Cymorth cyflogaeth a budd-daliadau

Diswyddiadau

Os ydych wedi cael eich diswyddo, gall cymorth ariannol fod ar gael tra rydych yn chwilio am eich swydd nesaf.

Beth yw wneud os dywedwyd wrthych eich bod mewn perygl o gael eich diswyddo

Help i ddod o hyd i swydd

Gwneud cais am fudd-daliadau

Credyd Cynhwysol

JSA Dull Newydd

ESA Dull Newydd

Help i ddelio â dyled

Beth i’w wneud os dywedwyd wrthych eich bod mewn perygl o gael eich diswyddo

Os dywedwyd wrthych eich bod mewn perygl o gael eich diswyddo, neu rydych wedi cael eich diswyddo’n ddiweddar, efallai bydd Gwasanaeth Ymateb Cyflym y Ganolfan Byd Gwaith yn gallu rhoi cymorth i chi.

Gallai hyn gynnwys help i ddod o hyd i gyrsiau hyfforddiant addas, dod o hyd i swydd newydd neu drefnu treialon gwaith, yn ogystal â chymorth ariannol ychwanegol i helpu gyda pethau fel treuliau teithio i’r gwaith, gofal plant neu’r gost o hyfforddiant.

Darganfyddwch fwy am am Wasanaeth Ymateb Cyflym y Ganolfan Byd Gwaith.

Help i ddod o hyd i swydd

Os ydych yn chwilio am waith, mae helpswyddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn le da i ddechrau a gall roi gwybodaeth a chyngor i chi, yn cynnwys:

Gwneud cais am fudd-daliadau

Os ydych wedi cael eich diswyddo neu wedi cael gwybod y byddwch yn cael eich diswyddo’n fuan, mae 3 prif fath o gymorth ariannol a allai fod ar gael i chi:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA Dull Newydd)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (ESA Dull Newydd)

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am bob un o’r rhain isod. Efallai y bydd cymorth ariannol arall ar gael hefyd.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch wneud cais am gyfuniad o’r budd-daliadau hyn. Defnyddiwch y gwiriwr budd-daliadau i gael golwg gyflym ar yr hyn y gallech fod â hawl iddo.

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i gael y darlun llawn o’r holl gymorth ariannol y gallech fod â hawl iddo. Gall hyn gyfrifo’r swm y gallwch efallai ei gael, a gallai gynnwys cymorth ychwanegol fel cyfraddau treth cyngor is neu lwfansau tywydd oer.

Credyd Cynhwysol

Efallai y byddwch yn gymwys am Gredyd Cynhwysol os:

  • rydych ar incwm isel neu allan o waith
  • rydych yn 18 oed neu drosodd (mae rhai eithriadau os ydych yn 16 i 17 oed)
  • rydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth (neu mae’ch partner)
  • mae gennych chi a’ch partner £16,000 neu lai mewn cynilion rhyngoch chi, a
  • rydych yn byw yn y DU

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli 6 budd-dal a chredydau treth presennol:

  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA)
  • Credyd Treth Gwaith

Os ydych eisoes yn cael unrhyw un o’r rhain ac mae eich amgylchiadau’n newid, gallai olygu bod angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn eu lle.

Darganfyddwch fwy am gymhwyster i Gredyd Cynhwysol. Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein

Os ydych yn cael credydau treth ar hyn o bryd

Os ydych yn cael credydau treth gan Gyllid a Thollau EM (HMRC) ar hyn o bryd, dylech fod yn ymwybodol os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd eich dyfarniad credyd treth yn dod i ben ar unwaith. Os daw eich dyfarniad credyd treth i ben, ni ellir ei ailagor ac ni fydd yn bosibl gwneud cais newydd am gredydau treth yn y dyfodol.

Os ydych yn hawlydd credyd treth presennol, nid yw hyn yn golygu y byddwch yn gymwys yn awtomatig i gael Credyd Cynhwysol. Os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd eich dyfarniad credyd treth yn cael ei gau ar unwaith, hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn cael credydau treth ar hyn o bryd, gwiriwch y meini prawf cymhwysedd ar gyfer Credyd Cynhwysol cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Os nad yw’ch dyfarniad credyd treth wedi dod i ben, bydd angen i chi benderfynu a yw aros ar gredydau treth (pe byddech yn dal i fod â hawl iddynt) neu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn well i chi, yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol chi. Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i gael syniad o’r hyn y gallai fod gennych hawl iddo.

