Cymorth cyflogaeth a budd-daliadau

Cwestiynau cyffredin

Ewch yn syth i gwestiynau ac atebion ar:

Tâl Salwch Statudol

Ni allaf fforddio aros gartref, ond rwyf wedi fy heintio neu’n dangos symptomau. Pa help alla i ei gael?

Efallai bydd gan y rhai sy’n hunan-ynysu oherwydd eu bod hwy wedi’u heintio neu’n dangos symptomau o goronafeirws ac o ganlyniad yn methu gweithio, hawl i Dâl Salwch Statudol (SSP). Bydd meini prawf cymhwyster eraill yn berthnasol.

Efallai y bydd pobl sydd ddim yn gymwys i gael tâl salwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a/neu wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd.

I’r rhai sydd ar incwm isel ac sydd eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol: fe’i gynlluniwyd i addasu yn dibynnu ar enillion neu incwm arall pobl. Os yw hawlwyr yn hunan-ynysu ac yn gwneud llai o oriau, dylent roi gwybod i ni yn y ffordd arferol trwy eu cyfrif ar-lein.

Mae’n rhaid i mi hunan-ynysu oherwydd bod rhywun yn fy nghartref yn dangos symptomau neu dywedwyd wrthyf fy mod wedi bod mewn cyswllt gyda rhywun sydd â choronafeirws. Pa help alla i ei gael?

Mae Tâl Salwch Statudol nawr ar gael i’r rhai sydd angen hunan-ynysu oherwydd bod rhywun yn eu cartref yn dangos symptomau neu dywedwyd wrthynt eu bod wedi bod mewn cyswllt gyda rhywun sydd â choronafeirws, ac o ganlyniad maent yn methu gweithio. Mae amodau cymhwyster eraill yn berthnasol.

Os ydych wedi’ch brechu’n llawn neu o dan 18 oed a 6 mis nid yw’n ofynnol i chi hunan-ynysu os ydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19, neu os ydych yn byw gyda rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID -19.

Mae’r llywodraeth yn awgrymu defnyddio Credyd Cynhwysol os nad wyf yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol ond nid yw hynny’n darparu arian i mi yn ddigon cyflym. Sut fydd hyn yn gweithio’n ymarferol?

Bydd y sawl a effeithir gan goronafeirws yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a gallent gael taliad ymlaen llaw o hyd at fis.

Oes angen i mi fod wedi bod yn sâl am ychydig o ddyddiau cyn y gallaf gael Tâl Salwch Statudol?

Na. Os na allwch weithio oherwydd coronafeirws ac rydych yn gymwys am Dâl Salwch Statudol byddwch yn ei gael o’r diwrnod cyntaf, yn hytrach nag o’r pedwerydd.

A allaf gael Tâl Salwch Statudol a budd-daliadau eraill ar yr un pryd?

Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol a Thâl Salwch Statudol ar yr un pryd. Os ydych yn cael Tâl Salwch Statudol efallai y byddai’n syniad da gwneud cais am Gredyd Cynhwysol hefyd, yn enwedig os ydych yn talu rhent neu os oes gennych blant i’w cynnal. Os cewch y ddau, bydd eich Tâl Salwch Statudol yn cael ei ystyried wrth gyfrifo’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Ni allwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar yr un pryd â Thâl Salwch Statudol.

Mae gen i gontract dim oriau a/neu rwy’n gweithio yn yr economi gig. A allaf wneud cais am Dâl Salwch Statudol?

Os ydych chi’n weithiwr gig a/neu ar gontract dim oriau, efallai y bydd gennych hawl i dâl salwch. Gwiriwch eich cymhwyster am Dâl Salwch Statudol.

Yn ôl i’r brig

Apwyntiadau canolfan gwaith

Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau

A fydd angen i mi fynd i’r ganolfan gwaith am unrhyw apwyntiadau?

Yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol bydd angen i chi wneud rhai pethau. Os gallwch baratoi am neu chwilio am waith, bydd hyn yn cynnwys mynychu apwyntiadau gyda’ch anogwr gwaith.

Ar hyn o bryd gallai’r rhain fod dros y ffôn neu’n ddiogel yn ein Canolfannau Gwaith ac rydym yn dechrau cynnig galwadau fideo hefyd.

Sut bynnag mae eich apwyntiad i fod i gael ei gynnal, mae’n bwysig eich bod yn mynychu. Os gofynnir i chi fynd i apwyntiad ond nad ydych yn mynychu a does gennych ddim rheswm da pam, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu heffeithio.

Os oes rheswm da pam na allwch fynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Bydd gofyn i chi wisgo gorchudd wyneb wrth fynd i mewn i ganolfan gwaith, oni bai eich bod mewn categori eithriedig. Peidiwch â mynd i ganolfan gwaith os oes gennych unrhyw symptomau coronafeirws. Dylech hefyd ddilyn y canllaw diweddaraf gan y llywodraeth ar gyfarfod ag eraill yn ddiogel a Coronafeirws: sut i aros yn ddiogel.

Nid oes angen i chi fynychu’r ganolfan gwaith oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny. Os ydych angen cysylltu â ni, y ffordd orau i wneud hyn yw ar-lein neu dros y ffôn. Os ydych angen mynd i ganolfan gwaith, maent ar agor a bydd un o’n cydweithwyr yn gallu eich helpu.

Ni fydd DWP byth yn anfon neges destun nac e-bost yn gofyn am wybodaeth bersonol na manylion banc.

A fydd angen i mi wneud gweithgaredd chwilio am waith?

Byddwn yn cysylltu â chi i drafod pa gamau rydych yn eu cymryd i chwilio am waith, ac i gytuno ar Ymrwymiad Hawlydd newydd. Nid oes angen i chi ein ffonio.

Yn y cyfamser gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dod o hyd i swydd i chwilio am a gwneud cais am swyddi.

Byddwch dal angen dweud wrthym os oes unrhyw beth yn newid – defnyddiwch y ddolen ‘Rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau’ yn eich cyfrif ar-lein.

Pa fath o weithgaredd chwiliad gwaith fydd disgwyl i mi ei wneud?

Byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich Ymrwymiad Hawlydd. Yn y cyfamser, os ydych yn gallu chwilio am waith yn ddiogel tra’n dilyn canllawiau’r llywodraeth, dylech:

  • ddiweddaru eich CV
  • ystyried eich opsiynau i ddychwelyd i’r gwaith
  • chwilio am swyddi, er enghraifft ar wefan helpuswyddi y llywodraeth
  • darllen am ymrwymiadau a chwilio am waith yn y canllaw Coronafeirws a Chredyd Cynhwysol, sydd i’w weld yn eich cyfrif ar-lein
  • gwneud eich hun ar gael i ddechrau gweithio.

Nid oes angen i chi gysylltu â ni.

Pa gefnogaeth allaf ei gael gan fy nghanolfan gwaith leol?

Os ydych yn gallu chwilio am waith a’i bod hi’n ddiogel gwneud hynny yna dylech barhau i edrych ar Dod o hyd i swydd ac adnoddau ar-lein eraill fel gwefan helpuswyddi y llywodraeth.

Nid oes angen i chi fynychu’r ganolfan gwaith oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny. Os ydych angen cysylltu â ni, y ffordd orau i wneud hyn yw ar-lein neu dros y ffôn.

Os ydych angen mynd i ganolfan gwaith, maent ar agor a bydd un o’n cydweithwyr yn gallu eich helpu.

Bydd yn ofynnol i chi wisgo gorchudd wyneb pan ewch i mewn i ganolfan gwaith, oni bai eich bod mewn grwp sydd wedi’i eithrio. Peidiwch â mynd i ganolfan gwaith os oes gennych unrhyw symptomau coronafeirws. Dylech hefyd ddilyn y canllaw diweddaraf gan y llywodraeth ar gyfarfod ag eraill yn ddiogel a chyfyngiadau cyfnod clo.

A fyddaf yn dal i gael fy nhaliadau?

Byddwch yn cael eich taliadau fel arfer.

Os ydych angen gwneud cais newydd

Sut allaf wneud cais newydd os na allaf ddod i’r ganolfan gwaith?

Dylech wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Nid oes rhaid i chi ffonio DWP i drefnu cyfarfod a ni ddylech fynd i’r ganolfan gwaith oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud. Ond, bydd staff y ganolfan gwaith yn parhau i gwrdd â chwsmeriaid bregus gan gynnwys y rheiny sy’n ffoi rhag cam-drin domestig.

Byddwn yn gwybod eich bod wedi gwneud cais a byddwn yn cysylltu â chi os byddwn angen unrhyw wybodaeth ychwanegol gennych i brosesu unrhyw daliad sy’n ddyledus i chi. Byddwn yn rhoi nodyn yn eich cyfrif ar-lein ac yn ei dilyn â galwad ffôn – efallai bydd hyn yn ymddangos fel rhif preifat. Gwiriwch eich cyfrif ar-lein a gwyliwch am alwadau gennym.

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ddiweddar, mae eich cais yn dechrau ar y diwrnod rydych yn cyflwyno eich cais ar-lein. Nid yw’r dyddiad yn dibynnu ar gael eich hunaniaeth wedi ei gwirio ar-lein nac yn gysylltiedig â dyddiad unrhyw cyfathrebu ar ôl hynny. Ond bydd angen gwirio’ch hunaniaeth cyn gallwch gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai bydd rhaid i chi gymryd rhan mewn cyfweliad dros y ffôn ag anogwr gwaith. Byddwn yn cysylltu â chi os felly – nid oes angen i chi ein ffonio.

Os na allwch gymryd rhan yn eich cyfweliad dros y ffôn rhowch wybod i ni gyn gynted â phosibl trwy ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein fel gellir ei aildrefnu. Os ydym yn gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad dros y ffôn, ni fydd eich cais am Gredyd Cynhwysol yn gallu mynd yn ei flaen cyn bod y cyfweliad wedi digwydd.

Ni fydd DWP byth yn anfon neges destun neu ebost gan ofyn am wybodaeth bersonol na manylion banc.

Os na allwch ddefnyddio gwasanaethau digidol o gwbl, gellir gwneud ceisiadau am Gredyd Cynhwysol dros y ffôn o hyd.

Rwyf wedi ceisio dilysu fy hunaniaeth ar-lein drwy ddefnyddio GOV.UK Verify ond nid oedd yn gweithio. Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych yn gwsmer newydd ac yn cael problem i wirio’ch hunaniaeth ar-lein peidiwch â phoeni – mae’ch cais wedi’i gyflwyno. Bydd eich canolfan gwaith yn gwybod eich bod wedi gwneud cais ar-lein, byddant yn eich ffonio os bydd angen iddynt gadarnhau unrhyw wybodaeth gyda chi er mwyn symud ymlaen â’ch cais.

Mae ein systemau ffôn yn golygu y gall galwadau gennym ni arddangos fel rhifau 0800 neu rif anhysbys. Os cewch alwad gan rif anhysbys yn dilyn ein neges yn eich cyfrif, dylech ei ateb, gan ei bod yn debygol o fod yn DWP. Byddwn wrth gwrs yn sicrhau eich bod chi’n gwybod bod yr alwad yn un cywir.

Nodwch, mae sgamiau’n targedu pobl, felly peidiwch â rhannu gwybodaeth os nad ydych yn siŵr bod yr alwad gan DWP. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch i’r galwr bostio ffurf benodol o eiriau yn eich dyddlyfr fel y gallwch fod yn sicr mai ni sydd yno.

Beth am y bobl sy’n methu â defnyddio’r ffurflen gais Credyd Cynhwysol ar-lein?

