Cymorth cyflogaeth a budd-daliadau

Eisoes yn hawlio budd-daliadau

Rheoli eich cais Credyd Cynhwysol

Gallwch reoli’ch cais Credyd Cynhwysol gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein. Nid oes angen i chi bellach ffonio’r DWP fel rhan o’ch cais Credyd Cynhwysol newydd.

Eich taliadau Credyd Cynhwysol

Bydd eich datganiad Credyd Cynhwysol yn dangos faint fyddwch yn cael eich talu y mis hwn. Gallwch ddarganfod y diwrnod fydd eich datganiad ar gael, a’r diwrnod y byddwch yn cael eich talu, yn yr adran ‘Hafan’ o’ch cyfrif ar-lein o dan ‘Beth Sy’n Digwydd Nesaf’.

Os ydych chi neu’ch partner wedi derbyn unrhyw gyflog neu incwm ers gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd y rhain yn cael eu hystyried wrth gyfrifo’ch taliad cyntaf. Cofiwch barhau i edrych ar eich dyddlyfr ar-lein am negeseuon gan DWP.

Apwyntiadau canolfan gwaith

Yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol bydd angen i chi wneud rhai pethau. Os gallwch baratoi am neu chwilio am waith, bydd hyn yn cynnwys mynychu apwyntiadau gyda’ch anogwr gwaith.

Ar hyn o bryd gallai’r rhain fod dros y ffôn neu yn ein Canolfannau Gwaith, ble mae diogelwch yn flaenoriaeth, ac rydym yn dechrau cynnig galwadau fideo hefyd.

Sut bynnag mae eich apwyntiad i fod i gael ei gynnal, mae’n bwysig eich bod yn mynychu. Os gofynnir i chi fynychu apwyntiad gyda’ch Anogwr Gwaith ond nad ydych yn mynychu a does gennych ddim rheswm da pam, bydd yr arian a gewch gan Gredyd Cynhwysol yn cael ei leihau am gyfnod o amser. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Os oes rheswm da pam na allwch fynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Bydd gofyn i chi wisgo gorchudd wyneb wrth fynd i mewn i ganolfan gwaith, oni bai eich bod mewn categori eithriedig. Peidiwch â mynd i ganolfan gwaith os oes ganddoch unrhyw symptomau coronafeirws. Dylech hefyd ddilyn y canllaw diweddaraf gan y llywodraeth ar gyfarfod ag eraill yn ddiogel a chyfyngiadau clo.

Nid oes angen i chi fynychu’r ganolfan gwaith oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny. Os ydych angen cysylltu â ni, y ffordd orau i wneud hyn yw ar-lein neu dros y ffôn. Os ydych angen mynd i ganolfan gwaith, maent ar agor a bydd un o’n cydweithwyr yn gallu eich helpu.

Gallwch barhau i wneud ceisiadau am fudd-daliadau ar-lein os ydych yn gymwys. Darganfyddwch fwy am wneud cais newydd

Gall DWP eich cefnogi os ydych yn dioddef o gam-drin domestig. Rydym ni yma i helpu.

Gallwn eich helpu i gael mynediad at lety dros dro fel lloches, a’ch rhoi mewn cysylltiad â chyngor a rhwydweithiau cymorth lleol arbenigol. Gall y ganolfan gwaith eich cefnogi trwy eich helpu i wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, a gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw lle bo angen, a all ddarparu mynediad cyflymach at arian. O hyn ymlaen ni fydd gan eich cyn-bartner fynediad at unrhyw wybodaeth am eich cais newydd.

Asesiadau iechyd

Os bydd angen i chi fynd i asesiad iechyd, byddwch yn cael llythyr gydag amser ar gyfer apwyntiad. Gall apwyntiadau asesu ddigwydd wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy fideo. Bydd eich llythyr apwyntiad yn nodi sut y bydd yn digwydd.

Os ydych wedi gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) ond nid oes gennych ddyddiad ar gyfer apwyntiad asesiad, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Cysylltir â chi yn fuan dros y ffôn neu drwy lythyr i roi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf.

Gweler y cwestiynau cyffredin am atal asesiadau iechyd wyneb i wyneb.

Taliadau cymorth hunanynysu

Efallai eich bod yn gymwys am daliad cymorth hunanynysu o £500 os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • Dywedwyd wrthych i aros gartref a hunanynysu naill ai oherwydd eich bod wedi profi’n bositif am coronafeirws neu wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif yn ddiweddar.
  • Rydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig
  • Ni allwch weithio o gartref a byddwch yn colli incwm o ganlyniad i hunan-ynysu
  • Rydych ar hyn o bryd yn cael Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn

Mae meini prawf cymhwysedd eraill yn berthnasol. Darganfyddwch fwy am y taliadau cymorth hunan-ynysu ble rydych chi’n byw:

Os nad ydych yn gymwys am un o’r taliadau hyn, efallai y gallech gael ‘taliad disgresiwn’ yn lle hynny. Gallech gael hyn os ydych yn wynebu caledi ariannol oherwydd na allwch weithio gartref, ac o ganlyniad byddwch yn colli incwm tra byddwch yn hunanynysu.

Bydd gan eich awdurdod lleol fanylion ar sut i wneud cais am daliad cymorth hunanynysu a’r taliad disgresiwn yn eich ardal chi. Mae’r rheolau cymhwysedd am y taliad disgresiwn yn cael eu gosod gan yr awdurdodau lleol – bydd ganddynt wybodaeth ar sut mae’n gweithio lle rydych yn byw.

Os ydych yn cael un o’r taliadau cymorth hunanynysu neu daliad disgresiwn, ni fydd hyn yn effeithio unrhyw daliadau a gewch gan DWP, yn cynnwys Credyd Cynhwysol.

Hunangyflogaeth

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn hawlio Credyd Cynhwysol, gweler yr adran ar hunangyflogaeth

;