Hafan / Sut y gallai Credyd Cynhwysol eich helpu? / Cymorth os ydych mewn gwaith

Cymorth os ydych mewn gwaith

Os ydych mewn gwaith neu yn hunangyflogedig ac ar incwm isel, gallai Credyd Cynhwysol dal eich cefnogi ac ychwanegu i’ch cyflog.

Byddwch yn gallu cael cymorth penodol gan anogwr gwaith, os ydych angen un. Byddant yn eich helpu ddod o hyd i swydd newydd neu weld os allwch gynyddu faint rydych yn ei ennill.

Mae Credyd Cynhwysol yn hyblyg, ac wedi ei ddylunio i addasu i batrymau gwaith newidiol. Mae’n cael ei dalu yn fisol, ac fel ôl-daliad, fel rhan fwyaf o gyflogau. Mae hyn yn golygu os ydych yn ennill mwy (neu lai) mewn mis, bydd y swm o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei gael yn addasu yn awtomatig i wir adlewyrchu eich sefyllfa newydd. Ond os yw eich amgylchiadau, a’ch incwm, yn aros yr un peth bob mis, bydd eich taliad fel arfer yn hefyd.

Darllenwch fwy am Gredyd Cynhwysol a gwaith, gan gynnwys sut gall enillion effeithio ar eich taliadau.

Os ydych yn gweithio tra’n hawlio Credyd Cynhwysol, gallech hefyd hawlio yn ôl hyd at 85% o’ch costau gofal plant.

Nid oes cyfyngiad amser ar faint mor hir rydych yn cael cymorth ychwanegol â costau gofal plant gan Credyd Cynhwysol. Darllenwch fwy am Gredyd Cynhwysol a gofal plant.

Rheoli eich arian

Drwy gael Credyd Cynhwysol fel taliad sengl ar gyfer eich aelwyd, gallech ei weld yn hawsach i reoli eich arian. Mae ystod o wasanaethau cymorth ar gael i’ch helpu i gyllido, gan gynnwys gwasanaeth ar lein, sesiynau cyngor dros y ffôn, neu gymort wyneb i wyneb.

Darganfyddwch fwy am gymorth gyda rheoli eich arian a sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo.

Yn cael ffurf arall o gymorth ariannol yn barod?

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill neu gredydau treth yn barod (gan gynnwys Credyd Treth Plant, Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA), Lwfans Cyfnogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA) neu Gredyd Treth Gwaith), fe allai fod yn werth ystyried yr hyn y gall Credyd Cynhwysol ei gynnig.

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i gael dealltwriaeth o ba gymorth sydd ar gael a faint y gallai fod gennych hawl iddo.

Os ydych yn cael Lwfans Ceisio yn seiliedig ar incwm (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA), Cymhorthdal Incwm neu Budd-dal Tai efallai y gallwch gael hyd at werth 2 wythnos yn ychwanegol o’r taliadau hyn, lle rydych unai yn dewis gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, neu mae newid yn eich amgylchiadau sydd yn golygu eich bod angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Mae’n bwysig i sicrhau eich bod yn gallu cael Credyd Cynhwysol cyn gwneud cais amdano. Os ydych ar hyn o bryd yn cael budd-daliadau eraill neu gredydau treth ac yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd y budd-daliadau a credydau treth eraill hynny yn dod i ben ar unwaith. Os yw eich dyfarniad budd-dal neu gredyd treth yn dod i ben, ni ellir ei ail-agor, and ni fydd yn bosib gwneud cais am fudd-dal neu gredyd treth newydd yn y dyfodol, hyd yn oed os yw eich cais am Gredyd Cynhwysol yn aflwyddiannus. Os ydych ar hyn o bryd yn hawlio budd-daliadau eraill neu gredydau treth, a bod eich amgylchiadau yn newid (fel symud fewn gyda phartner, neu golli eich swydd), efallai y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

;