Deall Credyd Cynhwysol

A allwn i wneud cais am Gredyd Cynhwysol?

Mae Credyd Cynhwysol i bobl sydd ar incwm isel, allan o waith neu sy’n methu â gweithio ar hyn o bryd. Gwyliwch y fideo byr yma i weld os allwch wneud cais amdano:

Mae’n disodli 6 budd-dal a chredydau treth: Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant. Darganfyddwch bwy all gael Credyd Cynhwysol

Os ydych eisoes yn cael y budd-daliadau neu’r credydau treth hyn, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nawr. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi cyn y bydd unrhyw newidiadau i’ch budd-daliadau neu gredydau treth.

Darllenwch y canllaw cymhwysedd i gael manylion llawn am bwy all wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Gallech hyd yn oed gael cymorth ariannol gan Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn gweithio. Gallai eich taliad Credyd Cynhwysol newid wrth i’ch enillion fynd i fyny ac i lawr, ond po fwyaf y byddwch yn ei ennill, yr uchaf fydd cyfanswm eich incwm.

Pa help allwn i'w gael?

Mae faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gan gynnwys pwy arall sy’n byw gyda chi. Gwyliwch y fideo i ddarganfod mwy:

Gallai eich taliadau Credyd Cynhwysol gynnwys symiau ychwanegol. Bydd y taliad yn ystyried:

  • Tai
  • Anabledd neu gyflwr iechyd
  • Plant a gofal plant, gan gynnwys gofalu am blentyn anabl
  • Bod yn ofalwr i berson sydd ag anabledd difrifol
  • Pobl eraill sy’n byw gyda chi

Bydd y swm a gewch yn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf yn dibynnu ar eich sefyllfa yn ystod mis cyntaf eich cais. Fel arfer byddwch yn cael eich taliad cyntaf 5 wythnos o’r diwrnod y gwnewch gais. Darganfyddwch fwy am sut a phryd y cewch eich talu

Os oes angen arian arnoch cyn eich taliad cyntaf, fe allech wneud cais am daliad ymlaen llaw ad-daladwy. Bydd angen i chi dalu hwn yn ôl o daliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol. Byddwch yn gallu dewis faint o fisoedd y byddwch yn talu y taliad ymlaen llaw nôl o fewn. Fel arfer, mae’n rhaid i chi dalu  nôl y taliad ymlaen o fewn:

  • 24 mis os rydych yn gwneud cais ar neu ar ôl 12 Ebrill 2021
  • 12 mis os wnaethoch wneud cais cyn 12 Ebrill 2021

Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Os ydych yn gallu gweithio, byddwch fel arfer yn cael anogwr gwaith a fydd yn siarad â chi i ddarganfod pa fath o help fydd fwyaf defnyddiol i chi.

Byddant yn eich cefnogi i gyflawni eich nodau swydd. Gallai hynny fod yn eich helpu i ddod o hyd i swyddi gwag neu ddeall sut i symud ymlaen gyda gyrfa newydd, neu gallai gynnwys eich cyfeirio at gyfleoedd hyfforddi. Bydd yr help a gynigir i chi wedi’i deilwra i’ch anghenion.

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio, neu’n cyfyngu ar faint o waith y gallwch ei wneud, fe allech gael cymorth ariannol o hyd. Ac os gallwch baratoi ar gyfer gwaith gyda’r nod o weithio ar ryw adeg yn y dyfodol, bydd eich anogwrwr gwaith yn eich cefnogi yn hynny. Ni ofynnir i chi wneud unrhyw beth na allwch ei wneud.

Sut ydw i’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol?

Gall y rhan fwyaf o bobl wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein, a gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar y wefan hon i’ch helpu trwy’r cais, gan gynnwys fideos i’ch tywys trwy’r broses gyfan.

Gallwch hefyd gael help ychwanegol i sicrhau y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Cymorth a ddarperir gan Gyngor ar Bopeth yw Help i Wneud Cais. Gall eich helpu i wneud eich cais ar-lein. Gall eich canolfan gwaith leol hefyd helpu, a’ch cynghori ynghylch cefnogaeth sydd ar gael trwy sefydliadau lleol eraill.

Os na allwch ddefnyddio gwasanaethau digidol o gwbl, efallai oherwydd eich amgylchiadau, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Beth os wyf angen arian yn syth?

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ond yn methu ag ymdopi tan eich taliad cyntaf, efallai y gallwch gael taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol.

Bydd y swm y gallwch ei fenthyg hyd at amcangyfrif eich taliad Credyd Cynhwysol misol cyntaf.

Bydd angen i chi dalu’n ôl eich taliad ymlaen llaw fesul tipyn o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol. Byddwch yn gallu dewis faint o fisoedd y byddwch yn talu y taliad ymlaen llaw nôl o fewn. Fel arfer, mae’n rhaid i chi dalu  nôl y taliad ymlaen o fewn:

  • 24 mis os rydych yn gwneud cais ar neu ar ôl 12 Ebrill 2021
  • 12 mis os wnaethoch wneud cais cyn 12 Ebrill 2021

Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r gwybodaeth yn y fideo yma yn gywir heblaw am y cyfnod amser mae taliadau ymlaen llaw angen eu talu nôl o fewn. Bydd taliadau ymlaen llaw wedi eu cymryd ar neu ar ôl 12fed o Ebrill 2021 yn gallu cael eu talu nôl dros 24 mis.

Sut wyf yn rheoli fy nghais?

Unwaith rydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch reoli eich cais drwy eich cyfrif ar-lein. Yma gallwch:

  • gadw cofnod o bethau rydych wedi’u gwneud i baratoi am neu chwilio am waith
  • anfon negeseuon i’ch anogwr gwaith a darllen negeseuon maent yn eu hanfon i chi
  • rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
  • cofnodi costau gofal plant
  • darparu manylion am gyflwr iechyd neu anabledd
  • gweld faint yw eich taliadau Credyd Cynhwysol
  • edrych beth rydych wedi’i gytuno i’w wneud yn eich Ymrwymiad Hawlydd
;