Mae tua 98% o bobl yn gwneud eu cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein, ond i bobl sy’n cael trafferthion gyda chyfrifiaduron, mae’n bosib gwneud cais dros y ffôn.

Mae cymorth ychwanegol ar gael yn cynnwys ein gwasanaeth Help i Wneud Cais, a gyflenwir gan Gyngor Ar Bopeth, sy’n cefnogi pobl gyda’u cais. Help to Claim in Scotland.

Yn ôl i’r brig

Asesiadau Gallu i Weithio

Rwyf eisoes wedi cael Asesiad Gallu i Weithio dros y ffôn a dywedwyd wrthyf y bydd angen asesiad wyneb yn wyneb arnaf. Pam fy mod bellach wedi derbyn gwahoddiad i gael asesiad dros y ffôn/fideo arall?

Rydym nawr wedi ehangu’r broses fel y gellir gwneud penderfyniadau yn dilyn y mwyafrif o asesiadau dros y ffôn a fideo. Dyma pam rydym wedi rhoi apwyntiad dros y ffôn neu fideo arall i chi.

Mae’n rhaid i chi fynychu a chymryd rhan yn eich asesiad dros y ffôn neu fideo. Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ac nad ydych yn mynychu’ch apwyntiad, mae’n bosib y bydd eich budd-dal yn cael ei stopio. Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ac nad ydych yn mynychu’ch apwyntiad, fe allai’ch budd-dal newid ac efallai y byddwn yn penderfynu eich bod yn gallu gweithio.

A allaf gael fy nghanfod i fod yn ffit i weithio yn dilyn asesiad dros y ffôn/fideo?

Gallwch. Mae pob canlyniad ffit i weithio sy’n dilyn Asesiadau Gallu i Weithio dros y ffôn yn cael eu gwirio’n ofalus cyn eu trosglwyddo i’r Adran Gwaith a Phensiynau am benderfyniad. Mae hyn yn golygu y gallwn wneud penderfyniadau yn dilyn y mwyafrif o asesiadau dros y ffôn neu fideo fel y gallwn dalu’r budd cywir i hawlwyr cyn gynted â phosibl.

A allai gael rhywun gyda mi ar gyfer yr alwad?

Fel gyda cyfarfodydd wyneb yn wyneb, gallwch gael rhywun gyda chi yn ystod eich asesiad dros y ffôn neu fideo i gynnig help a chymorth. Byddai hyn fel arfer y person sy’n eich adnabod orau ac yn eich deall chi a’ch anghenion (er enghraifft, perthynas, gweithiwr cymorth, neu ffrind). Mae rhaid iddynt fod 16 oed neu drosodd. Efallai gallent siarad ar eich rhan ac yn gallu cynnig cymorth defnyddiol. Ond, bydd yr asesiad yn canolbwyntio arnoch a’r atebion byddwch yn eu rhoi.

Os na all eich gweithiwr cymorth/ffrind fod gyda chi mewn person oherwydd canllawiau presennol y llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol, gallwn eu hychwanegu at yr alwad. Byddwn yn gofyn i chi am eu rhif a bydd rhaid iddynt fod yn barod ar amser eich apwyntiad.

Beth ddylwn ei wneud os bydd angen dehonglydd iaith arnaf?

Rhowch wybod i Ganolfan Asesiadau Iechyd ac Anableddau (CHDA) gyn gynted â phosibl ar 0800 2888777 (Credyd Cynhwysol a ESA yn unig). Gall perthynas neu ffrind fod yn bresennol yn ystod eich asesiad dros y ffôn neu fideo i ddehongli ar eich cyfer, ond mae rhaid iddynt fod yn 16 oed neu drosodd.

Am faint fydd Asesiad Gallu i Weithio dros y ffôn/fideo yn parhau?

Dylai’r asesiad Credyd Cynhwysol/ESA dros y ffôn neu fideo barhau rhwng 20 munud a 1 awr, ond gallai cymryd mwy o amser os bydd angen.

Beth am y bobl na allant gymryd rhan dros y ffôn?

