Beth bynnag yw eich amgylchiadau, mae Credyd Cynhwysol yn helpu i sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth ariannol rydych yn gymwys amdano mewn un lle, gyda’r holl help sydd yn iawn i chi, p’un ag ydych:
- mewn gwaith
- eisiau cynyddu eich enillion
- yn chwilio am waith
- yn methu â gweithio ar hyn o bryd
Gall gynnwys cymorth ariannol ar gyfer costau tai, plant a gofal plant, felly os ydych yn gymwys, bydd y swm rydych yn ei gael wedi’i addasu i’ch amgylchiadau personol unigryw.
Beth yw Credyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn helpu i sicrhau eich bod yn cael cymorth wedi ei deilwra sy’n addas i’ch bywyd, y tu hwnt i daliad misol. Gallai hyn gynnwys eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau, dod o hyd i waith neu gynyddu eich enillion.
Gyda Chredyd Cynhwysol rydych hefyd yn cael cyfrif ar-lein sydd yn eich helpu i gael mwy o reolaeth dros eich cais. Trwy eich cyfrif gallwch weld faint yr ydych yn cael eich talu a chysylltu ag anogwr gwaith neu reolwr achos am eich cais.
Darganfyddwch fwy am y cymorth Credyd Cynhwysol sydd ar gael: