Hafan / Sut y gallai Credyd Cynhwysol eich helpu? / Cymorth os ydych yn chwilio am waith

Cymorth os ydych yn chwilio am waith

Os allwch weithio nawr neu yn y dyfodol, bydd anogwyr gwaith yn eich helpu i gyflawni eich nodau gwaith. Byddant yn dod i’ch adnabod er mwyn iddynt ddeal eich sefyllfa, ac felly yn darparu’r cymorth a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i chi.

Bydd anogwyr gwaith yno gyda chi drwy gydol eich siwrnai yn ôl i’r gwaith, a hyd yn oed yn gallu parhau i’ch cynghori pan fyddwch wedi dechrau swydd.

Mae’r cymorth ariannol a gewch drwy Credyd Cynhwysol yn ystyried eich amgylchiadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau fod eich biliau aelwyd hanfodol yn cael eu gofalu amdanynt, gan eich helpu chi i ganolbwyntio ar ddod o hyd i waith.

Pan ddaw i ymgeisio am swyddi gwag, gall anogwyr gwaith roi’r cyfle gorau o lwyddiant i chi. Gall eu cymorth gynnwys:

  • dangos sut i wneud i’ch CV sefyll allan
  • sicrhau bod eich sgiliau a’ch profiad yn cael eu cyfleu ar ffurflen gais
  • trefnu cyfweliadau ymarfer i’ch helpu fod ar eich gorau yn y cyfweliad go iawn
  • helpu gyda rhai costau teithio a dillad ar gyfer cyfweliadau

Darllenwch fwy am sut y gallai eich anogwr gwaith helpu. Ewch i wefan HelpSwyddi am gyngor arbenigol am ymgeisio am swyddi, ac awgrymiadau am sut i gymryd eich sgiliau i rôl gwbl newydd.

Rheoli eich arian

Drwy gael Credyd Cynhwysol fel taliad sengl ar gyfer eich aelwyd, gallech ei weld yn hawsach i reoli eich arian. Mae ystod o wasanaethau cymorth ar gael i’ch helpu i gyllido, gan gynnwys gwasanaeth ar lein, sesiynau cyngor dros y ffôn, neu gymort wyneb i wyneb.

Darganfyddwch fwy am gymorth gyda rheoli eich arian a sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo.

Yn cael ffurf arall o gymorth ariannol yn barod?

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill neu gredydau treth yn barod (gan gynnwys Credyd Treth Plant, Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA), Lwfans Cyfnogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA) neu Gredyd Treth Gwaith), fe allai fod yn werth ystyried yr hyn y gall Credyd Cynhwysol ei gynnig.

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i gael dealltwriaeth o ba gymorth sydd ar gael a faint y gallai fod gennych hawl iddo.

Os ydych yn cael Lwfans Ceisio yn seiliedig ar incwm (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA), Cymhorthdal Incwm neu Budd-dal Tai efallai y gallwch gael hyd at werth 2 wythnos yn ychwanegol o’r taliadau hyn, lle rydych unai yn dewis gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, neu mae newid yn eich amgylchiadau sydd yn golygu eich bod angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Mae’n bwysig i sicrhau eich bod yn gallu cael Credyd Cynhwysol cyn gwneud cais amdano. Os ydych ar hyn o bryd yn cael budd-daliadau eraill neu gredydau treth ac yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd y budd-daliadau a credydau treth eraill hynny yn dod i ben ar unwaith. Os yw eich dyfarniad budd-dal neu gredyd treth yn dod i ben, ni ellir ei ail-agor, and ni fydd yn bosib gwneud cais am fudd-dal neu gredyd treth newydd yn y dyfodol, hyd yn oed os yw eich cais am Gredyd Cynhwysol yn aflwyddiannus.

Os ydych ar hyn o bryd yn hawlio budd-daliadau eraill neu gredydau treth, a bod eich amgylchiadau yn newid (fel symud fewn gyda phartner, neu golli eich swydd), efallai y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

;