Cymorth cyflogaeth a budd-daliadau

Cyflogwyr

Mae ystod o gymorth ar gael i helpu cyflogwyr i ddelio ar effaith yr achos o goronofeirws.

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi pecyn helaeth o fesurau ariannol, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi, pecyn rhyddhad Tâl Salwch Statudol ar gyfer busnesau bach a chanolig, a thaliadau TAW a Threth Incwm gohiriedig

Os oes gennych lai na 250 o weithwyr, byddwch yn gallu adennill Tâl Salwch Statudol ar gyfer gweithwyr sy’n methu â gweithio oherwydd coronafeirws. Bydd yr ad-daliad hwn am hyd at 2 wythnos i bob gweithiwr.

Os ydych yn cyflogi pobl, fe’ch anogir i ddefnyddio’ch disgresiwn ynglŷn â pha dystiolaeth, os o gwbl, y gofynnwch amdani wrth wneud penderfyniadau ynghylch tâl salwch. Os oes angen tystiolaeth, gall gweithwyr gael Nodyn Hunan-ynysu gan NHS 111 ar-lein os oes ganddynt symptomau, neu wefan NHS os ydynt yn byw gyda rhywun sydd â symptomau.

Gweler y cyngor i gyflogwyr am nodyn hunan-ynysu NHS 111 ar-lein.

Mae gwefan newydd helpucyflogwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig ystod o gyngor i helpu’ch busnes oresgyn yr heriau sy’n gysylltiedig â’r pandemig coronafeirws. Os ydych angen ehangu’n gyflym, neu’n poeni am ddiswyddiadau, gallwch ddod o hyd i gyngor am y ffyrdd gorau o gefnogi eich staff.

Darganfyddwch am gefnogaeth arall y llywodraeth i fusnesau y mae coronafeirws yn effeithio arnynt.

I’r busnesau hynny sy’n gweld eu bod angen cynyddu eu gweithlu o ganlyniad i’r achos o goronafeirws, fel y rhai mewn logisteg bwyd, paratoi ac adwerthu, cofiwch bostio swyddi gwag ar Dod o Hyd i Swydd

;