Rydym yn ymwybodol ar gyfer rhai hawlwyr, yn enwedig y rheiny sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau penodol, efallai na fydd yn bosibl cynnal asesiadau dros y ffôn. Ar ben hynny, efallai bydd achosion lle mae’r dystiolaeth sy’n cael ei darparu ar y pryd yn gyfyngedig.

Lle nad yw’n bosibl cynnal asesiad dros y ffôn na gwneud argymhelliad, bydd hawlwyr Credyd Cynhwysol ac ESA yn aros ar eu dyfarniad presennol hyd nes ein bod yn gallu cynnal asesiad wyneb yn wyneb neu gasglu’r dystiolaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniad.

Rwyf wedi mynychu Asesiad Gallu i Weithio. Pryd fyddaf yn clywed gennych? 

Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda choronafeirws efallai bydd yn cymryd peth amser i ni gysylltu â chi i roi gwybod i chi am ganlyniad eich asesiad. Byddwn yn cysylltu â chi gyn gynted ag y gallwn.

A fydd oedi wrth aildrefnu fy Asesiad Gallu i Weithio?

Rydym yn rhagweld efallai bydd cwsmeriaid yn aros am fwy o amser am eu hasesiad yn ystod y cyfnod hwn, wrth i ni reoli’r niferoedd digynsail o alw am fudd-daliadau.

Os, ar ôl asesiad, byddwn yn penderfynu dylech gael mwy o fudd-dal, byddwn yn talu unrhyw arian sy’n ddyledus gennym i chi.

Beth fydd yn digwydd os oedd fy mudd-dal i fod i’w adolygu?

Bydd eich dyfarniad presennol yn parhau, tra byddwn yn rhoi trefniadau amgen yn eu lle.

Rwyf wedi derbyn holiadur ESA50W neu UC50W. Beth sydd angen i mi ei wneud?

Mae angen i chi lenwi a dychwelyd yr holiadur erbyn y dyddiad cau a roddir yn y llythyr a anfonwyd gydag ef, gan ddefnyddio’r amlen a ddarperir.

Gall y wybodaeth a roddwch yn yr holiadur hwn olygu y gellir gwneud penderfyniad am eich cais heb fod angen i chi gael asesiad wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Rydym yn deall, yn ystod yr achos o goronafeirws, nad yw rhai hawlwyr wedi gallu cwblhau a dychwelyd eu ESA50W/UC50W mewn pryd. Os ydych yn hunan-ynysu rhaid i chi lenwi a dychwelyd yr holiadur ESA50W/UC50W cyn gynted ag y gallwch, ar ôl i’ch cyfnod hunan-ynysu ddod i ben.

Os na allwch ddychwelyd eich ffurflen ESA50W/UC50W erbyn y dyddiad cau oherwydd pryderon eraill ynghylch coronafeirws, mae’n bwysig eich bod yn cwblhau adran dychwelyd hwyr yr holiadur i roi gwybod i ni pam. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi yn nes ymlaen i ofyn pam y bu oedi yn ei dychwelyd atom.

Os ydych angen cefnogaeth i gwblhau’r ESA50W/UC50W gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd dros y ffôn ar 0800 288 8777 neu drwy e-bost yn customer-relations@chdauk.co.uk.

Ni allaf gael tystiolaeth feddygol gan fy meddyg teulu/ysbyty i gynorthwyo fy Asesiad Gallu i Weithio ar hyn o bryd. Beth allaf ei wneud?

Rydym yn deall y gallai fod yn anodd, yn ystod yr achos o goronafeirws, gael rhagor o dystiolaeth feddygol oddi wrth ddarparwr gofal iechyd neu’ch meddyg teulu. Rydym felly yn eich annog i gwblhau a dychwelyd eich holiaduron mor llawn â phosibl ac anfon unrhyw wybodaeth atom sydd gennych yn barod. Efallai bod hyn yn ddigon i ni allu gwneud penderfyniad.

Yn ôl i’r brig

Cymorth mamolaeth

Pa gymorth ariannol y mae’r llywodraeth yn ei gynnig i ferched beichiog?

