Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n eich atal rhag gweithio, neu sy’n cyfyngu ar faint o waith y gallwch ei wneud, gall Credyd Cynhwysol fod o cymorth i chi.
Os na allwch weithio nawr ond o bosibl yn gallu paratoi am waith – gyda’r nod o weithio yn y dyfodol – gall anogwyr gwaith ddarparu cymorth a chyngor all eich helpu symud yn agosach i ddechrau gwaith. Gallai hyn gynnwys:
- dod o hyd i hyfforddiant addas, gan gynnwys mynediad at gynlluniau llywodraeth fel Kickstart, JETS a SWAPS os ydych yn gymwys
- cael mynediad at gymorth ychwanegol – ariannol neu arall
- eich cyfeirio i gymorth iechyd meddwl
- eich rhoi mewn cyswllt â grwpiau cymorth neu sefydliadau eraill all helpu
Os na allwch weithio, gall Credyd Cynhwysol parhau roi cymorth ariannol a chymorth sy’n gysylltiedig â gwaith. Darganfyddwch fwy am sut y gallai Credyd Cynhwysol fod o gymorth i chi os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd.
Rheoli eich arian
Drwy gael Credyd Cynhwysol fel taliad sengl ar gyfer eich aelwyd, gallech ei weld yn hawsach i reoli eich arian. Mae ystod o wasanaethau cymorth ar gael i’ch helpu i gyllido, gan gynnwys gwasanaeth ar lein, sesiynau cyngor dros y ffôn, neu gymort wyneb i wyneb.
Darganfyddwch fwy am gymorth gyda rheoli eich arian a sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo.
Yn cael ffurf arall o gymorth ariannol yn barod?
Os ydych yn cael budd-daliadau eraill neu gredydau treth yn barod (gan gynnwys Credyd Treth Plant, Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA), Lwfans Cyfnogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA) neu Gredyd Treth Gwaith), fe allai fod yn werth ystyried yr hyn y gall Credyd Cynhwysol ei gynnig.
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i gael dealltwriaeth o ba gymorth sydd ar gael a faint y gallai fod gennych hawl iddo.
Os ydych yn cael Lwfans Ceisio yn seiliedig ar incwm (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA), Cymhorthdal Incwm neu Budd-dal Tai efallai y gallwch gael hyd at werth 2 wythnos yn ychwanegol o’r taliadau hyn, lle rydych unai yn dewis gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, neu mae newid yn eich amgylchiadau sydd yn golygu eich bod angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Mae’n bwysig i sicrhau eich bod yn gallu cael Credyd Cynhwysol cyn gwneud cais amdano. Os ydych ar hyn o bryd yn cael budd-daliadau eraill neu gredydau treth ac yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd y budd-daliadau a credydau treth eraill hynny yn dod i ben ar unwaith. Os yw eich dyfarniad budd-dal neu gredyd treth yn dod i ben, ni ellir ei ail-agor, and ni fydd yn bosib gwneud cais am fudd-dal neu gredyd treth newydd yn y dyfodol, hyd yn oed os yw eich cais am Gredyd Cynhwysol yn aflwyddiannus.
Os ydych ar hyn o bryd yn hawlio budd-daliadau eraill neu gredydau treth, a bod eich amgylchiadau yn newid (fel symud fewn gyda phartner, neu golli eich swydd), efallai y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.