Taliadau diswyddo a Chredyd Cynhwysol

Gyda Chredyd Cynhwysol mae taliadau diswyddo yn cael eu trin fel ‘cyfalaf’. Mae cyfalaf yn cynnwys pethau fel cynilion a buddsoddiadau.

Os oes gennych chi a’ch partner (os yn berthnasol) gyfalaf (gan gynnwys cynilion) dros £16,000 ni fyddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol. Mae cyfalaf rhwng £6,000 a £16,000 yn cael ei drin fel cynhyrchu incwm, a gallai leihau eich taliad Credyd Cynhwysol. Ni fydd cyfalaf o dan £6,000 yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am sut mae cyfalaf yn effeithio ar daliadau Credyd Cynhwysol. Os ydych chi eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau, gan gynnwys newidiadau i’ch cynilion a’ch cyfalaf. Gallwch wneud hyn trwy eich cyfrif ar-lein

Os nad ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol efallai y gallwch gael Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd.

Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd

Os ydych wedi gweithio’n rheolaidd fel gweithiwr cyflogdig dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, efallai y gallwch gael Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA Dull Newydd). Ni fydd eich cynilion nac incwm eich partner yn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer JSA Dull Newydd.

Mae JSA Dull Newydd yn fudd-dal personol i bobl sy’n chwilio am waith ac sy’n ddi-waith neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos. Gellir gwneud cais am JSA Dull Newydd ar ei ben ei hun, neu ochr yn ochr â Chredyd Cynhwysol os ydych yn gymwys am y ddau. Efallai y byddwch yn gymwys i gael JSA Dull Newydd hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol neu fathau eraill o gymorth ariannol.

Os ydych yn cael JSA Dull Newydd ar yr un pryd ag y byddwch yn cael Credyd Cynhwysol, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau. Am bob £1 a gewch gan JSA Dull Newydd, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng o £1.

Os ydych yn cael JSA Dull Newydd byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, sy’n cyfrif tuag at eich pensiwn y wladwriaeth ac a allai eich helpu i fod yn gymwys i gael rhai budd-daliadau eraill. Mae hawlwyr Credyd Cynhwysol yn cael credydau Dosbarth 3, sy’n mynd tuag at bensiwn y wladwriaeth, ond nid budd-daliadau eraill. Dyma pam efallai yr hoffech chi wneud cais am JSA Dull Newydd a Chredyd Cynhwysol os gallwch.

Darllenwch fwy am gymhwyster am JSA Dull Newydd. Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd ar-lein

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd

Efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (ESA Dull Newydd) os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar eich gallu i weithio. Fel arfer mae’n rhaid i chi fod wedi gweithio am o leiaf 26 wythnos dros y 2 flynedd dreth ddiwethaf, ac wedi talu neu gael eich credydu â digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Ni fydd eich cynilion, eich incwm ac incwm eich partner fel arfer yn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer ESA Dull Newydd, ond gellir cymryd pensiwn personol i ystyriaeth.

Os ydych yn cael ESA Dull Newydd ar yr un pryd ag y byddwch yn cael Credyd Cynhwysol, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau. Am bob £1 a gewch gan ESA Dull Newydd, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng o £1.

Os ydych yn cael ESA Dull Newydd byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, sy’n cyfrif tuag at eich pensiwn y wladwriaeth a budd-daliadau eraill. Mae hawlwyr Credyd Cynhwysol yn cael  credydau Dosbarth 3, sy’n mynd tuag at bensiwn y wladwriaeth, ond nid budd-daliadau eraill. Dyma pam efallai yr hoffech chi wneud cais am ESA Dull Newydd a Chredyd Cynhwysol os gallwch

Darllenwch fwy am cymhwyster am ESA Dull Newydd. Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd ar-lein

Help i ddelio â dyled

Os ydych yn cael trafferthion ariannol, yna mae’r Gwasanaeth HelpwrArian yn cynnig teclyn Rheoli Arian a all eich helpu i gyllidebu’n effeithiol a rheoli eich arian.

Darllenwch fwy am help gyda rheoli eich arian tra ar Gredyd Cynhwysol.

;