Efallai eich bod yn gymwys am Lwfans Mamolaeth, neu Dâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae’r Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn (SSMG) yn daliad untro o £500 i helpu tuag at y costau o gael plentyn. I gael SSMG mae’n rhaid eich bod wedi derbyn cyngor iechyd gan weithiwr iechyd proffesiynol ardystiedig ac yn hawlio budd-daliadau neu gredydau treth penodol. Darllenwch fwy am gymhwyster am SSMG

Efallai y bydd y rhai sy’n hunan-ynysu oherwydd eu bod hwy (neu rywun yn eu cartref) yn arddangos symptomau coronafeirws, ac yn methu â gweithio o ganlyniad, yn gymwys am Dâl Salwch Statudol. Mae meini prawf cymhwyster eraill yn berthnasol.

Os nad ydych yn gymwys am Dâl Salwch Statudol gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol a/neu gwneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd

Rwy’n feichiog ac yn hunan-ynysu. A allaf gael tâl salwch?

Efallai y bydd y rhai sy’n hunan-ynysu oherwydd eu bod hwy (neu rywun yn eu cartref) yn arddangos symptomau coronafeirws, ac yn methu â gweithio o ganlyniad, yn gymwys am  Dâl Salwch Statudol. Mae meini prawf cymhwyster eraill yn berthnasol.

Os ydych yn gymwys am Dâl Salwch Statudol dylai eich cyflogwr dalu hwn i chi o ddiwrnod cyntaf eich cyfnod hunan-ynysu nes:

  • rydych yn ffit i weithio
  • rydych yn cymryd tâl ffyrlo, neu
  • mae eich taliadau Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth yn dechrau.

Os ydych yn gyflogedig a ddim yn gymwys am Dâl Salwch Statudol, mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi ffurflen SSP1 i chi sy’n egluro pam. Gallwch ei ddefnyddio i gefnogi eich cais am Gredyd Cynhwysol.

Bydd unrhyw amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd hunan-ynysu yn cael ei ystyried yn absenoldeb salwch nes eich bod yn ffit i weithio, eich bod yn cymryd tâl ffyrlo, neu fydd disgwyl i’ch Absenoldeb Mamolaeth ddechrau. Ar y pwynt hwn bydd y rheolau arferol yn berthnasol, a Thâl Mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth yn disodli Tâl Salwch Statudol am hyd at uchafswm o 39 wythnos. Yn yr amgylchiadau hyn ni fydd eich Tâl Mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth yn dechrau’n gynnar oherwydd nad yw coronafeirws yn salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd.

Os byddaf i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd yn agos at fy nyddiad disgwyl y babi a fydd Absenoldeb Salwch a Thâl Mamolaeth Statudol/Lwfans Mamolaeth yn dechrau’n gynnar yn awtomatig?

Bydd. Os ydych yn cael Tâl Salwch Statudol oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd, i fewn i’r cyfnod o 4 wythnos cyn mae disgwyl i’ch Tâl Mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth ddechrau, bydd yn cychwyn fis ymlaen llaw. Mae hyn yn y rheol arferol ac nid yw wedi newid.

Os ydych yn gwneud cais am Dâl Salwch Statudol oherwydd coronafeirws, ni fydd eich Tâl Mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth yn dechrau ymlaen llaw oherwydd nad yw hyn yn cyfrif fel salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd.

Mae fy nghyflogwr wedi dweud wrthyf bod yn rhaid i mi ddechrau fy Absenoldeb/Tâl Mamolaeth yn gynnar. Ydy hyn yn gywir?

Byddwch ond angen dechrau eich Absenoldeb/Tâl Mamolaeth yn gynnar os ydych o fewn 4 wythnos o ddyddiad dechrau eich Absenoldeb/Tâl Mamolaeth, ac yn cael Tâl Salwch Statudol oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd.

