Os ydych yn cael eich effeithio gan goronafeirws neu ei effaith ar yr economi, mae yna ystod eang o gefnogaeth ar gael.
Mae’r tudalennau hyn yn darparu gwybodaeth am y newidiadau mae’r llywodraeth wedi’u cyflwyno i gefnogi pobl sydd eisoes yn hawlio budd-daliadau, sydd angen gwneud cais am fudd-daliadau, neu sydd mewn perygl o golli eu swydd o ganlyniad i goronafeirws.
Yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol bydd angen i chi wneud rhai pethau. Os gallwch baratoi am neu chwilio am waith, bydd hyn yn cynnwys mynychu apwyntiadau gyda’ch anogwr gwaith.
Ar hyn o bryd gallai’r rhain fod dros y ffôn neu’n ddiogel yn ein Canolfannau Gwaith ac rydym yn dechrau cynnig galwadau fideo hefyd.
Sut bynnag mae eich apwyntiad i fod i gael ei gynnal, mae’n bwysig eich bod yn mynychu. Os gofynnir i chi fynd i apwyntiad ond nad ydych yn mynychu a does gennych ddim rheswm da pam, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu heffeithio.
Os oes rheswm da pam na allwch fynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Bydd gofyn i chi wisgo gorchudd wyneb wrth fynd i mewn i ganolfan gwaith, oni bai eich bod mewn categori eithriedig. Peidiwch â mynd i ganolfan gwaith os oes ganddoch unrhyw symptomau coronafeirws. Dylech hefyd ddilyn y canllaw diweddaraf gan y llywodraeth ar gyfarfod ag eraill yn ddiogel a chyfyngiadau clo.
Nid oes angen i chi fynychu’r ganolfan gwaith oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny. Os ydych angen cysylltu â ni, y ffordd orau i wneud hyn yw ar-lein neu dros y ffôn. Os ydych angen mynd i ganolfan gwaith, maent ar agor a bydd un o’n cydweithwyr yn gallu eich helpu.
Ni fydd DWP byth yn anfon neges destun nac e-bost yn gofyn am wybodaeth bersonol na manylion banc.
Bydd y tudalennau hyn yn parhau i gael eu diweddaru. Edrychwch yma yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu gwneud i gefnogi’r rhai y mae coronafeirws yn effeithio arnynt.
Am gyngor cyffredinol am goronafeirws gweler Coronafeirws: beth sydd angen i chi ei wneud
Am wybodaeth a chyngor iechyd gweler dudalennau’r GIG ar goronafeirws