Cymorth cyflogaeth a budd-daliadau

Tâl salwch

Os na allwch weithio oherwydd coronafeirws a’ch bod yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol byddwch yn ei gael o’r diwrnod cyntaf, yn hytrach nag o’r pedwerydd diwrnod o’ch salwch. Mae hwn yn berthnasol yn ôl-weithredol o 13 Mawrth 2020.

Gallech fod yn gymwys am Dâl Salwch Statudol os ydych yn hunanynysu am un neu fwy o’r rhesymau canlynol, ac rydych yn methu gweithio o ganlyniad:

  • Rydych yn yn dangos symptomau o goronafeirws
  • Rydych wedi profi’n bositif am goronafeirws
  • Mae rhywun yn eich cartref (gan gynnwys rhywun yn eich cartref estynedig neu gysylltiedig) yn dangos symptomau o neu wedi profi’n bositif am goronafeirws
  • Rydych wedi cael eich hysbysu gan y GIG neu awdurdodau iechyd cyhoeddus eich bod wedi bod mewn cyswllt gyda rhywun sydd â choronafeirws
  • Rydych wedi cael eich cynghori gan feddyg i hunan-ynysu cyn cael eich derbyn i’r ysbyty am driniaeth dewisol neu sydd wedi’i gynllunio.

Bydd meini prawf cymhwyster eraill yn berthnasol. Gwiriwch eich hawl i Dâl Salwch Statudol.

Os ydych yn weithiwr gig a/neu ar gontract dim oriau, efallai y bydd gennych hawl i dâl salwch.

Efallai y gallech gael Credyd Cynhwysol a Thâl Salwch Statudol ar yr un pryd. Os ydych yn cael Tâl Salwch Statudol gallai fod yn syniad da i wneud cais am Gredyd Cynhwysol hefyd, yn enwedig os ydych yn talu rhent neu gyda phlant i’w cynnal. Os byddwch yn cael y ddau, bydd eich Tâl Salwch Statudol yn cael ei gymryd i ystyriaeth pan fyddwch yn gweithio allan eich taliad Credyd Cynhwysol.

Os ydych angen darparu tystiolaeth i’ch cyflogwr bod angen i chi aros gartref o ganlyniad i gael symptomau coronafeirws gellir cael Nodyn Hunan-ynysu gan NHS 111 ar-lein. Os ydych yn byw gyda rhywun sydd â symptomau, gellir cael Nodyn Hunan-ynysu gan wefan NHS.

Os nad ydych yn gymwys i gael tâl salwch gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol a/neu wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd

Gallwch hefyd wneud cais am y rhain os cewch eich atal rhag gweithio oherwydd risg i iechyd y cyhoedd.

Gweler y cwestiynau cyffredin ar Dâl Salwch Statudol.

;