Os ydych yn gwneud cais am Dâl Salwch Statudol oherwydd coronafeirws, ni fydd eich Tâl Mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth yn dechrau’n gynnar oherwydd nad yw hyn yn cyfrif fel salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd.

Os yw’ch cyflogwr yn dweud wrthych am ddechrau eich Absenoldeb Mamolaeth yn gynnar yn lle eich rhoi ar ffyrlo, cofiwch mai eich dewis chi yw pryd i ddechrau a gorffen eich cyfnod tâl mamolaeth (o fewn y rheolau arferol).

Os yw fy Nhâl Mamolaeth Statudol/Lwfans Mamolaeth yn dechrau’n gynharach nag yr oeddwn wedi’i gynllunio, a fydd yn cael ei ymestyn ar y diwedd?

Ar hyn o bryd nid oes gennym gynlluniau i ymestyn Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth am fwy na 39 wythnos. Efallai y byddwch yn gymwys am Gredyd Cynhwysol a/neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os ydych yn methu gweithio.

Ydy aros gartref oherwydd canllaiau’r llywodraeth yn cael ei ystyried yn salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd?

Na.

Sut wyf yn cael fy nhystysgrif MATB1 (prawf o feichiogrwydd) os na allaf ymweld â fy Meddyg Teulu, clinig neu fydwraig ac ni allant hwy ymweld â mi?

Nid oes angen i chi gwrdd â gweithiwr iechyd proffesiynol i gael tystysgrif MATB1. Gall eich bydwraig neu feddyg gyhoeddi eich MATB1 a’i anfon atoch trwy’r post.

Rwyf wedi rhoi fy nhystysgrif MATB1 i’m cyflogwr ac ni allaf ei gael yn ôl. Beth alla i ei ddefnyddio i gefnogi fy nghais am Lwfans Mamolaeth?

Gallech ofyn i’ch cyflogwr ei anfon i’r Adran Gwaith a Phensiwn ar eich rhan, neu gallwch ddefnyddio’r dogfennau canlynol i gefnogi’ch cais am Lwfans Mamolaeth:

  • tystysgrif geni eich babi
  • llythyr neu ddatganiad ar bapur pennawd priodol, wedi’i lofnodi a/neu ei stampio gan feddyg, bydwraig neu swyddog cyfrifol yn yr ysbyty neu’r cartref lle digwyddodd yr enedigaeth.
  • tystysgrif marw-enedigaeth a gyhoeddwyd gan gofrestrydd
  • tystysgrif i gadarnhau bod marw-enedigaeth cynamserol wedi cymryd lle

Rwyf wedi cael fy rhoi ar ffyrlo. A fydd fy Nhâl Mamolaeth Statudol/Lwfans Mamolaeth/Absenoldeb Mamolaeth yn cael ei effeithio?

Os yw eich cyfnod o Dâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth yn dechrau ar neu ar ôl 25 Ebrill 2020, bydd eich hawl i Dâl Mamolaeth Statudol a Lwfans Mamolaeth yn seiliedig ar eich enillion llawn yn hytrach na’r tâl ffyrlo. Byddwch yn cael beth fyddech wedi’i gael os na fyddech wedi cael eich rhoi ar ffyrlo.

Os dechreuodd eich cyfnod o Dâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth cyn 25 Ebrill 2020, gallai eich hawl gael ei effeithio. Os gwnaeth cael eich rhoi ar ffyrlo leihau eich enillion, gallai hyn leihau’r swm o Dâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth a gewch.

Nid yw eich hawliau am Absenoldeb Mamolaeth yn cael eu heffeithio drwy chi fod ar ffyrlo.

A fydd cyflogwyr yn dal i allu adennill cost taliadau statudol gan y llywodraeth?

Mae’r rheolau arferol dal i fod yn berthnasol. Bydd cyflogwyr yn gallu adennill 92% o gost tâl statudol gan y llywodraeth, neu 103% os ydynt yn gyflogwr bach.

Sut wyf yn gwneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn (SSMG) yn ystod yr achos o goronafeirws?

