwch wirio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol neu ddod o hyd i ymgynghorydd budd-daliadau annibynnol lleol i siarad â thrwy Advice Local.

Mae’n werth cadw mewn cof os oes gennych arian sy’n ddyledus, efallai bydd angen i chi ddechrau ad-dalu swm o’ch taliadau Credyd Cynhwysol pob mis. Er enghraifft, efallai bydd cwsmeriaid credydau treth yn darganfod bod angen iddynt ad-dalu unrhyw ordaliadau credyd treth pan maent yn symud i Gredyd Cynhwysol, a gall hwn cael ei ddidynnu o daliad Credyd Cynhwysol fel dyled.

Os ydych chi’n ansicr a oes gennych ordaliadau credyd treth, neu faint y gallent fod, gallwch wirio gyda ChThEF. Pan rydych ar Gredyd Cynhwysol, os oes angen help arnoch gyda rheoli arian budd-dal sy’n ddyledus gennych, gallwch siarad â DWP am opsiynau ad-dalu. 


;