Cymorth cyflogaeth a budd-daliadau

Hunangyflogaeth

Os ydych yn hunangyflogedig a bod yr achosion o coronafeirws yn parhau i effeithio ar eich busnes, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Os ydych yn cael credydau treth gan Gyllid a Thollau EM ar hyn o bryd, byddwch yn ymwybodol, os gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol, bydd eich dyfarniad credydau treth yn dod i ben ar unwaith, hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Darganfyddwch fwy am gredydau treth a hawlio Credyd Cynhwysol.

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol tra rydych yn disgwyl am grant SEISS. Pan fyddwch yn derbyn y grant dylech hysbysu am hwn fel enillion a gallai effeithio’r swm o Gredyd Cynhwysol a gewch, ond ni fydd yn effeithio ar geisiadau am gyfnodau cynharach.

Credyd Cynhwysol

1. Gwirio eich hawl

Mae p’un a allwch gael Credyd Cynhwysol yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw gynilion sydd gennych. Ni fydd eich asedau busnes yn cael eu hystyried wrth weithio allan a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, nac wrth gyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael.

Mae meini prawf cymhwysedd eraill yn berthnasol. Darllenwch fwy am hawl i Gredyd Cynhwysol

2. Gwneud cais

Dylech wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Os ydych yn cael credydau treth gan Gyllid a Thollau EM ar hyn o bryd, dylech fod yn ymwybodol os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd eich dyfarniad credyd treth yn dod i ben yn syth.

3. Derbyn cymorth ariannol

Os ydych yn gymwys, bydd y swm a dderbyniwch yn dibynnu ar eich amgylchiadau, a bydd yn ystyried enillion o’ch busnes eich hun neu os ydych yn gweithio fel gweithiwr cyflogedig. Os ydych yn hunangyflogedig, mae’n bwysig rhoi gwybod am unrhyw incwm rydych wedi’i dderbyn bob mis, gan gynnwys grant SEISS. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybod os nad ydych wedi cael unrhyw incwm yn y mis hwnnw.

Fel rheol byddwch yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf tua 5 wythnos ar ôl i chi wneud eich cais. Os ydych angen cymorth ariannol yn ystod y cyfnod hwnnw, gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw ad-daladwy. Gall hyn fod hyd at werth eich taliad Credyd Cynhwysol misol arferol, a gallwch gael hwn heb fynd i ganolfan waith yn gorfforol.

Os ydych yn cael grant SEISS neu daliad mawr arall, gallai hyn effeithio eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf a gallai effeithio taliadau Credyd Cynhwysol ar ôl hynny. Darllenwch fwy am enillion dros ben.

Am fwy o wybodaeth am unrhyw agwedd o Gredyd Cynhwysol gweler y wefan Deall Credyd Cynhwysol, gan gynnwys gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol a hunangyflogaeth. 

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn hawlio Credyd Cynhwysol

Bydd y swm o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau, a bydd yn ystyried eich enillion, p’un a ydynt o’ch busnes eich hun, o grant SEISS neu os ydych yn gweithio fel gweithiwr cyflogedig.

Os ydych yn cael credydau treth gan CThEM ar hyn o bryd, dylech fod yn ymwybodol os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd eich dyfarniad credyd treth yn dod i ben yn syth, hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Os daw eich dyfarniad credyd treth i ben, ni ellir ei ailagor ac ni fydd yn bosibl gwneud cais newydd am gredydau treth yn y dyfodol. Darganfyddwch fwy am gredydau treth a gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych hefyd yn hawlio SEISS, bydd hyn yn cael ei drin fel enillion ac felly gallai effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol. Os gallwch ddechrau gweithio eto, naill ai’n llawn amser neu ar oriau cyfyngedig, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael SEISS mwyach. Bydd hyn yn dibynnu ar eich enillion. Darganfyddwch fwy am sut mae enillion yn effeithio ar daliadau Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn hawlio Credyd Cynhwysol, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau am eich incwm, fel y gellir prosesu’ch taliad Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybod os nad ydych wedi cael unrhyw incwm o gwbl. Fe’ch anogir i roi gwybod am eich incwm a’ch treuliau yn eich cyfrif ar-lein fel rydych yn agosau at ddyddiad eich taliad.

Llawr Isafswm Incwm

Mae’r Llawr Isafswm Incwm yn rhagdybio incwm ar lefel yr isafswm cyflog cenedlaethol ar y nifer o oriau y byddai disgwyl i chi weithio yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Yna cymerir y lefel incwm dybiedig hon i ystyriaeth pan gyfrifir eich taliad Credyd Cynhwysol misol.

Darganfyddwch fwy am y Llawr Isafswm Incwm.

Asedau busnes

Dylech nodi os ydych yn hunangyflogedig â thâl ni fydd dim o’ch asedau busnes yn cael eu hystyried wrth weithio allan a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, na faint o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei gael. Mae asedau busnes yn cynnwys pethau fel peiriannau, adeiladau ac arian parod a ddelir yn eich cyfrif busnes.

Os nad ydych yn dod a’ch busnes i ben, ni fydd angen i chi werthu eich asedau busnes er mwyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Gweler gwestiynnau cyffredin ar hunangyflogaeth.

;