Gallwch ddechrau eich cais am y Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn (SSMG) drwy argraffu ffurflen gais SSMG

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, postiwch hi i ‘Freepost DWP SSMG’. Nid ydych angen cod post na stamp.

Peidiwch â mynd a’ch ffurflen wedi’i chwblhau i ganolfan gwaith oherwydd gall fod wedi cau.

Sut wyf yn cael fy ffurflen gais SSMG wedi’i lofnodi gan weithiwr iechyd proffesiynol os wyf yn hunan-ynysu neu os nad wyf yn gallu cael apwyntiad yn y feddygfa?

Os na allwch weld eich meddyg neu fydwraig ond mae gennych dystysgrif MATB1 (byddwch yn cael hwn gan eich meddyg neu fydwraig ddim mwy nag 20 wythnos cyn y dyddiad disgwyliedig), byddwn yn derbyn hynny yn ei le. Anfonwch hi gyda’ch ffurflen gais SSMG wedi’i chwblhau.

Os nad oes gennych MATB1, dychwelwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau beth bynnag a byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn pan fyddwn yn prosesu’ch cais.

Mae perygl i mi golli’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am SSMG gan fy mod yn hunan-ynysu ac ni allaf adael y tŷ i bostio fy ffurflen. Beth ddylwn i ei wneud?

Ni allwn brosesu’ch cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn heb ffurflen gais wedi’i chwblhau. Ond byddwn yn dal i dderbyn eich cais os ydym yn derbyn y ffurflen ar ôl y dyddiad cau.

Gwnewch nodyn ar y ffurflen gais eich bod yn hunan-ynysu/cysgodi oherwydd yr argyfwng coronafeirws a’i bostio yn ôl atom cyn gynted ag y gallwch.

Sut alla i gael copi o ffurflen gais SSMG os nad oes gen i argraffydd?

Dylech ffonio llinell gymorth Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn ar 0800 169 0140 i ofyn am ffurflen gais a byddwn yn postio un atoch.

Yn ôl i’r brig

Hunangyflogaeth

Nid yw fy musnes bellach yn darparu incwm i mi oherwydd coronafeirws. Beth allaf ei wneud?

Efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Os ydych yn cael credydau treth gan CThEM ar hyn o bryd, dylech fod yn ymwybodol bydd eich dyfarniad o gredydau treth yn dod i ben yn syth os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Darganfyddwch fwy am gredydau treth a gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol efallai y byddwch yn gymwys am daliad ymlaen llaw y bydd angen ei dalu’n ôl.

Rwyf yn hunangyflogedig. A allaf gael Tâl Salwch Statudol?

Fel person hunangyflogedig ni allwch ar hyn o bryd wneud cais am Dâl Salwch Statudol. Efallai y byddwch yn gymwys am Gredyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

A fydd yn rhaid i mi werthu fy asedau busnes os bydd angen i mi wneud cais am Gredyd Cynhwysol?

Os nad ydych yn dirwyn eich busnes i ben, ni fydd angen i chi werthu asedau eich busnes i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Ni fyddant yn cael eu hystyried pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, ac ni fyddant yn cael eu hystyried pan fyddwn yn gweithio allan faint o Gredyd Cynhwysol y mae gennych hawl iddo.

Mae asedau busnes yn cynnwys pethau fel peiriannau, adeiladau ac arian parod a ddelir yn eich cyfrif busnes.

Rwyf yn hawlio Credyd Cynhwysol ac rwyf eisiau gwybod pa incwm a chostau rwyf angen rhoi gwybod amdanynt a phryd

Dylech rhoi gwybod am eich incwm ar-lein drwy gwblhau y dasg ‘Rhoi gwybod am incwm a chostau’ ar eich cyfrif ar-lein Credyd Cynhwysol. Bydd y canllaw ‘Sut i roi gwybod am eich incwm a chostau’ ar gov.uk yn eich helpu i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud os oes gennych enillion hunangyflogedig ac rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol.

Yn ôl i’r brig

;